Ewch i’r prif gynnwys

Chwyldro mewn gofal cleifion

26 Chwefror 2018

Masters students during a simulation class

Mae gwlad Namibia, yn ne Affrica, yn gwneud cam mawr ymlaen mewn gwasanaethau meddygol sy'n achub bywydau gyda chefnogaeth Prifysgol Caerdydd.

Mae gan Namibia lai na 10 anesthetydd gwladol - sydd yn hanfodol ar gyfer gofal arbenigol a llawdriniaethau - i gefnogi poblogaeth o 2.5m o bobl.

Ond bydd hyn yn newid wrth i Namibia hyfforddi a datblygu anesthetyddion arbenigol am y tro cyntaf gyda chymorth Prosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd, partneriaeth lwyddiannus gyda Phrifysgol Namibia (UNAM).

Bydd y cwrs Meistr pedair blynedd newydd mewn anesthesia yn UNAM yn helpu i fynd i’r afael â’r prinder difrifol mewn anesthetyddion, sydd yn golygu rhestrau aros hir ar gyfer llawdriniaethau i gleifion a diffyg gofal arbenigol yn ystod llawdriniaethau brys.

Mae menywod 17 gwaith yn fwy tebygol o farw wrth roi genedigaeth yn Namibia nac yng Nghymru, yn aml gan nad oes neb i roi anesthesia. Pe bai gan Namibia nifer gymesur o anesthetyddion â Chymru, fe fyddai ganddo o leiaf 300 o arbenigwyr/ymgynghorwyr anesthetig cymwys.

Bydd y cwrs newydd wedi’i gefnogi gan yr Athro Hall ac arbenigwyr anestheteg o Brifysgol Caerdydd

Meddyliodd arweinydd Prosiect Phoenix, yr Athro Judith Hall, sydd yn anesthetydd ymgynghorol ei hun, am y syniad ar gyfer cwrs anesthesia newydd a gweithiodd gyda phartneriaid yn UNAM i’w ddatblygu.

Meddai: “Gall llawdriniaeth achub bywydau ond ni ellir rhoi llawdriniaeth heb anethesia, ac mae cyn lleied o anesthetyddion gwladol gan Namibia. Bydd y cwrs Meistr yn creu corff newydd o feddygon anaestheteg proffesiynol yn Namibia mewn niferoedd digonol i weddnewid y gofal yn llwyr. Bydd hefyd yn helpu i gefnogi gwasanaethau llawfeddygol sydd eisoes yn gorweithio, a gwella canlyniadau i gleifion mewn gwlad sy’n wynebu llawer o heriau gofal iechyd.”

Meddai’r Athro Frednard Gideon, Dirprwy Is-Ganghellor, Materion Academaidd yn UNAM:  "Bydd dechrau hyfforddi’r anesthetyddion yn lleihau’r pwysau ar ofal iechyd yn aruthrol a sut y rheolir poen yn ysbytai cyhoeddus Namibia. Mae hefyd yn hollbwysig er mwyn cael system gynaliadwy sy’n hyfforddi meddygon fel anesthetyddion yn y wlad.”

Dywedodd Ebba Shaanika, myfyriwr ar y Rhaglen Meistr mewn Anesthesia: "Nid oes digon o anesthetyddion yn sectorau iechyd chyhoeddus Namibia ar hyn o bryd. Rydym yn hapus i fod yn rhan o'r grŵp cyntaf ar raglen y Meistri ac yn arbenigo yn y maes, gan ei bod yn elfen bwysig pan mae cleifion yn cael llawdriniaeth.”

Prof Judith Hall and Dr Brian Jenkins supervise simulation class

Bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr, a ddechreuodd y cwrs newydd ym mis Chwefror, yn trawsnewid nifer yr anesthetyddion pwrpasol sydd ar gael.

Bydd y cwrs Meistr yn meithrin hunangynhaliaeth ar gyfer hyfforddiant anesthetyddion arbenigol ac yn gwella ansawdd gofal i gleifion.

Mae Prosiect Phoenix wedi darparu cyrsiau dwys mewn anesthetig a sgiliau gofal critigol i fyfyrwyr a meddygon ledled y wlad yn y gorffennol.

Mae Prosiect Phoenix yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNAM,  ac mae eu gwaith wedi cynnwys mentrau diogelwch ar y ffyrdd, hyfforddiant arbenigol i nyrsys a bydwragedd, datblygu meddalwedd a chefnogi cymunedau amlieithog Namibia.

Rhannu’r stori hon

Darllenwch mwy am ein prosiectau trawsffurfio cymunedau sy'n dangos ein hymrwymiad i wella lles cymunedau yng Nghymru a thu hwnt..