Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant i Brifysgol Caerdydd yn ‘Oscars’ Addysg Uwch

1 Rhagfyr 2017

THE Awards 2017 Logo

Mae Prifysgol Caerdydd wedi mwynhau noson hynod lwyddiannus yn ‘Oscars’ Addysg Uwch, Gwobrau Times Higher Education, drwy ennill dwy wobr bwysig.

Enillodd y Brifysgol y dlws am Gydweithrediad Rhyngwladol y Flwyddyn a gwobr Cyfraniad Rhagorol i’r Gymuned Leol mewn seremoni fawreddog yn Llundain.

Nod Prosiect Phoenix, partneriaeth y Brifysgol gyda Phrifysgol Namibia, yw ceisio gwella iechyd a lleihau tlodi yn Namibia, a chafodd ei disgrifio fel y cais ‘rhagorol’ ar gyfer gwobr y Cydweithrediad Rhyngwladol.

Cyn creu Prosiect Phoenix, dim ond dyrnaid o anaesthetyddion gwladol rhan-amser oedd yn gweithio yn Namibia. Erbyn hyn mae dros 100 o fyfyrwyr meddygol a swyddogion meddygol wedi'u hyfforddi mewn anesthesia.

Phoenix Project receive THE award
Aelodau o Brosiect Phoenix yn derbyn y wobr

Mae Phoenix wedi creu Pecyn Trawma Caerdydd hefyd i geisio achub bywydau yn dilyn damweiniau ar y ffyrdd yn ogystal â sefydlu cynhadledd meddalwedd ffynhonnell agored flynyddol i annog rhaglennwyr meddalwedd yn ne Affrica, a llywio prosiect i astudio a chefnogi ieithoedd yn Namibia.

Dywedodd y beirniaid fod y bartneriaeth, o dan arweiniad yr Athro Judith Hall o’r Ysgol Meddygaeth, yn “enghraifft ragorol o gydweithredu rhyngwladol".

Prosiect Treftadaeth CAER y Brifysgol enillodd wobr y Gymuned Leol. Mae’r prosiect yn bartneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd, elusen datblygu cymunedol Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a thrigolion, a sefydliadau treftadaeth blaenllaw yng Nghymru.

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar Fryngaer Caerau sy’n safle treftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae’r safle rhwng dwy ystâd o dai yng Nghaerdydd sydd ymhlith y wardiau mwyaf difreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd yng Nghymru.

Mae’r cynllun yn rhoi rôl ganolog i bobl leol mewn ymchwil archeolegol a hanesyddol drwy gynnal cloddiadau, dadansoddiadau arteffact, arddangosfeydd a ffilmiau.

Caer Heritage wins THE award
Aelodau o Brosiect Treftadaeth CAER yn derbyn y wobr

Mae CAER, dan arweiniad Dr Dave Wyatt o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, wedi creu partneriaethau gyda saith o ysgolion lleol gan gynnwys 1,538 o ddisgyblion mewn gweithgareddau ar y cyd. Mae bron 15,000 o ymwelwyr wedi cymryd rhan yn ei ddigwyddiadau hefyd.

Yn y cyfamser, cafodd yr Athro Jon Anderson, o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, ei enwi ar y rhestr fer yng nghategori Goruchwyliwr Ymchwil Rhagorol y Flwyddyn am ei waith rhagorol yn goruchwylio ymchwil amrywiol myfyrwyr o lu o wahanol gefndiroedd.

Cafodd GW4, cynghrair ymchwil ac arloesedd sy'n cynnwys prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg, ei henwi ar restr fer yng nghategori Arloesedd Technolegol y Flwyddyn am ei huwchgyfrifiadur Isambard – y cyntaf o'i fath yn y byd.

"Llongyfarchiadau i dimau Prosiect Phoenix a Threftadaeth CAER ar eu llwyddiant yng ngwobrau Times Higher Education. Rwy'n falch iawn o'n gwaith ymgysylltu, felly mae'n braf gweld ymrwymiad ac ymroddiad cymaint o bobl yn cael cydnabyddiaeth fel hyn."

Dywedodd yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

Rhannu’r stori hon

Darllenwch mwy am ein prosiectau trawsffurfio cymunedau sy'n dangos ein hymrwymiad i wella lles cymunedau yng Nghymru a thu hwnt..