Ewch i’r prif gynnwys

Blaenoriaeth i’r Braster

1 Rhagfyr 2015

Celloedd gwaed coch a lipidau
Celloedd gwaed coch a lipidau

Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, clefyd cardiofasgwlaidd (CVD) yw prif achos marwolaeth ar draws y byd. Mae gwyddonwyr sy’n gweithio yn y Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd newydd yn credu bod moleciwlau bach a elwir yn lipidau (neu “frasterau”) yn ganolog i’r epidemig hwn.

Byddai angen ymdrech arwrol i ddeall yn llawn yr hyn mae lipidau’n ei wneud a’r rôl maen nhw’n eu chwarae mewn achos o CVD. Ceir degau o filoedd o’r moleciwlau unigryw hyn yn ein cyrff - hyd yn oed mewn un gell - gyda nifer di-ri eto i’w darganfod.

Dyma’r her sy’n wynebu’r Athro Valerie O’Donnell a’i thîm, sy’n cynnwys biocemegwyr ac imiwnolegwyr. Mae eu hymchwil sylfaenol yn ceisio dadansoddi bioleg lipidau a’r modd maen nhw’n cyfrannu at gyflyrau sy’n bygwth bywyd fel tolchenau, croniadau braster a chaledu rhydwelïau.

Yn gynharach eleni, ymwelodd Joanne Oliver, cyn-nyrs a Rheolwr Datblygu Ardal ar ran Sefydliad Prydeinig y Galon yn ne Cymru, â Valerie yn ei labordy i ddysgu mwy am ei gwaith a’r hyn mae’n ei olygu i bobl sy’n byw gyda CVD.

Jo Oliver o Sefydliad Prydeinig y Galon gyda'r Athro Valerie O’Donell.
Jo Oliver o Sefydliad Prydeinig y Galon gyda'r Athro Valerie O’Donell.

JO: Wnewch chi sôn ychydig am eich ymchwil?

VO: Mae fy ymchwil yn ymwneud yn bennaf â lipidau a sut maen nhw’n rheoli llid mewn clefyd cardiofasgwlaidd.

Yn draddodiadol rydyn ni’n meddwl am lipidau fel dihirod sy’n teithio drwy ein cyrff yn gwneud pethau drwg i waliau ein gwythiennau gan arwain at glefyd y galon. Ond dehongliad or-syml yw hyn, nad yw’n gwbl gywir.

Mae ein tîm ni’n dynodi lipidau newydd sy’n cael eu gwneud gan gelloedd gwaed sy’n cylchredeg, gan geisio deall sut maen nhw’n rheoleiddio prosesau iach normal, a beth i’w wneud pan fydd hyn yn mynd o’i le gyda’r gwythiennau’n dioddef CVD.

Mae llawer o swyddogaethau pwysig gan lipidau. Er enghraifft, mae strwythur eich celloedd - pilyn eich celloedd - wedi’i greu o lipidau. Maen nhw’n ffynhonnell bwysig o ynni a hefyd yn foleciwlau sy’n arwyddbyst.

Pe baech chi’n eich torri neu anafu eich hun, mae nifer o wahanol gelloedd gwaed yn mynd at safle’r anaf i’ch atal rhag gwaedu ac atal bacteria rhag dod i mewn. Rhan fawr o’r modd mae’r celloedd yn gwneud hyn yw defnyddio lipidau i arwyddo i’w gilydd. Gelwir hyn yn llid.  Ond pan fydd llid yn digwydd yn y lle anghywir, yna mae lipidau’n rhan fawr o’r broblem.

Os caiff y lipidau hyn eu cynhyrchu’n ddwfn yn y wythïen yn hytrach nag allan yn safle’r briw, maen nhw’n dechrau sefydlu adweithiau llidus yn y lle anghywir a gall hynny fod yn ddechrau arthrosclerosis (cyflwr pan fydd wal rhydweli’n tewychu o ganlyniad i ddyddodion plac brasterog).

Mae gwaith fy ngrŵp i’n ymwneud â darganfod lipidau newydd mewn celloedd dynol gan ddefnyddio sbectrometreg màs, ac yna creu’r lipidau newydd drwy synthesis cemegol er mwyn i ni allu deall eu cyfraniad at achosi clefyd cardiofasgwlaidd a sut maen nhw’n rheoleiddio llid yn ogystal â phrosesau gwella naturiol.

Mae’r sefydliad newydd yn ein caniatáu i arddangos y gwaith yng Nghaerdydd, ac ein rhoi ar lwyfan byd-eang ar gyfer ymchwil imiwnedd.

Yr Athro Valerie O'Donnell Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau

JO: Pe bai cefnogwyr Sefydliad Prydeinig y Galon yn gofyn pam ydyn ni’n cyllido eich ymchwil, beth allwch chi ddweud wrthyn ni am y datblygiadau rydych chi wedi’u gwneud a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud hyd yma?

VO: Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar y wyddoniaeth sylfaenol, felly mae’n cymryd blynyddoedd lawer i’r buddion posibl gyrraedd y cleifion.

Megis dechrau’r gwaith yw deall beth mae’r lipidau hyn yn ei wneud. Rhaid i ni ddeall bioleg ein system fasgwlaidd cyn i ni allu gobeithio datblygu triniaethau newydd i’r clefyd.

Dyw hi ddim mor syml â bod bwyta gormod o fraster yn achosi clefyd y galon. Mae’n ymwneud mwy â’r lipidau rydyn ni’n eu gwneud yn ein cyrff a sut maen nhw’n ymateb i haint, ymarfer corff, ysmygu, ein genynnau a’n ffordd o fyw.

Ar y cam hwn rydyn ni’n edrych i weld beth mae’r lipidau newydd rydyn ni wedi’u darganfod yn ei wneud pan fydd clefyd y galon yn datblygu. Ar y llaw arall, mae rhywfaint o’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud yn ddiweddar gyda haematolegwyr yn ceisio datblygu cyffuriau newydd a allai hybu ceulo’r gwaed gan fod gwaedu gormodol yn broblem fawr mewn anafiadau trawma, llawdriniaeth ac anhwylderau gwaedu etifeddol.

Mae lipidau eraill rydyn ni wedi gweithio arnyn nhw gyda chydweithwyr yn UDA bellach mewn treialon clinigol ar gyfer anhwylderau llidiol ond maen nhw’n dal ymhell o fod yn gyffuriau sydd ar gael i gleifion. Ond dyna’r nod yn y pen draw.

JO: Rydych chi bellach yn gyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd. Sut fydd strategaeth ymchwil newydd y Sefydliad yn fuddiol i’ch maes ymchwil chi?

VO: Mae’r dull newydd rydyn ni wedi’i fabwysiadu yn y Sefydliad yn ymwneud â chymhwyso dulliau mathemateg a chyfrifiadureg i’n hymchwil - rhywbeth sydd angen ei wneud yn gynyddol - oherwydd y dyddiau hyn rydyn ni’n cynhyrchu llawer iawn o ddata ac mae’n her anferth i’w ddadansoddi a’i ddeall.

Mae’r Sefydliad newydd yn caniatáu i ni arddangos y gwaith yng Nghaerdydd, ac mae’n ein gosod ni ar lwyfan byd-eang ymchwil imiwnedd. Ar gyfer fy ymchwil fy hun mae wedi bod yn rhyfeddol.Mae gennym ni brosiectau ar y cyd yn yr Ysgol Gwyddorau Cyfrifiadurol a Gwybodeg sy’n ein helpu ni i ysgrifennu meddalwedd ac awtomeiddio ein prosesau er mwyn i ni allu ymdrin â’r sypiau data anferthol mae ein sbectromedrau màs yn eu cynhyrchu.

Mae hyn yn caniatáu i ni ddarganfod mwy o lipidau newydd ac yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i weld pa lipidau sy’n werth eu hymchwilio mewn astudiaethau manylach. Mae hefyd yn caniatáu i ni gymharu lipidau mewn pobl gyda mwtaniadau genetig amrywiol sy’n gysylltiedig â chlefyd cardiofasgwlaidd a dementia.

JO: Beth hoffech chi ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf o ran eich ymchwil?

VO: Mae llawer iawn i’w wneud, gan gynnwys darganfod rhagor o lipidau, gweld beth maen nhw’n ei wneud ac yna eu trosi’n ffyrdd newydd i gael diagnosis neu i drin clefyd cardiofasgwlaidd ac anhwylderau llidiol eraill.

Rydyn ni’n credu bod un math o gell yn cynnwys tua 5,500 o lipidau unigryw, gyda hanner o’r rhain yn gwbl newydd. Mae’n fwy na digon i’n cadw ni’n brysur am flynyddoedd maith.

Rydyn ni’n gweithio fel tîm rhyngddisgyblaethol, sy’n cynnwys cemegwyr, gwyddonwyr cyfrifiadurol, biolegwyr celloedd a chlinigwyr. Gwaith caled y grŵp cyfan sy’n gyfrifol ein bod yn llwyddo i wneud y gwaith hwn o gwbl.

Darllenwch y cyfweliad llawn

Fersiwn fyrrach yw hon o'r cyfweliad llawn a oedd yn rhifyn y Gaeaf o Herio Caerdydd, ein cylchgrawn ymchwil.

Yr ymchwilydd

Yr Athro Valerie O'Donnell

Yr Athro Valerie O'Donnell

Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau

Email
o-donnellvb@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7313

Sefydliad ymchwil

Systems Immunity Research Institute

Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd

Deall imiwnedd, hwyluso triniaeth.

Rhannu’r stori hon