Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau newydd yn dathlu amrywiaeth y tafodieithoedd Cymraeg

8 Rhagfyr 2017

Lansiwyd adnoddau newydd ar dafodieithoedd Cymru a’r Wladfa, i gynorthwyo addysgwyr, actorion a sgriptwyr, mewn digwyddiad rhyngweithiol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ar 30 Tachwedd 2017.

Crëwyd yr adnoddau gan Dr Iwan Wyn Rees, darlithydd yn Ysgol y Gymraeg ac arbenigwr nodedig ym maes tafodieitheg, o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae dau adnodd – un ar dafodieithoedd y Wladfa ac un i gynorthwyo gwaith sgriptwyr ac actorion – sydd bellach ar gael trwy lyfrgell adnoddau’r Coleg.

Pwrpas adnodd y Wladfa yw cyflwyno am y tro cyntaf amrywiadau tafodieithol cyfoes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Mae’r adnodd yn cynnig cyfle i wrando ar Gymraeg llafar gwahanol fathau o siaradwyr o’r Wladfa, ac i gyd-fynd â’r clipiau hynny, ceir nodiadau manwl yn tynnu sylw at amrywiaeth o nodweddion tafodieithol.

Dyma adnodd addysgol yn bennaf gyda’r amcan o godi ymwybyddiaeth addysgwyr o ffurfiau Gwladfaol cynhenid sydd i’w clywed o hyd gan rai carfanau o siaradwyr Cymraeg y Wladfa.

Dywed Dr Rees: “Mae yna ddadl bod unrhyw fath o Gymraeg yn well na dim Cymraeg o gwbl ac er nad ydw i’n anghytuno, dwi o’r farn fod annog siaradwyr i deimlo balchder a hyder yn eu tafodiaith yn ffordd wych o adfywio’r Gymraeg yn gyffredinol. Mae tafodieithoedd Cymraeg y Wladfa wedi datblygu mewn ffordd unigryw ers 1865 ac felly pam dylai dysgwyr Patagonia orfod dysgu amrywiad sy’n perthyn i Gymru?”

“Fy ngobaith i yw bydd yr adnodd newydd yma yn perswadio addysgwyr i beidio ag anwybyddu tafodiaith draddodiadol y Wladfa ac felly atal diflaniad rhai geiriau ac ymadroddion sy’n unigryw i’r rhan yma o’r byd.”

Cynorthwyo sgriptwyr ac actorion

Ar noson y lansiad, cyflwynwyd yr ail adnodd – i sgriptwyr ac actorion – gyda chymorth y perfformwyr Caryl Parry Jones a Rhian Morgan. Daeth y ddwy â sawl cymeriad yn fyw ar y noson i arddangos amrywiaeth tafodieithol Cymru. Roedd y ddwy hefyd yn gymorth mawr i Dr Rees wrth iddo greu’r adnodd.

Dywed: “Bwriad yr adnodd yw helpu actorion a sgriptwyr Cymraeg i ymgyfarwyddo â gwahanol amrywiadau tafodieithol a hwyluso defnydd ymarferol yn eu gwaith bob dydd. Mae yna glipiau fideo a sain o dafodieithoedd o bob cwr o Gymru ac o wahanol gyfnodau.”

Mae'r adnodd eisoes wedi cael ei ddefnyddio gan y Theatr Genedlaethol ar gyfer eu cynhyrchiad o ‘Nansi’ yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015. Esboniodd Dr Rees: “Roeddwn i'n digwydd gweithio ar yr adnodd pan ddaeth y Theatr Genedlaethol ata'i i ofyn am ganllawiau ar dafodiaith Maldwyn. Roedd ‘Nansi’ yn ddrama hynod lwyddiannus gan Yr Athro Angharad Price, ac aeth hi ar daith o gwmpas Cymru ar ôl yr Eisteddfod. Roedd hi'n braf iawn gweld clipiau'r adnodd yn cael eu defnyddio gan actorion profiadol at bwrpas ymarferol - ac yn wir, mi lwyddodd yr actorion yn gampus i ddod â thafodieithoedd Dyffryn Banw a Dyffryn Tanat yn fyw i'r gynulleidfa.”

Ers hynny mae Dr Rees wedi cwblhau ei waith ar yr adnodd sydd bellach yn cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr a chwmnïau perfformio eraill.

Meddai: “Dwi’n hynod falch fod y ddau adnodd yn cael eu defnyddio at ddibenion ymarferol ac yn helpu i hyrwyddo a diogelu tafodieithoedd Cymru a’r Wladfa.”

Archwiliwch yr adnoddau (Adnodd y Wladfa ac Adnodd i Sgriptwyr ac Actorion) ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.