Ewch i’r prif gynnwys

Gallai cyffur i bobl â llyngyr rhuban arwain y frwydr yn erbyn clefyd Parkinson

12 Rhagfyr 2017

Parkinson's disease 3D illustration showing neurons containing Lewy bodies

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Dundee, wedi canfod moleciwl cyffur mewn meddyginiaeth a ddefnyddir i drin heintiau llyngyr rhuban, a allai arwain at driniaethau newydd i gleifion â chlefyd Parkinson.

Mae clefyd Parkinson yn anhwylder dirywiol hirdymor ar y system nerfol sydd, yn ôl elusen Parkinson's UK, yn effeithio ar un person o bob 500. Golyga hynny fod tua 127,000 o bobl yn byw gyda chlefyd Parkinson, a hynny yn y DU yn unig.

Dros y degawd diwethaf, mae ymchwilwyr sy'n ceisio canfod ffyrdd o wella'r clefyd dinistriol hwn wedi canolbwyntio ar brotein yn y corff dynol o'r enw PINK1. Deellir mai un o'r prif ffactorau sy'n achosi clefyd Parkinson yw pan mae'r protein hwn yn ddiffygiol.

Mae sawl astudiaeth wedi awgrymu y gallai darganfod cyffur sy'n gallu gwella gweithrediad PINK1 fod yn gam pwysig ymlaen i atal niwroddirywiad ac arafu neu hyd yn oed trin clefyd Parkinson.

Gyda'r wybodaeth hon mewn cof, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd a Dundee wedi darganfod bod cyffur a ddefnyddir fel arfer i drin heintiau llyngyr rhuban, o'r enw Niclosamide, hefyd yn fodd effeithiol o ysgogi protein PINK1.

At hynny, mae'r ymchwil, sydd wedi'i hariannu gan The Wellcome Trust, wedi datgelu bod Niclosamide a rhai o'i ddeilliadau yn gallu gwella perfformiad PINK1 mewn celloedd a niwronau. Mae hyn wedi rhoi rheswm i'r ymchwilwyr i gredu y gallai'r cyffur hwn gynnig gobaith newydd i gleifion sy'n byw gyda chlefyd Parkinson.

Dywedodd un o arweinwyr yr astudiaeth, Dr Youcef Mehellou, o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd: "Y gwaith hwn yw'r cyntaf i ddarganfod bod cyffur a ddefnyddir yn glinigol yn ysgogi PINK1, a gallai hyn gynnig modd o drin clefyd Parkinson..."

"Byddwn nawr yn mynd â'n canfyddiadau i'r lefel nesaf drwy werthuso gallu Niclosamide i drin clefyd Parkinson mewn modelau clefyd. Mae hwn yn gam cyffrous yn ein hymchwil, ac rydym yn teimlo'n gadarnhaol am yr effaith hirdymor y gallai ei chael ar fywydau ein cleifion."

Dr Youcef Mehellou Lecturer

Mae'r ymchwil ‘The Anthelmintic Drug Niclosamide and its Analogues Activate the Parkinson’s Disease Associated Protein Kinase PINK1’ wedi'i gyhoeddi yn ChemBioChem.

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o ysgolion fferylliaeth gorau'r DU ac mae gennym enw da yn rhyngwladol am ansawdd ein hymchwil.