Ewch i’r prif gynnwys

Panalpina yn cyhoeddi enillydd y wobr 'Meddwl Arloesol'

6 Rhagfyr 2017

Creative thinking

Mae Panalpina, partner Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi enillydd diweddaraf ei gwobr flynyddol ar gyfer Meddwl Arloesol a Strategol.

Yn flynyddol, mae’r cwmni cludo nwyddau logistaidd anferth o’r Swistir yn gwahodd myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd i weithio gydag uwch-reolwyr ac i rannu syniadau ar arloesedd yn y gadwyn gyflenwi.

Enillodd Giulia Zorzi, myfyriwr MSc yn Ysgol Busnes Caerdydd wobr 2017 am ei syniadau ynghylch newid llif masnach ryngwladol, a buddion y gadwyn gyflenwi ar gyfer gweithgynhyrchu gwasgaredig.

Astudiodd Guilia, 28 oed, o'r Eidal, Reolaeth, Cyllid a Busnes Rhyngwladol ym Mhrifysgol Milan cyn ymgymryd ag MSc mewn Cludiant Rhyngwladol yn yr Ysgol Busnes.

Dywedodd Guilia: "Cefais gynnig cyfle gwych gan Panalpina i gymryd rhan mewn prosiect busnes byw, ac roedden nhw'n gwerthfawrogi fy ymchwil..."

"Dwi wedi ehangu fy arbenigedd a chael cyfle i ymchwilio i dueddiadau cyfredol a dyfodol y diwydiant logisteg wrth weithio ar y prosiect hwn. Gobeithio bydd yn ymestyn gwybodaeth Panalpina ar ffactorau sy'n dylanwadu ar eu hamgylchedd busnes."

Giulia Zorzi myfyriwr MSc, Ysgol Busnes Caerdydd

Bellach yn ei phumed flwyddyn, mae'r wobr yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau busnes, ac mae Panalpina’n elwa drwy wella eu heffeithlonrwydd gweithredol.

Dywedodd Mike Wilson, Pennaeth Byd-eang Logisteg a Gweithgynhyrchu Panalpina: "Mae gan y wobr oblygiadau ymarferol ar gyfer ein busnes. Mae mwy iddi na myfyrwyr yn gwneud rhywfaint o ymchwil fel 'prosiect ar yr ochr': mae llawer o'r syniadau a gynhyrchir gan y wobr yn cael eu mabwysiadu gan ein busnes ac yn cael eu hintegreiddio’n rhan o’n cynlluniau a strategaeth busnes."

Helpodd y Wobr i greu gyrfa fyd-eang newydd Kaicheng Xie, myfyrwyr Tsieineaidd yr enillydd cyntaf erioed.

Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Guangzhou, astudiodd Kaicheng MSC mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau ym Mhrifysgol Caerdydd– a chafodd y cyfle i gyflwyno ar gyfer Gwobr Panalpina ar gyfer Meddwl Strategol ac Arloesol yn 2013

Enillodd Kaicheng y wobr, a chafodd ei gyflogi gan y cwmni sydd â’i bencadlys yn Basel, ac mae wedi troi ei syniadau ymchwil yn realiti. Ymunodd y dyn 28 oed â thîm Panalpina yn Singapôr i ddechrau, ond mae bellach wedi symud i Dubai ac yn gweithio yn nhîm Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Logisteg Panalpina.

Dywedodd Kaicheng: "Mae Panalpina wedi bod yn lle gwych i ddatblygu fy ngyrfa a theithio'r byd. Mae'r cwmni wedi cynnig cyfleoedd anhygoel. I ddechrau roeddwn yn Beiriannydd Logisteg Ranbarthol Asia Pacific yn Singapôr, ond dwi wedi symud i Dubai i fod yn Beiriannydd Gwella Busnes Logisteg y Wlad, yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig..."

"Rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd gwych, nid yn unig gan y timau lleol, ond hefyd gan dimau corfforaethol, i roi ar waith yr hyn a ddysgais, mewn prosiectau byd-eang ac i wneud gwahaniaeth yn y byd logisteg go iawn."

Kaicheng Xie Panalpina

Mae Gwobrau Panalpina eleni wedi denu myfyrwyr newydd o Ysgol Peirianneg ac Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd, gan ddatblygu syniadau newydd clyfar ar bynciau gan gynnwys atebion e-fasnach a gweithgynhyrchu ychwanegion.

Cyflwynwyd y wobr i Giulia, ynghyd â’i goruchwyliwr academaidd Wessam Abouarghoub, gan Fevos Charalampidis a Hrishikesh Pawar o Ysgol Busnes Caerdydd, sy'n arwain prosiect ymchwil dwy flynedd i ddatblygu dull gweithredu i helpu cwsmeriaid i asesu gallu eu cadwyn gyflenwi i gyflwyno Argraffu 3D.

Ychwanegodd Guilia: "Mae ennill Gwobr am Feddwl Strategol ac Arloesol Panalpina yn fraint arbennig i mi. Hoffwn ddiolch i fy ngoruchwyliwr, Dr. Wessam Abouarghoub, a thîm Panalpina yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn enwedig Mr. Hrishikesh Pawar, am eu cymorth a'u cefnogaeth."