Ewch i’r prif gynnwys

Premiere #CONNECT yng Nghymru

1 Awst 2017

Premiere #CONNECT Daniel Bickerton St David's Hall
Premiere #CONNECT yng Nghymru yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Oherwydd llwyddiant enfawr premiere byd #CONNECT yn Neuadd Frenhinol Albert ym mis Tachwedd 2016, ceisiwyd sicrhau perfformiad o gyfansoddiad Dr Daniel Bickerton, a gafodd fri rhyngwladol, ar gyfer Arddangosiad Cerdd Gwent yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Cynhaliwyd Premiere Cymru ar 26 Mehefin, dan arweiniad Dr Bickerton ac unwath eto gyda Timothy Johnston ar yr offer electronig. Bu Timothy, sydd wedi graddio’n ddiweddar o’r Ysgol Gerddoriaeth gyda gradd BMus dosbarth cyntaf, gynt yn gweithio gyda Dr Bickerton i gynhyrchu ei berfformiad fel rhan o Raglen Cyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd (CUROP).

Dychwelodd 650 o gerddorion ifanc dawnus i roi perfformiad terfynol yn yr arddangosiad, ac roedd y lle dan ei sang.   Roedd yr arlwy yn cynnwys dros 400 o gantorion a 200 o offerynwyr, gan gynnwys ensemble jazz, llinynnau, ac offer taro, yn ogystal â dawnswyr, bît-bocswyr ac electro-acwsteg.

Nod #CONNECT yw dathlu esblygiad technolegol, ac mae pedwar symudiad i’r gwaith, pob un ohonynt yn canolbwyntio ar wahanol agwedd ar dechnoleg.

Cynhaliwyd cyfweliad â Dr Bickerton cyn y perfformiad a dywedodd: "Mae'n dân ar fy nghroen pan fydd pobl yn dweud bod y celfyddydau’n marw yng Nghymru: dyw hynny ddim yn wir! Cyllid, cefnogaeth ariannol ac amser ar y cwricwlwm ar gyfer y celfyddydau sy’n marw allan.”

"Mae’r prosiect yma’n ceisio rhoi cyfle i berfformwyr talentog o ystod amrywiol o gefndiroedd gydweithio mewn perfformiad cyffrous, cyfoes sy'n canolbwyntio ar faterion sy'n eithriadol o berthnasol iddyn nhw yn ein dyddiau ni."

"Mae'n bleser mawr, fel un sy’n cynrychioli Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd, ymwneud â phrosiect mor fawr sy’n dathlu’r genhedlaeth nesaf o gerddorion.  Rwyf wrth fy modd yn cael gwahoddiad yn ôl ar gyfer premiere Cymru o #CONNECT ar ôl perfformiad mor gofiadwy yn Llundain fis Tachwedd diwethaf."

Y tu hwnt i #CONNECT mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai prysur i Dr Bickerton, y cafodd darn newydd ganddo, Mad About ThaT, ei gomisiynu a’i berfformio’n ddiweddar gan Fand Mawr y Brifysgol, a fu ar daith yng Ngwyliau Jazz Montreux ac Evian y mis yma.

Dr Daniel Bickerton Cardiff High String Orchestra Workshop
Dr Daniel Bickerton yn arwain gweithdy gyda Cherddorfa Linynnau Ysgol Uwchradd Caerdydd

Yn ddiweddar perfformiwyd Equation, darn sy’n unawd piano, a’i recordio gan Catherine Milledge ym Mhrifysgol Caerdydd, a pherfformiwyd  Sea of Stone (o Tyne Cot Sketches) gan Rebekah Weatherby yn y Clothworkers Centenary Concert Hall, Leeds, fel rhan o ddatganiad o gerddoriaeth gyfoes i’r piano.

Bu Dr Bickerton hefyd yn cydweithio’n ddiweddar â Cherddorfa Linynnau Ysgol Uwchradd Caerdydd ar berfformiad arbennig ar gyfer cyngerdd mawreddog yn yr haf.  Ar y diwrnod bu Dr Bickerton yn arwain y chwaraewyr llinynnau mewn cyfres o sesiynau adrannol a gweithdai creadigol ar 28 Mehefin.

Roedd y perfformiad terfynol yn llwyddiant ysgubol, a disgrifiodd y cyfarwyddwr cerdd, Sophie Faria y gweithdy fel "hwb aruthrol ar gyfer y myfyrwyr."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.