Ewch i’r prif gynnwys

Gall rhanbarth 'Gorllewin Gwych' y Great Western wneud y Deyrnas Unedig yn arweinydd byd-eang, ym marn Is-gangellorion ac arweinwyr diwydiant

26 Ionawr 2017

GW4 delegates at Westminster

Dywedwyd wrth ASau y gall De Orllewin Lloegr a De Ddwyrain Cymru adennill gweledigaeth uchelgeisiol Isambard Kingdom Brunel fel rhanbarth hyper-gysylltiedig, deallus ac arbenigol.

Mewn digwyddiad llwyddiannus yn Nhŷ’r Cyffredin dan nawdd Ben Bradshaw AS, cyfarfu cynrychiolwyr o brifysgolion blaenllaw, Partneriaethau Menter Lleol a sefydliadau mawr â gwleidyddion i drafod sut gallant weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y rhanbarth yn cael ei gydnabod fel pwerdy economaidd yn ei rinwedd ei hun, ochr yn ochr â Phwerdy'r Gogledd ac Injan Canolbarth Lloegr.

Trefnwyd y digwyddiad gan gonsortiwm Archwilio Gwyddoniaeth ac Arloesi De Orllewin Lloegr a De Ddwyrain Cymru, ac fe’i cynhaliwyd gan Is-gangellorion Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Plymouth a Phrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste, i gyd.

Galwodd yr Athro Fonesig Glynis Breakwell, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerfaddon, ar arweinwyr i fod yn feiddgar yn eu huchelgais ar gyfer De Orllewin Lloegr a De Ddwyrain Cymru, dan arweiniad yr Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi diweddar a ddisgrifiwyd ganddi fel "y gwerthusiad pwysicaf a wnaed erioed o waith ymchwil a gallu diwydiannol ein rhanbarth..."

"“Daeth yr archwiliad i'r casgliad y gallwn arwain y Deyrnas Unedig a chystadlu ar draws y byd ym meysydd Peirianneg Uwch ac Arloesi Digidol."

Yr Athro Fonesig Glynis Breakwell Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerfaddon

Dan thema Peirianneg Uwch, mae gennym y sector awyrofod mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac arbenigedd sy'n arwain y byd mewn sectorau modurol, niwclear, y gofod, morol ac ynni adnewyddadwy morol a microelectroneg. Mae ein rhanbarth yn gwbl briodol yn cael ei gysylltu ag arloesi digidol, gyda'r ail glwstwr Economi Ddigidol mwyaf y tu allan i Lundain.

Ein galwad ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw cydnabod y cryfderau dihafal hyn drwy fuddsoddi wedi ei ganolbwyntio, a hefyd mae’n rhaid i ni fanteisio ar y cysylltiadau gwerthfawr a gafodd eu meithrin gan y broses Archwilio Gwyddoniaeth ac Arloesi.”

Nododd yr Archwiliad fod y rhanbarth yn gartref i sector awyrofod mwyaf y Deyrnas Unedig; y clwstwr economi ddigidol mwyaf cynhyrchiol ac ail fwyaf o ran maint (y tu allan i Lundain) yn y Deyrnas Unedig; gorsaf pŵer niwclear gyntaf y Deyrnas Unedig ers cenhedlaeth; mwy o arbenigedd ar yr hinsawdd nag unrhyw ardal arall ledled y byd; a photensial ar gyfer clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd.

Siaradodd Dr Sarah Perkins, Cyfarwyddwr GW4, ar ran y consortiwm Archwilio Gwyddoniaeth ac Arloesi i gyhoeddi lansio tasglu arbennig gyda'r nod o sicrhau bod llais y rhanbarth yn cael ei glywed yn San Steffan.

Dywedodd: "Rhoddodd yr archwiliad dystiolaeth heb ei hail o sectorau Peirianneg Uwch ac Arloesi Digidol gyda’r gorau yn y byd, yma ar garreg ein drws..."

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'n partneriaid mewn prifysgolion eraill, diwydiant a Phartneriaethau Mentrau Lleol i adeiladu a chryfhau rhwydwaith y Great Western."

Dr Sarah Perkins Cyfarwyddwr GW4

Bu Wyn Meredith, Cyfarwyddwr y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a gwneuthurwr wafferi lled-ddargludyddion uwch byd-eang IQE), yn trafod ei uchelgeisiau ar gyfer clwstwr lled-ddargludyddion cyntaf y byd yn y rhanbarth, gan ddwyn craidd disgyrchiant y dechnoleg arloesol hon "o Dde California i Dde Cymru".

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Roedd digwyddiad heddiw yn arddangos ymchwil gyda’r gorau yn y byd a chryfderau diwydiannol De Ddwyrain Cymru a De Orllewin Lloegr, ac rydym yn falch iawn fod y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sy’n bartneriaeth arloesol rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE plc, wedi ei nodi fel esiampl..."

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda phrifysgolion eraill, Partneriaethau Mentrau Lleol ac arweinwyr diwydiant yn y rhanbarth i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig."

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd

Bu uwch gynrychiolwyr o sefydliadau mawr yn y rhanbarth, gan gynnwys Airbus ac Oracle, yn disgrifio sut gall ymchwilwyr a phartneriaid yn y diwydiant weithio gyda'i gilydd i ddatblygu atebion arloesol i heriau byd-eang, a chreu cyfoeth a swyddi ar gyfer cymunedau lleol.

Bydd Tasglu De Orllewin Lloegr a De Ddwyrain Cymru yn gweithio gyda'i gilydd yn awr i weithredu argymhellion yr Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi a sicrhau bod y rhanbarth yn cael ei gydnabod yn San Steffan fel pwerdy economaidd yn ei rinwedd ei hun.

Rhannu’r stori hon

Yn dod â phedair o'r prifysgolion mwyaf ymchwil-ddwys ac arloesol yn y DU at ei gilydd; prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg.