Ewch i’r prif gynnwys

Cerddoriaeth gyfoes fel ymarfer creadigol

Ymgysylltu â safbwyntiau diwylliannol, beirniadol a dadansoddol am ymarfer cerddorol creadigol ar ôl 1900.

Mae meysydd ymchwil presennol yn y ffrwd hon yn cynnwys ymagweddau a phrosesau cyfansoddiadol cyfansoddwyr Prydeinig ôl-ryfel, tueddiadau sy’n dod i’r amlwg yng ngherddoriaeth yr unfed ganrif ar hugain, cerddoriaeth i’r sgrîn a ffilmiau, a chyfansoddwyr yn Ffrainc yr ugeinfed ganrif.

Mae ymchwil ymarferol hefyd yn cynnwys recordiadau o fri o repertoire piano heb ei recordio o’r blaen, a premières rhyngwladol o gyfansoddiadau gan ein staff.

Mae ein staff cyfansoddi yn cydweithio’n rheolaidd â sefydliadau allweddol yng Nghaerdydd, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Prosiectau

Mae prosiectau parhaus presennol ynghylch y ffrwd hon yn cynnwys Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme yr Athro Arlene Sierra, i ategu ei phrosiect cyfansoddiadol “Ecolegau Cerddorfaol”.

Mae ei phrosiectau diweddar wedi cynnwys Bhekizizwe, opera gan Dr Robert Fokkens sy’n archwilio cysyniadau o hil, hunaniaeth a rhagor drwy fywyd Dyn Zulu De Affricanaidd, a The Oxford Handbook of Cinematic Listening, a olygodd Dr Carlo Cenciarelli.

Mae The Music of Peter Maxwell Davies gan Dr Nicholas Jones, a gyhoeddwyd yn 2020, yn cynnig safbwynt byd-eang o gerddoriaeth Peter Maxwell Davies, gan ganolbwyntio ar weithiau mawr a rhai dethol eraill.

Mae gwaith yr Athro Kenneth Hamilton yn y maes hwn yn cynnwys Kenneth Hamilton Plays Ronald Stevenson Volume 1 a Volume 2, set o recordiadau o gerddoriaeth Stevenson, a gyhoeddwyd gan Prima Facie records.

Mae prosiectau blaenorol eraill yn y ffrwd hon yn cynnwys gweithiau gan Dr Caroline Rae ar Messiaen ac André Jolivet, a The Routledge Research Companion to Modernism in Music, a olygwyd gan Dr Charles Wilson.