Ewch i’r prif gynnwys

Ehangu cyfranogiad ac allgymorth

Credwn yn gryf na ddylai rhwystrau ym myd addysg uwch fodoli ac yn yr Ysgol Cerddoriaeth rydyn ni’n falch o gynnal neu gymryd rhan mewn nifer o gynlluniau sy'n ceisio agor drysau i'r rheini na fydden nhw fel arall yn ystyried bod astudio yn y brifysgol yn opsiwn iddyn nhw.

Rydyn ni wedi ymrwymo i weledigaeth strategol y Brifysgol o ran y genhadaeth ddinesig yn Y Ffordd Ymlaen (Gweddnewid Gwasanaethau: 2023).

Mae Strategaeth Ehangu Cyfranogiad 2020-25 y Brifysgol yn amlinellu'r ymrwymiad sydd gennym i bobl ifanc a sut rydyn ni’n bwriadu ymgysylltu â nhw yng Nghaerdydd i sicrhau eu bod yn cael eu grymuso a’u bod yn cael gwybod am ddatblygiadau yn y Brifysgol.

Rydyn ni’n cynnig ysgolion haf ar y campws ac yn ymweld â nifer o ysgolion a cholegau ledled y DU i amlinellu diben astudio yn y brifysgol a pha gymorth arbenigol y gellir ei gynnig i'r rheini sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes cerddoriaeth.

Yn yr Ysgol Cerddoriaeth, rydyn ni’n mynd â hyn gam ymhellach. Rydyn ni’n gwahodd ysgolion o bob cwr o'r DU i'r ysgol ac yn eu trochi yn y gwaith o greu cerddoriaeth. Boed yn weithdai cyfansoddi neu’n ymarferion yr ensemble cyfan, rydyn ni’n annog myfyrwyr i gymryd rhan yng ngweithgareddau amrywiol yr ysgol i gael blas ar astudio cerddoriaeth ym myd addysg uwch.

Image of school pupils playing instruments at the School of Music

School of Music welcomes budding musicians from Goresbrook School

Daeth 120 o ddisgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Goresbrook, Dagenham, ar ymweliad â’r Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer diwrnod o weithdai a sesiynau recordio.

Composition workshop sixth form students School of Music

Disgyblion ysgol yn ymweld ar gyfer cyfres o weithdai a dosbarthiadau meistr cerddorol

Ymwelodd chwe deg o ddisgyblion ysgol yn ne Cymru a’r cyffiniau â’r Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer cyfres o wersi gyda myfyrwyr MA presennol

Yn ddiweddar, gwnaethon ni helpu i ddylunio Rhaglen 'Camu ‘Mlaen' Prifysgol Caerdydd, yn enwedig uned y Celfyddydau Mynegiannol sy'n canolbwyntio ar bwysigrwydd cydweithio, amrywiaeth a photensial astudio rhyngddisgyblaethol yn y celfyddydau.

Rhaglen Camu 'Mlaen

Arfogi myfyrwyr heb gynrychiolaeth ddigonol gyda'r sgiliau i ffynnu mewn addysg uwch.

Ymhellach i ffwrdd, yn achos rhaglenni’r cymunedau addysgol lleol, gwnaeth staff a myfyrwyr gyflwyniad ôl-16 ac ôl-18 i ysgolion gyda chymorth Gwasanaeth Cerddoriaeth Caerffili, a hynny i gynulleidfa ar-lein drwy wahoddiad o fwy na 100 o bobl.