Ewch i’r prif gynnwys

Symposiwm: Menywod Tramgwyddus yn Niwylliannau Sgrîn Dwyrain Asia

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad 23 - 24 Mai 2024
Lleoliad Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, 66a Plas y Parc, Caerdydd CF10 3AS
Fformat Wyneb yn wyneb
Prif siaradwyr Dr Irene González-López (Birkbeck)
Dr Eva Cheuk-yin Li (Prifysgol Lancaster)
Dr Colette Balmain (Prifysgol Kingston)
SgrinioDeciphering Japan (2020)
Cyfranogwyr gwaddGeorgie Yukiko Donovan (gwneuthurwr ffilmiau)
Haruka Kuroda (actores, arlunydd, cyfarwyddwr ymladd a gweithiwr proffesiynol agosatrwydd)
Dr Griseldis Kirsch (SOAS)

Nod y digwyddiad hwn dros ddeuddydd yw ehangu ein gwybodaeth am dramgwyddo gan fenywod yn niwylliannau sgrîn Dwyrain Asia (a’r diaspora). Bydd yn cynnwys sgyrsiau a chyflwyniadau gan fwy na 30 o ysgolheigion, yn ogystal â sesiwn sgrinio ffilm a sesiwn bwrdd crwn yng nghwmni ymarferwyr ac arbenigwyr ym maes y cyfryngau.

Caiff y digwyddiad hwn ei gefnogi gan Academi Astudiaethau Corea, Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr, a'r Academi Brydeinig. Mae'r digwyddiad yn cael ei ariannu gan y thema ymchwil Astudiaethau Diwylliannol a Gweledol Trawswladol.

Logos y symposiwm

Cofrestru

Y ffi gofrestru ar gyfer y ddau ddiwrnod yw £60, a bydd yn cynnwys lluniaeth, cinio a derbyniad gwin. Cofrestrwch ar-lein drwy fynd i Eventsforce. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 15 Mai 2024.Cofrestrwch ar-lein drwy fynd i Eventsforce. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 15 Mai 2024.

Dim ond os caiff y symposiwm ei ganslo y gallwn roi ad-daliadau.

Sylwer y gall yr amserlen, y paneli a’r digwyddiadau eraill newid heb rybudd ymlaen llaw. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r symposiwm, e-bostiwch y trefnwyr mithanif1@caerdydd.ac.uk neu chunge@caerdydd.ac.uk.

Lawrlwythwch y rhaglen isod i am ragor o fanylion:

Symposiwm: Menywod Tramgwyddus yn Niwylliannau Sgrîn Dwyrain Asia - Rhaglen a Chrynodebau

Symposiwm: Menywod Tramgwyddus yn Niwylliannau Sgrîn Dwyrain Asia - Rhaglen a Chrynodebau