Seiber-ffeministiaeth yn Rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica: Cysyniadau, Astudiaethau Achos, Methodolegau
Galwad am Bapurau
Dyddiad | 18 Medi 2024 |
---|---|
Lleoliad | Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, 66a Plas y Parc, Caerdydd CF10 3AS |
Fformat | Wyneb yn wyneb |
Prif siaradwyr | Yr Athro Amel Grami (Prifysgol Manouba, Tunisia) Dr Sara Tafakori (Prifysgol Leeds) |
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Ymddiriedolaeth Leverhulme.
Galwad am Bapurau
Mae defnydd menywod o’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer gweithredu gwleidyddol ac i wrthwynebu’r status quo wedi bod yn tyfu ac yn esblygu ers y don o brotestiadau yn 2011, gan esgor ar seiber-ffeministiaeth. Drwy seiber-ffeministiaeth, mae menywod yn gwrthod disgwrs hegemonig drwy rannu eu straeon a'u profiadau yn unigol ac ar y cyd. Maent yn arbrofi gyda dulliau a strategaethau newydd y’u caniateir neu y cyfyngir arnynt gan y cyd-destun maent yn byw ynddo. Serch hynny, mae eu seiber-ffeministiaeth yn wynebu heriau cynyddol gan fygythiadau ar-lein ac all-lein.
Mae'r symposiwm hwn ar seiber-ffeministiaeth yn rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica yn cynnig fforwm ar gyfer trafodaethau beirniadol, ac yn cynnig cyfle i archwilio i groestoriadau ffeministiaeth a thechnolegau digidol yng nghyd-destun rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica. Mae’r digwyddiad undydd hwn yn cynnwys dau banel thematig, un yn y bore a’r llall yn y prynhawn. Byddant yn mynd i’r afael ag agweddau allweddol ar seiber-ffeministiaeth: fframweithiau cysyniadol, astudiaethau achos, ac ystyriaethau methodolegol a moesegol wrth ymchwilio i seiber-ffeministiaeth.
Rydym yn croesawu crynodebau i bapurau pymtheng munud ar un o ddwy thema’r paneli a nodir isod. Ni ddylai crynodebau fod yn hirach na 300 o eiriau a dylent gynnwys teitl, enw(au) awdur(on), cysylltiad sefydliadol (os o gwbl), a gwybodaeth gyswllt. Nodwch y panel y mae eich papur yn berthnasol iddo.
Dylid anfon cyflwyniadau at Mustafab2@caerdydd.ac.uk erbyn 1 Mehefin 2024. Rydym arbennig o awyddus i dderbyn cyflwyniadau gan ymchwilwyr ôl-raddedig/ar ddechrau eu gyrfa.
Pynciau panel
1. Seiber-ffeministiaeth: Potensial, Heriau, Astudiaethau Achos
Mae’r panel hwn yn gwahodd papurau sy’n archwilio potensial seiber-ffeministiaeth yn rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica a’r heriau sy’n eu hwynebu. Gallai'r pynciau gynnwys y canlynol, heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Fframweithiau damcaniaethol newydd ar gyfer deall seiber-ffeministiaeth mewn cyd-destunau rhanbarthol.
- Lleisiau ffeministaidd ar-lein, israddoldeb a gwelededd.
- Agosatrwydd digidol, emosiynau, cydberthnasau a mathau gwahanol o ddangos undod.
- Mathau o ffeministiaeth boblogaidd/amhoblogaidd.
- Adweithiau gwrth-ffeministaidd a ffurfiau digidol o ddangos gwrthwynebiad.
- Effeithiau all-lein seiber-ffeministiaeth.
- Anghydraddoldebau rhyweddol a mynediad.
- Seiber-ffeministiaeth mewn cymunedau ar wasgar.
2. Cwestiynau Methodolegol a Moesegol wrth Ymchwilio i Seiber-ffeministiaeth
Mae'r panel hwn yn mynd i'r afael â heriau methodolegol a moesegol sy'n amlwg wrth ymchwilio i seiber-ffeministiaeth yn rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica. Anogir ysgolheigion i archwilio'n feirniadol faterion megis mynediad at ddata, deinameg pŵer mewn gofodau digidol, ystyriaethau moesegol mewn ymchwil ar-lein, a dad-drefedigaethu methodolegau. Gall cyflwyniadau hefyd archwilio dulliau arloesol o astudio arferion a phrofiadau seiber-ffeministaidd, gan gynnwys ymchwil gan unigolion sy’n gweithredu’n wleidyddol ac ethnograffau digidol ffeministaidd.
Cymorth bwrsariaeth
Ceir cyfraniad bach i gynorthwyo siaradwyr nad ydynt yn derbyn cyllid gan sefydliad gyda’u costau teithio. Anogir ymgeiswyr sydd am wneud cais am gymorth teithio i nodi eu bod angen cymorth wrth gyflwyno eu crynodebau.
Dyddiadau pwysig
- Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodebau: 1 Mehefin 2024
- Hysbysiad derbyn: 15 Mehefin 2024
- Dyddiad y symposiwm: 18 Medi 2024
Manylion cyswllt
Am ymholiadau neu i gyflwyno crynodebau, cysylltwch â Dr Balsam Mustafa Mustafab2@caerdydd.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at groesawu ysgolheigion i gymryd rhan mewn trafodaethau a chyfrannu at hyrwyddo ysgolheictod ar seiber-ffeministiaeth yn rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.