8fed Colocwiwm LanGW4: Y Broses Pontio, a Sefydlu Ffiniau Newydd
Y colocwiwm blynyddol ar gyfer yr adrannau iaith yng nghynghrair LanGW4.
Eleni, Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd sy'n cynnal y colocwiwm. Mae'n cael ei gynnal ar y campws felly ni fydd yn bosib cymryd rhan ar-lein.
Rydym yn croesawu Prifysgol Nottingham yn westai i ni eleni.
Gwybodaeth allweddol
Dyddiad | Dydd Iau 29 Mehefin 2023 |
---|---|
Amseroedd | 10:00-15:45 |
Lleoliad | Adeilad Hadyn Ellis, Prifysgol Caerdydd, 52 Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ |
Fformat | Wyneb yn wyneb |
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru | Canol Dydd, ddydd Mercher 21 Mehefin 2023 |
Pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau | mlang-events@caerdydd.ac.uk |
Ynglŷn â LanGW4
Wedi'i ffurfio yn 2014, Prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg yw aelodau LanGW4.
Mae’r colocwiymau yn digwydd at ddibenion cyfnewid arferion gorau ar arloesi addysg ym maes ieithoedd modern.
Rhagor ynghylch cynghrair LanGW4.
Pwy all gymryd rhan
Mae croeso i gydweithwyr addysgu ac ysgolheictod ac addysgu ac ymchwil o gynghrair LanGW4.
Themâu
Byddwn yn cynnal dwy drafodaeth bord gron ar y canlynol:
Y Broses Pontio
O ymgofrestru hyd at raddio, mae trobwyntiau addysgol a dirfodol yn rhychwantu bywyd myfyriwr. Mae delio a throbwyntiau o'r fath yn allweddol i lwyddiant academaidd a lles y myfyrwyr. Yn ystod y drafodaeth bord gron hon byddwn yn archwilio sut i hwyluso’r broses pontio mae myfyrwyr yn mynd drwyddi, hynny o safbwynt:
- sefydliadol (rhwng sectorau addysgol)
- gwybyddol (rhwng lefelau iaith)
- dirfodol (tuag at fod yn oedolyn)
- rhyngddiwylliannol
Yn ystod y drafodaeth bord gron bydd cyfle i drafod y newid yn ein hymarfer ers y pontio o gyfnod Covid i gyfnod ôl-COVID.
Sefydlu Ffiniau Newydd
Mae herio ffiniau yn dod yn fwyfwy canolog i addysg uwch. Mae nifer o strategaethau addysgol a dulliau pedagogaidd yn adlewyrchu’r datblygiadau sy’n digwydd i’r perwyl hwn. Mae arferion sefydledig yn dangos bod ffiniau sefydliadol, ffisegol a methodolegol wedi newid. Mae'r drafodaeth bord gron hon yn archwilio'r arferion hyn a'u heffeithiau, megis:
- myfyrwyr yn bartneriaid
- addysgu drwy ymgysylltu â'r gymuned
- cyflogadwyedd yn rhan o addysg
- addysgeg ôl-ddulliol
Yn rhan o’r drafodaeth bord gron bydd cyfle i drin a thrafod profiadau’n ymwneud â’r agwedd bwysig hon ar ein proffesiwn, a gwerthusiadau ohoni, gan gynnwys asesiadau (ffurfiannol a chrynodol) a gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr (cwricwlaidd ac allgyrsiol).
Prif siaradwr
Michael Webb, arbenigwr o JISC ar Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) ac Addysg.
JISC yw asiantaeth ddigidol, data a thechnoleg y DU sy’n canolbwyntio ar addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi.
Asiantaeth y DU ar gyfer ymdrîn â materion digidol, a materion yn ymwneud â data a thechnoleg yw JISC, ac mae’n canolbwyntio ar addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi.
Michael Webb yw cyfarwyddwr technoleg a dadansoddeg JISC. Mae'n gyd-arweinydd canolfan genedlaethol JISC ar gyfer AI ym maes addysg drydyddol. Mae’r ganolfan yn cynnig cymorth ar gyfer mabwysiadu deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol ac yn effeithiol ar draws y sector.
Yn ogystal ag AI, mae Michael Webb wedi gweithio ar brosiectau sy'n ymwneud â Rhyngrwyd y Pethau, realiti rhithwir a dadansoddeg ynglŷn â dysgu.
Cyn ymuno â JISC, bu'n gweithio yn y sector addysg uwch, gan arwain gwasanaethau TG a thechnoleg dysgu.
Ceir rhagor o wybodaeth am y prif siaradwr ar wefan JISC.
Y Rhaglen
Dalier sylw: efallai y gwneir mân addasiadau i'r rhaglen maes o law.
8th LanGW4 programme
The most up-to-date version of the 8th LanGW4 Colloquium programme.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Llyfr o’r crynodebau
Bydd y llyfr o’r crynodebau ar gael yn fuan.
Sut i gofrestru eich presenoldeb
Gofalwch eich bod yn cofrestru erbyn hanner dydd, ddydd Mercher 21 Mehefin.
Mae mynediad at y colocwiwm yn rhad ac am ddim. Bydd lluniaeth a chinio ar gael.
Y Trefnwyr o Brifysgol Caerdydd
Mae Marie Gastinel-Jones yn aelod o bwyllgor LanGW4.
Eleri Davies
Events and Internal Communications Administrator
- daviese52@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9656
Noddwyr
Cyhoeddir y noddwyr maes o law.