Prawf Hyfedredd Iaith yn y Japaneeg
Rydym yn ganolfan arholi sy'n cynrychioli Sefydliad Japan ar gyfer y Prawf Hyfedredd Iaith yn y Japaneeg (JLPT).
Mae'r JLPT yn gymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer y siaradwyr hynny nad yw Japaneeg yn iaith gyntaf iddynt ac rydym yn cynrychioli Sefydliad Japan wrth gynnig y cymhwyster hwn.
Mae ardystiad JLPT yn cynnig amrywiol fanteision. Yn Japan, caiff ei ddwyn i ystyriaeth ar gyfer rhoi triniaeth ffafriol wrth fewnfudo ac fe’i ystyrir yn gymhwyster ar gyfer amryw o wahanol arholiadau cenedlaethol. Y tu allan i Japan, fe'i ddefnyddir yn eang o ran bod yn gredydau ysgol, ardystio graddio, sgrinio swyddi ac ar gyfer dyrchafiadau, yn ogystal ag ar gyfer amrywiaeth o gymwysterau cenedlaethol.
Yng nghanllaw y JLPT 2023 ceir gwybodaeth gyffredinol bellach yn ogystal â manylion ynghylch y cymhwysedd ieithyddol sydd ei angen ar gyfer pob lefel a sut y bydd eich prawf yn cael ei sgorio.
Ffioedd arholiadau ac amserlen
Mae ffioedd arholiadau yn berthnasol i ymgeiswyr mewnol ac allanol. Cynhelir arholiadau 2023 ddydd Sul 3 Rhagfyr 2023 ac mae'r cofrestriad yn agor am 09:00 ar 31 Awst. Bydd ceisiadau yn cael eu prosesu o 4 Medi 2023.
Os oes angen addasiadau arbennig arnoch chi, sicrhewch eich bod yn ticio’r blwch ar y ffurflen gais.
Sut i ymgeisio
Mae'r cofrestru bellach ar gau. Mae pob lefel yn llawn.
Cysylltu â ni
JLPT Cardiff Test Centre
Gallwch weld map o'n campws sy'n nodi lleoliad adeiladau lle mae'n ysgolion academaidd, llety a gwasanaethau eraill.