Ewch i’r prif gynnwys

Beth fydd yn digwydd nesaf

Hoffem gael eich caniatâd i gysylltu gwybodaeth enetig eich plentyn â gwybodaeth am les meddyliol fel y gallwn wella dealltwriaeth o sut mae genynnau a’r amgylchedd yn effeithio ar iechyd meddwl.

Mae hyn yn ein galluogi i adeiladu darlun mwy cyflawn ac, yn y pen draw, bydd yn ein helpu i wella iechyd a lles pobl ifanc ledled Cymru.

Rydym yn cysylltu’r wybodaeth yn ddiogel a dienw gan ddefnyddio rhifau adnabod yn hytrach nag enw eich plentyn. Mae’r holl wybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel yn unol â rheoliadau storio data ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gwybodaeth am les meddyliol a’r amgylchedd

Os cawn eich caniatâd, byddem yn cysylltu gwybodaeth enetig â gwybodaeth lles a gasglwyd drwy holiaduron mewn ysgolion. Mae hyn yn cynnwys atebion dienw ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys bwyd, ffitrwydd, lles, iechyd emosiynol a pherthnasau â phobl eraill.

Hoffem hefyd gysylltu gwybodaeth enetig â gwybodaeth arall sy’n cael ei chasglu’n rheolaidd gan sefydliadau fel ysgolion, y GIG ac adrannau eraill y llywodraeth. Byddai hyn yn cynnwys gwybodaeth ehangach fel sawl gwaith mae rhywun wedi gorfod mynd i’r ysbyty gyda phwl o asthma ac a yw rhywun wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl.

Ni fyddai gennym fynediad i wybodaeth bersonol benodol iawn fel nodiadau gan feddygon neu weithwyr proffesiynol eraill.

Byddai’r wybodaeth yn cael ei chysylltu gan ddefnyddio data dienw (heb enwau nac unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod rhywun). Mae’r ymchwilwyr sy’n gwneud y gwaith hwn yn gwneud hynny heb wybod fyth pwy yw’r unigolion dan sylw.

Storio

Caiff yr holl wybodaeth sy’n cael ei chasglu wrth eich plentyn yn ystod yr astudiaeth hon ei storio’n ddiogel yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg. Bydd y DNA yn y samplau poer yn cael ei storio a’i ddadansoddi yn labordai Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg.

Caiff yr holl ddata a gesglir ei gadw’n gyfrinachol yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (2018). Dim ond tîm yr astudiaeth fydd yn cael mynediad at ddata adnabod eich plentyn. Mae yna gyfreithiau llym sy’n diogelu preifatrwydd eich plentyn ar bob cam.

Caiff unrhyw wybodaeth am hunaniaeth eich plentyn a gesglir o’r ymchwil ei storio:

  • yn ddiogel - rydym yn defnyddio rhifau adnabod yn hytrach nag enwau
  • ar wahân i unrhyw ddata a gesglir wrth eich plentyn
  • yn ddienw - sy’n golygu y byddwn yn dileu unrhyw beth y gellir ei ddefnyddio i adnabod eich plentyn o’r data.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rheoli data eich plentyn yn ein taflen wybodaeth.

Taflen Wybodaeth i Rieni Cadwch y copi hwn.pdf

Bydd y daflen wybodaeth hon yn eich helpu i benderfynu a ddylid rhoi caniatâd i'ch plentyn gymryd rhan mewn MAGES.