Ewch i’r prif gynnwys

Rhesymau dros gymryd rhan

Amcangyfrifir bod 1 o bob 5 person ifanc yn dioddef o broblemau fel iselder neu orbryder. Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar addysg, perthnasoedd a lles pobl ifanc.

Helpwch ni i ddysgu mwy

Rydym yn ceisio darganfod sut y gall genynnau a’r amgylchedd chwarae rôl mewn pobl ifanc yr effeithir arnynt gan y problemau hyn. Fel pob astudiaeth enetig, mae angen i ni gasglu samplau DNA gan filoedd lawer o unigolion er mwyn gallu dod i gasgliadau dibynadwy. Bydd yr Astudiaeth Lles Meddyliol mewn Llencyndod: Genynnau a’r Amgylchedd (MAGES) yn ystyried y ffordd orau o wneud hyn.

Er na fyddwn yn rhoi unrhyw adborth ar eich canlyniadau yn bersonol, drwy gymryd rhan byddwch yn helpu pobl ifanc yn y dyfodol drwy wella ein dealltwriaeth o sut mae genynnau a’r amgylchedd yn effeithio ar les meddwl pobl ifanc.

Gweithdai gwyddoniaeth

Gwahoddir pob plentyn ym Mlwyddyn 7 ac 8 mewn ysgolion uwchradd sy’n cymryd rhan i weithdy gwyddoniaeth ar DNA a genynnau, p’un ai a yw’r plant yn cymryd rhan yn MAGES ai peidio.

Fodd bynnag, drwy roi caniatâd i ddarparu samplau DNA a’u cysylltu â gwybodaeth am les, byddwch yn ein helpu i greu darlun mwy cyflawn o sut mae genynnau a’r amgylchedd yn gweithio gyda’i gilydd i effeithio ar les meddwl plant.