Ewch i’r prif gynnwys

Cael cymorth

Mae MAGES yn brosiect ymchwil ac felly ni allwn gynnig cymorth iechyd meddwl.

Os ydych yn poeni am eich iechyd meddwl eich hun neu iechyd meddwl eich plentyn gallwch gysylltu â’ch Meddyg Teulu am help a chyngor.

Mae nifer o wefannau defnyddiol hefyd lle gallwch gael help neu gymorth:

Llinellau cymorth

Y Samariaid

Mae’r Samariaid yn cynnig cymorth emosiynol cyfrinachol am ddim i unrhyw un sydd mewn argyfwng, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. I gael cymorth, ffoniwch 116 123.

Mae yna hefyd amrywiaeth o adnoddau ar wefan y Samariaid.

Childline

Mae Childline yn cynnig gwasanaeth preifat a chyfrinachol am ddim a gallwch siarad am unrhyw beth. Gallwch eu ffonio ar 0800 1111 neu fynd i wefan Childline i ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau.

Gwefannau defnyddiol

Young Minds

Mae Young Minds yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl ifanc yr effeithir arnynt gan iechyd meddwl. Ewch i wefan Young Minds i gael rhagor o wybodaeth.

Canolfan Genedlaethol Anna Freud i Blant a Theuluoedd

Mae Canolfan Anna Freud yn rhedeg rhwydwaith am ddim i staff ysgol a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig sy’n rhannu arbenigedd ymarferol, academaidd a chlinigol yn ymwneud â materion iechyd a lles meddyliol sy’n effeithio ar ysgolion. Ewch i wefan Ann Freud am ragor o wybodaeth.

Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH)

Mae NCMH yn grŵp ymchwil o wyddonwyr o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor. Maent wedi cynhyrchu cyfres o daflenni gwybodaeth am ddim ar amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder mewn pobl ifanc ac ADHD. Gallwch lawrlwytho’r taflenni drwy ymweld â gwefan NCMH.