Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro John Atack

Yr Athro John Atack
Yr Athro John Atack

Yr Athro John Atack wyf i, ffarmacolegydd moleciwlaidd gyda thros 25 o brofiad o ddarganfod cyffuriau, yn bennaf ym maes niwrowyddoniaeth, a Chyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau.

Beth mae darganfod meddyginiaethau'n ei olygu i chi?

Mae darganfod meddyginiaethau'n golygu ceisio gwneud gwahaniaeth i bobl sy'n dioddef o amrywiol gyflyrau meddygol, boed yn gysylltiedig ag iechyd meddwl neu fel arall, â'r nod o wella eu bywydau dydd i ddydd.

Pam fod gennych chi ddiddordeb yn hyn fel ymchwilydd?

Fy mhrif ffocws yw anhwylderau'r ymennydd a deilliodd y diddordeb hwnnw o fy astudiaethau PhD i glefyd Alzheimer ar adeg pan nad oedd fawr neb wedi clywed am y clefyd. Mae rhywbeth hynod ddifyr ynglŷn â'r ffordd mae'r ymennydd yn gweithio, ond mae meddwl am beth all ddigwydd pan nad yw'r ymennydd yn gweithio'n iawn yr un mor aflonyddol.

Mae'r broses o ddarganfod cyffuriau'n broses hir, lafurus, gymhleth nad oes modd ei rhagweld, sy'n galw am benderfyniad dyfal a ffocws clir ar y  nod - sef gwella cleifion. Y ffocws hwn ar y claf sy'n golygu bod holl dreialon a thrafferthion darganfod cyffuriau werth yr holl waith gan fod gennym y potensial i newid bywydau miliynau o bobl.

A allwch chi sôn ychydig am eich ymchwil ar hyn o bryd?

Ffocws presennol ein Sefydliad yw canfod cyffuriau sy'n newid yr anghydbwysedd cemegol sy'n sail i'r rhan fwyaf o anhwylderau'r ymennydd. Mae cywiro’r anghydbwysedd cemegol hwn yn swnio'n broses syml ond mae angen i ni droedio'n ofalus rhwng cywiro'r anghydbwysedd a'i gorwneud hi drwy greu anghydbwysedd gwahanol.

Yn syml, mae cemegau'r ymennydd, niwrodrosglwyddyddion, y mae gennym ddiddordeb ynddynt ar hyn o bryd, yn asidau amino o'r enw asid gamma-amino butyrig a glwtamad sy'n cynhyrchu effeithiau yn yr ymennydd drwy fecanweithiau cymhleth sydd angen i'n gwyddonwyr biolegol a chemeg feddygol fynd i'r afael â nhw. Fe wyddom fod anghydbwyseddau yn y cemegau hyn yn gysylltiedig â sgitsoffrenia, anhwylderau gorbryder a chlefyd Huntington, sef y clefyd rydym ni'n canolbwyntio arno ar hyn o bryd.

Pa rôl mae eich ymchwil yn ei chwarae wrth symud yr ymchwil o'r labordy i erchwyn y gwely?

Mae ffocws cryf iawn ar drosi yn ein hymchwil, gan ein bod yn trosi ein dealltwriaeth o'r ffordd mae'r ymennydd yn gweithio, neu mewn clefyd, nad yw'n gweithio, yn gyffuriau y gellir eu defnyddio i leddfu effeithiau'r clefydau hyn ar yr ymennydd.

Beth mae eich swydd yn ei gynnwys heddiw?

Mae fy swydd o ddydd i ddydd yn cynnwys sicrhau bod gan aelodau tîm y prosiectau amcanion clir a bod prosiectau'n parhau ar y trywydd iawn at eu cerrig milltir penodedig. Yn ogystal, rwyf i'n trafod yn aml â chydweithwyr allanol er mwyn dod o hyd i'r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o ddatblygu ein cyfansoddion cemegol.

Rwyf i'n ymwybodol trwy'r amser hefyd fod angen llunio ceisiadau grant i sicrhau nid yn unig bod y prosiectau presennol yn parhau ond hefyd i drosi gwyddoniaeth arloesol fy nghydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn brosiectau darganfod cyffuriau ac yn y pen draw i greu budd i’r claf.

Sut mae gweithio yn y Sefydliad hwn yn eich helpu fel ymchwilydd?

Does dim yn rhoi mwy o bleser a gwobr na gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol o wyddonwyr gyda phawb yn gweithio at nod cyffredin o geisio ateb angen meddygol nad yw wedi'i ddatrys. Mae gennym ethos cryf o gydweithio yn y Ganolfan Darganfod Meddyginiaethau lle mae biolegwyr yn dysgu gan gemegwyr a chemegwyr yn dysgu gan fiolegwyr ac mae bod mor agos at ein gilydd yn allweddol i'n llwyddiant.

Mae buddion bod mor agos yn estyn hefyd i'r gymuned wyddonol ehangach ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n cynnig mynediad rhwydd at wyddonwyr sy'n arwain y byd, o fewn, er enghraifft Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl a Sefydliad Ymchwil Dementia y DU.