Ewch i’r prif gynnwys

Sefydlu model newydd o wneud penderfyniadau ar y cyd mewn polisi ac ymarfer gofal iechyd

GP and patient

Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd wedi nodi rhwystrau allweddol i wneud penderfyniadau ar y cyd.

Mae gwneud penderfyniadau ar y cyd yn grymuso unigolion i wneud penderfyniadau am eu hopsiynau triniaeth gyda chefnogaeth eu clinigydd. Mae'n broses gydweithredol sy'n defnyddio arbenigedd y clinigydd, ond yn cydnabod dewisiadau, gwerthoedd ac amgylchiadau'r claf. Caiff ei dderbyn a'i brofi'n eang fel dull safon aur o wneud penderfyniadau gofal iechyd. Fodd bynnag, araf fu'r broses o'i roi ar waith fel mater o drefn.

GP and Patient hands

Mae tîm o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi arwain rhaglen ymchwil fawr i ganfod y rhwystrau sy'n wynebu gwneud penderfyniadau ar y cyd fel mater o drefn. O ganlyniad i'w canfyddiadau, datblygwyd dulliau amrywiol i helpu i ymgorffori'r ymagwedd mewn lleoliadau gofal iechyd arferol.

Roedd y rhain yn cynnwys model 'tair sgwrs' newydd o wneud penderfyniadau ar y cyd, hyfforddiant sgiliau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwell cymhorthion i helpu cleifion i benderfynu, y gellir eu defnyddio mewn ymgynghoriadau clinigol, gyda'r cyfan yn allweddol i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal iechyd sy'n ystyried eu hoffterau personol.

Cydweithio i Wneud Penderfyniadau Da

Teitl y prosiect ymchwil, oedd yn rhaglen ar y cyd rhwng prifysgolion Caerdydd a Newcastle, oedd Making Good Decisions in Collaboration (MAGIC). Nodwyd rhwystrau allweddol wrth roi penderfyniadau ar y cyd ar waith mewn amrywiol leoliadau clinigol, a datblygwyd mathau gwahanol o hyfforddiant a chymhorthion i helpu cleifion i benderfynu.

Roedd ein hymchwil ni'n canolbwyntio ar fodel newydd o wneud penderfyniadau ar y cyd mewn ymarfer clinigol. Ar yr un pryd, roedd Prifysgol Newcastle yn edrych ar ffyrdd amgen i gefnogi ymwneud â phenderfyniadau ar y cyd a'u mesur mewn sefydliadau.

Model gwneud penderfyniadau ar y cyd ar gyfer ymarfer clinigol a ddefnyddir mewn rhaglenni hyfforddi.

MAGIC
Shared decision making model for clinical practice used in training programmes.

Canfu ymchwil rhaglen MAGIC fod clinigwyr:

  • yn credu eu bod eisoes yn cynnwys cleifion mewn penderfyniadau am eu gofal
  • yn aml yn adrodd nad oedd cleifion yn dymuno gwneud penderfyniadau ar y cyd
  • yn brin o'r offer cywir i gyflwyno penderfyniadau ar y cyd
  • yn brin o amser i ganolbwyntio ar wneud penderfyniadau ar y cyd oherwydd galwadau eraill ar eu hamser

Canfu'r tîm hefyd:

  • Bod cleifion yn aml yn teimlo nad oeddent yn gallu gwneud penderfyniadau ar y cyd oherwydd diffyg gwybodaeth, neu oherwydd y canfyddiad o anghydbwysedd pŵer yn y berthynas rhwng y clinigydd a'r claf.
  • Bod darparu cymhorthion i helpu cleifion i benderfynu yn ystod yr ymgynghoriad yn arwain at well cyfranogiad nag offer a ddarperir ar ôl yr ymgynghoriad (e.e. taflenni gwybodaeth, dolenni gwefannau).
  • Ei bod yn heriol cofnodi'r gwahaniaeth roedd gwneud penderfyniadau ar y cyd yn ei wneud i gleifion.

Roedd nodi'r meysydd hyn yn sbardun i dîm Caerdydd ganolbwyntio ar sut y gallai cyflwyno penderfyniadau ar y cyd fod yn fwy llwyddiannus.

Mynd i'r afael â'r rhwystrau wrth wneud penderfyniadau ar y cyd

Y model 'tair sgwrs'

Datblygodd tîm Caerdydd fodel addysgu newydd wedi'i gynllunio i arwain clinigwyr ar sut y gallent gynnwys penderfyniadau ar y cyd mewn ymgynghoriadau â chleifion. Seiliwyd y 'model tair sgwrs' ar dri cham ymgysylltu â chleifion:

  • Roedd y sgwrs gyntaf – y sgwrs dewis – yn sicrhau bod y cleifion yn gwybod bod opsiynau ar gael, a bod ganddynt ddewis yn eu penderfyniadau, a bod eu hoffterau personol yn bwysig.
  • Roedd yr ail sgwrs – y sgwrs opsiynau – yn disgrifio'r opsiynau ar gael, gan gynnwys risgiau a manteision pob un.
  • Roedd y cam olaf – y sgwrs penderfynu – yn canolbwyntio ar hoffterau'r claf, neu beth sydd bwysicaf i'r claf, gan geisio dod i benderfyniad ar y cyd am y driniaeth.

Rhaglen Hyfforddi'r Hyfforddwr i Wneud Penderfyniadau ar y Cyd

Canfu tîm Caerdydd mai'r ffactor pwysicaf wrth alluogi gwneud penderfyniadau ar y cyd oedd agwedd a sgiliau cyfathrebu'r clinigydd yn ystod ymgynghoriad. Mewn ymateb, sefydlwyd rhaglen 'Hyfforddi'r Hyfforddwr'.

Mae'n cyfuno gweithdai hyfforddi sgiliau, senarios chwarae rôl, a chynllunio gweithredu. Nod y rhaglen yw bod clinigwyr yn datblygu'r agweddau, sgiliau a galluoedd angenrheidiol i gynnwys penderfyniadau ar y cyd fel mater o drefn mewn ymarfer clinigol, gydag addasiadau ar draws gwahanol leoliadau clinigol.

Mae'r senarios chwarae rôl yn helpu clinigwyr i archwilio beth sy'n bwysig i gleifion, gan wella'n sylweddol y ffordd y caiff risgiau triniaeth eu cyfleu a mynd i'r afael â rhwystrau o ran agwedd. Cydnabu llawer o glinigwyr a wnaeth yr hyfforddiant y gallent fod yn gweithredu penderfyniadau ar y cyd lawer yn well yn hytrach na'u bod yn 'gwneud hyn eisoes'.

Defnyddio cymhorthion i helpu cleifion i benderfynu

Nododd tîm Caerdydd hefyd y ffyrdd mwyaf effeithiol i rannu gwybodaeth am opsiynau a risgiau triniaeth yn defnyddio cymhorthion i helpu cleifion i benderfynu.

Nod cymhorthion i helpu cleifion i benderfynu yw darparu gwybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth i helpu cleifion i ddeall risgiau a manteision triniaeth, sy'n eu galluogi i gyfrannu at benderfyniadau gwybodus ar y cyd.

Er bod llawer o gymhorthion wedi'u datblygu o'r blaen i helpu cleifion i benderfynu, canfu tîm Caerdydd mai'r dull mwyaf effeithiol oedd fformat o fewn yr ymgynghoriad yn seiliedig ar gwestiynau cyffredin o offer a brofwyd yn flaenorol.

Yn ei hanfod, mae'r dull hwn yn egluro manteision ac anfanteision opsiynau triniaeth yn erbyn cwestiynau cyffredin gan gleifion. O'i ddefnyddio mewn ymgynghoriad, mae cleifion yn cymryd mwy o ran yn y broses.

Roedd clinigwyr yn disgrifio hyn fel effaith 'trosglwyddo', gyda'r cleifion yn dod yn fwy hyderus ac yn cynnal deialog cydweithredol wrth dderbyn y cymhorthion penderfynu.

Datblygwyd safon ardystio sylfaenol - y fframwaith meini prawf ansawdd cyntaf ar gyfer cymhorthion sy'n helpu cleifion i benderfynu i dderbyn cydnabyddiaeth ryngwladol - o ganlyniad i'r ymchwil, a'i rannu'n dri chategori:

  1. meini prawf cymhwyso - angenrheidiol er mwyn i ymyriadau gael eu hystyried yn gymhorthion penderfynu
  2. meini prawf ardystio - hebddynt ystyrir bod gan gymhorthion penderfynu risg uchel o ragfarn niweidiol
  3. meini prawf ansawdd - mae'r rhain yn cryfhau cymhorthion penderfynu ond nid ydynt yn peri risg uchel o ragfarn niweidiol os na chânt eu bodloni
GP yellow top

Mae cyhoeddi ein hymchwil yn bwysig, ond yr hyn sydd bwysicaf yw cydweithio gyda'n cydweithwyr yn y GIG i wneud yn siŵr fod ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth ac yn gwella gofal i gleifion. Mae cydweithio'n uniongyrchol gyda'r timau gofal iechyd i wneud newidiadau go iawn a gwella gofal sy'n seiliedig ar yr unigolyn wedi bod yn werthfawr tu hwnt.
Dr Natalie Joseph-Williams Research Associate

Effaith

  • Cymhwyswyd y dull gwneud penderfyniadau ar y cyd i gefnogi penderfyniadau clinigol mwy effeithiol a chafodd effaith gadarnhaol ar ryngweithio gyda chleifion ac esbonio opsiynau triniaeth.
  • Hyfforddwyd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ledled Cymru, gan ddefnyddio 'model tair sgwrs' Caerdydd i gefnogi gwell penderfyniadau ar y cyd yn eu sefydliadau.
  • Crëwyd pecynnau hyfforddi y gellid eu haddasu'n rhwydd i wahanol leoliadau er enghraifft ymgorffori penderfyniadau ar y cyd mewn ymarfer clinigol yng ngwasanaeth Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
  • Dylanwadodd ein hymchwil ar bolisïau newydd y DU a safonau rhyngwladol ar gyfer creu cymhorthion i helpu cleifion i benderfynu yn UDA, Canada a Norwy.