Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddio coedwigoedd glaw trofannol i drin haint

Tropical rainforest

Gellid defnyddio triniaethau sy'n deillio o goedwigoedd glaw cynhenid Awstralia i drin heintiau bacterol sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau a chlwyfau croen cronig.

Mae partneriaeth gyda chymorth y Rhaglen Cyflymu rhwng Prifysgol Caerdydd a chwmni biotechnoleg o Awstralia, QBiotics, yn archwilio sut y gellir harneisio cyfansoddion a geir mewn hadau o goed Fontain’s Blushwood o Queensland i greu therapïau newydd i wella clwyfau.

Mae gwellhad arferol yn cynnwys gwahanol gamau sy'n adfer adeiledd a gweithrediad y croen. Fodd bynnag, gall annormaleddau yn y prosesau hyn achosi oedi sylweddol neu ormodol wrth wella clwyfau, gan arwain at glwyfau cronig neu ffibrosis dermol.
Gall ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) ddigwydd mewn bacteria, feirysau, ffyngau a pharasitiaid.

Gall croniad o ficrobau arwain at ffurfio bioffilm, lle mae'r microbau'n glynu wrth ei gilydd ac yn glynu wrth arwyneb. Mae bioffilmiau bacterol yn gysylltiedig â thua 80% o heintiau cronig a chlwyfau nad ydynt yn gwella mewn pobl, ac maent yn gwrthsefyll cyffuriau fel gwrthfiotigau.

Er mwyn lliniaru hyn, mae ymyriadau therapiwtig wedi archwilio ffyrdd i atal neu darfu ar ffurfio bioffilmiau a hwyluso cyflwyno cyffuriau i'r biofilmiau hyn.

Mae clwyfau cronig, fel wlserau coes gwythiennol ac wlserau traed diabetig, yn un o brif achosion anabledd, yn enwedig ymhlith y boblogaeth oedrannus sy'n fythol gynyddu. Maent i'w cael mewn tua 3% o boblogaeth Cymru ac yn costio dros £30 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru eu trin.

Mae creithio dermol gormodol (ffibrosis) yn angen clinigol arall sydd heb ei ddiwallu i raddau helaeth, sydd fel arfer yn digwydd o ganlyniad i greithiau celoid neu hypertroffig, anafiadau llosgi neu drawma.

O ganlyniad, mae clwyfau cronig a ffibrosis dermol yn heriau sylweddol i wasanaethau gofal iechyd ledled y byd.
Mae Dr Ryan Moseley, arbenigwr mewn atgyweirio ac adfywio clwyfau ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gweithio i archwilio a mynd i'r afael ag annigonolrwydd mewn therapïau gwella clwyfau.

Trwy fenter gydweithredol 16 mis gyda QBiotics a Sefydliad Ymchwil Feddygol QIMR Berghofer, mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi darganfod priodweddau iachaol unigryw cyfansoddion epocsi-tigliane a geir mewn hadau o goed Fontain’s Blushwood.

Mae'r cyfansoddion yn cael eu harchwilio gan yr ymchwilwyr i weld sut mae epocsi-tiglianes yn ysgogi eu heffeithiau iachaol dymunol ar glwyfau.
Mae QBiotics yn arbenigo mewn darganfod cynhyrchion fferyllol newydd, sy’n dod o fflora a ffawna heb eu cyffwrdd o fewn cynefinoedd naturiol unigryw coedwigoedd glaw trofannol Awstralia, i drin problemau iechyd mawr fel canser a gwellhad diffygiol.

Mae'r cwmni'n datblygu un epocsi-tigliane (EBC-46) fel cyffur atal canser yn erbyn tiwmorau solet. Yn ogystal â’i effeithiau atal canser, dangoswyd bod EBC-46 yn ysgogi gwellhad croen eithriadol ar ôl dinistrio tiwmor.

Mae hyn wedi arwain ymchwilwyr Caerdydd i werthuso effeithiau EBC-46 a chyfansoddion epocsi-tigliane eraill ar ymatebion gwella clwyfau ffibroblast a keratinosyt a'u dulliau gweithredu sylfaenol.

Yn ogystal â datblygu therapïau newydd, bydd y prosiect hefyd yn helpu i greu cysylltiadau o fewn ecosystem gwyddor bywyd Cymru, datblygu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu pellach rhwng partneriaid prosiect, llunio astudiaethau achos ac arwain at gyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid.

Darllenwch yr astudiaeth achos a gyhoeddwyd

Archwilio’r defnydd o epoxytiglianes fel therapiwteg gwrth-bioffilm newydd ar gyfer ystod o gymwysiadau iachau clwyfau a gwrth-heintus

Datblygu dulliau therapiwtig newydd sy’n deillio o fforest law Queensland, wrth drin heintiau bacteriol sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau a chlwyfau croen cronig.