Ewch i’r prif gynnwys

Trawsnewid gwasanaethau gofal llygaid yng Nghymru

Data delweddu offthalmig a rennir gydag ymgynghorydd llygaid ysbyty gan ddefnyddio system Cofnod Electronig Cleifion bwrpasol, OpenEyes.
Data delweddu offthalmig a rennir gydag ymgynghorydd llygaid ysbyty gan ddefnyddio system Cofnod Electronig Cleifion bwrpasol, OpenEyes.

Mae partneriaeth arloesol i ddod ag apwyntiadau gofal llygaid critigol yn agosach at gartrefi cleifion wedi helpu i drawsnewid gwasanaethau yng Nghymru.

Ym mis Rhagfyr 2019, roedd bron i 115,000 o gleifion sydd mewn perygl o golli golwg anadferadwy yn aros am apwyntiad llygaid mewn ysbyty yng Nghymru.

Mae Cyflymydd Arloesedd Clinigol Prifysgol Caerdydd, partner yn y rhaglen Cyflymu - a arweinir gan Ganolfan Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio i ddod ag optometryddion y Stryd Fawr, clinigwyr a Llywodraeth Cymru at ei gilydd i leihau'r baich ar ysbytai.

Mae poblogaeth sy’n heneiddio ynghyd â’r risgiau sy’n gysylltiedig â chlefydau fel diabetes yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau gofal llygaid. Yn 2019 roedd rhestrau aros am apwyntiadau llygaid ar gynnydd. Roedd tua 38% o'r rhai oedd ar y rhestr eisoes wedi pasio dyddiad targed eu hapwyntiad, ond roedd capasiti'r ysbyty'n sefydlog.

Roedd Cyflymu’n gallu cynnig strwythur clir, nodi rhanddeiliaid allweddol a gosod amserlen ar gyfer sefydlu model clinigol chwyldroadol sy'n manteisio ar arbenigedd academaidd, yn cynnig dealltwriaeth drylwyr o ecosystem gwyddorau bywyd, ac yn cyflenwi'r cyfleusterau sydd eu hangen ar arloeswyr ac entrepreneuriaid i wireddu syniadau.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi datblygu fframwaith gwasanaeth lle mae optometryddion cofrestredig y Stryd Fawr yn cymryd rheolaeth, dan arweiniad, dros gleifion golwg risg uchel dynodedig.

Mae defnyddio technoleg ddelweddu o'r radd flaenaf, meddalwedd bwrpasol a chofnodion cleifion electronig yn caniatáu i gleifion gael profion yn eu practis optometreg lleol. Caiff delweddau a chanlyniadau eu huwchlwytho i'w hadolygu gan offthalmolegydd ymgynghorol, ac yna gall optometryddion y stryd fawr asesu sut mae'r pwysau ar wasanaethau offthalmolegol yn cael eu lleddfu drwy'r defnydd gorau o ofal yn y gymuned.

Mae Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru yn cefnogi cyfres o wasanaethau peilot newydd i reoli hyd at 9,000 o gleifion dynodedig ar draws pum maes gofal: Glawcoma (atgyfeiriadau newydd a dilynol); Dirywiad Macwlaidd Gwlyb yn gysylltiedig ag Oed; Retinopathi Diabetig a Damweiniau Llygaid Brys.

Mae'r cynllun yn sicrhau cymaint o fanteision: lleihau amseroedd aros, mabwysiadu technolegau newydd, cynyddu capasiti gofal eilaidd i asesu a rheoli cleifion gofal llygaid, sgiliau newydd a hyfforddiant cymhwysedd ar gyfer optometryddion annibynnol, a chysylltiadau agosach â gofal eilaidd a allai arwain at ddarparu gwasanaethau ychwanegol gan fentrau optometreg.

Mae hefyd wedi cysylltu arbenigedd Prifysgol Caerdydd yn fwy â gofal iechyd llygaid yn y gymuned gan arwain at gyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid a chipolwg newydd ar economeg iechyd mewn gofal offthalmig.

Mae'r Cyflymydd Arloesedd Clinigol wedi helpu i nodi a chefnogi themâu allweddol gan gynnwys cwmpas a gallu cynyddol optegwyr y stryd fawr, hyrwyddo ehangu a chyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant, ac arloesedd drwy system integredig newydd digidol.

Yn y dyfodol, gallai'r dechnoleg arwain at arallgyfeirio parthau iechyd a gofal cymdeithasol eraill gan ddefnyddio cofnodion e-gleifion i ysgogi cydweithio yn y dyfodol rhwng partneriaid masnachol, academaidd, trydydd sector a chlinigol gyda'r potensial i gyflwyno ein model ar draws GIG Cymru.

Darllen yr astudiaeth achos a gyhoeddwyd

Gwerthuso clinigau rhithwir digidol a ddarperir gan optometryddion y stryd fawr.

Astudiaeth achos i sefydlu gwell gwasanaethau gofal llygaid a ddarperir gan bractisau optometreg cymunedol.