Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant therapiwtig ar gyfer iechyd meddwl gwell

mental health

Mae dull therapiwtig o gyflawni iechyd meddwl gwell trwy hunangymorth dan arweiniad yn cael ei arloesi trwy brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Cyflymu.

Datblygwyd EmotionMind Dynamic (EMD) gan y sylfaenydd Hayley Wheeler ac mae'n cyfuno hyfforddiant, addysgu, mentora, cwnsela ac ymwybyddiaeth ofalgar i wella lles emosiynol a hunan-barch.

Mae astudiaeth flwyddyn, a gefnogir gan Hwb Arloesi Clinigol Prifysgol Caerdydd, yn mesur gwerth cymdeithasol hyfforddiant EMD, gan weithio gyda Thîm Arloesi a Gwella Ymchwil Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

"Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau therapiwtig ond yn gweithio’n arwynebol gyda'r problemau a'r symptomau y mae cleientiaid yn adrodd amdanynt," meddai Hayley.

"Er mwyn sicrhau newid hirhoedlog, mae angen iddyn nhw gael hyd i wraidd y broblem. Mae dull anghlinigol a phroffesiynol yn hollbwysig wrth weithio gydag iechyd meddwl a lles pobl. Mae EMD Coaching yn galluogi cleientiaid i rannu eu meddyliau a'u hemosiynau dyfnaf â therapydd a all helpu i drawsnewid y boen honno'n ddull o hunanrymuso."

Dr Mary Lynch o Hwb Gwerth Cymdeithasol Prifysgol Bangor sy'n arwain yr astudiaeth.

"Rydym yn gyffrous i ymuno â Hayley Wheeler a thîm Cyflymu i gynnal gwerthusiad Budd Cymdeithasol o Fuddsoddiad (SROI) o'r rhaglen EMD. Dylai'r dull cydweithredol hwn rhwng academyddion a Hayley roi cipolwg gwerthfawr ar y dull arloesol hwn o fynd i'r afael ag iechyd meddwl a lles."

Nododd adborth gan gleient anhysbys EmotionMind Dynamic: "Rwyf wrth fy modd o fod yn hapusach ynof fy hun ac mae gen i feddylfryd mwy cadarnhaol. Fe wnes i fwynhau i ba raddau y newidiodd fy mywyd a'm meddylfryd, ac nid oeddwn yn hoffi siarad am fy hun ar y dechrau."

Nod cydweithio Cyflymu yw datblygu tystiolaeth ar gyfer potensial therapiwtig EMD. Mae Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru wedi galluogi Hayley i weithio gyda Chanolfan Gwerth Cymdeithasol Prifysgol Bangor i werthuso effeithiolrwydd EMD, gan gryfhau ei hapêl fel dewis atgyfeirio rhagnodi cymdeithasol ar gyfer Gofal Sylfaenol.

Bydd arbenigwyr datblygu busnes, Speaker Insight, yn gweithio i wella sgiliau arwain Hayley a datblygu ei model busnes, gan gynyddu treiddio i'r farchnad, twf busnes a chynaliadwyedd.

Meddai Helena Holrick, Cyfarwyddwr Speaker Insight: "Rydym yn wirioneddol gyffrous i fod yn rhan o'r prosiect hwn. Yn Speaker Insight, rydym yn hyrwyddo arweinwyr meddwl a gwneuthurwyr newid sydd am helpu eraill a chael effaith gadarnhaol ar y blaned. Mae dull a methodoleg Hayley yn arloesol, yn ysbrydoli ac yn gallu newid bywyd, ar lefel genedlaethol a hyd yn oed yn fyd-eang. Mae ei gweledigaeth yn cydweddu â’r addewid hwnnw."

Nod prosiect Cyflymu yw sicrhau mwy o gydnabyddiaeth gan gwmnïau ar gyfer EMD, a budd enw da trwy ymyriadau lles sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â chyfrannu at wasanaethau lles ar-lein i gleientiaid yr effeithir arnynt gan COVID-19.

Darllenwch yr astudiaeth achos a gyhoeddwyd

EmotionMind Dynamic

Astudiaeth achos i archwilio gwerth cymdeithasol a masnachol dull newydd Hayley Wheeler o wella iechyd meddwl a lles oedolion a phlant.