Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Haf CNGG MRC

MRC CNGG Summer School

Cynhelir nawfed Ysgol Haf Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg (CNGG) ar Ymchwil Anhwylderau’r Ymennydd yn 2018.

Mae Ysgol Haf CNGG MRC, sydd wedi’i disgrifio fel “ysbrydoledig” ac fel “agoriad llygad” gan gyfranogwyr yn y gorffennol, yn gwrs blynyddol sy’n para pedwar diwrnod. Bob blwyddyn mae’n croesawu mwy na 40 o gyfranogwyr, gan roi’r cyfle iddynt ddysgu am ymchwil arloesol ar anhwylderau’r ymennydd.

Mae’r ysgol yn cynnal areithiau gan rai o ymchwilwyr blaenllaw y meysydd seiciatreg a niwrowyddoniaeth, gan gynnwys yr Athro Syr Mike Owen a’r Athro Michael O’Donovan.

Mae’r cwrs, sydd ar agor i hyfforddeion a gwyddonwyr anghlinigol, yn gyfle gwych i’r rheini sydd â diddordeb mewn symud i’r maes genomeg a geneteg niwroseiciatrig neu’r rheini sydd am gael cyflwyniad i ymchwil ar anhwylderau’r ymennydd.

Yn ogystal ag areithiau, mae’r cwrs yn cynnwys arddangosiadau a sesiynau rhyngweithiol ar amrywiaeth o bynciau seiciatreg, niwroleg a niwrowyddoniaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Niwroddelweddu
  • Epidemioleg seiciatrig
  • Geneteg ac epigeneteg
  • Arddangosiadau dilyniannu trosiant uchel
  • Trin bôn-gelloedd
  • Asesu ffenotypig
  • Moeseg mewn ymchwil genetig

Mae yna hefyd weithdai yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar yrfaoedd gwyddonol a chymrodoriaethau academaidd, a chyfle i fyfyrwyr, gwyddonwyr a chlinigwyr ddod ynghyd a rhannu eu gwybodaeth a thrafod posibiliadau ar gyfer cydweithio. Mae’r ysgol haf wedi croesawu pobl o bedwar ban byd; gyda phobl yn teithio’r holl ffordd o Ganada a’r Unol Daleithiau yn y gorffennol.

Mae llety ar gael i gyfranogwyr sy’n teithio o’r tu allan i Gaerdydd. Mae’r cwrs yn cynnwys brecwast a chinio ac un digwyddiad cymdeithasol gyda’r nos. Nid oes cost i fynychu’r ysgol haf, ond dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael.

Bydd y broses ymgeisio ar gyfer Ysgol Haf nesaf MRC yn agor ddechrau mis Ionawr 2018.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.caerdydd.ac.uk/cngg
neu e-bostiwch cnggsummerschool@caerdydd.ac.uk

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 27 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy edition 27

Darllenwch nhw i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.