Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Ysgolheigion Gwadd

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd wedi ymrwymo i ymchwil ryngddisgyblaethol, beirniadol ac athrawiaethol mewn ystod o bynciau sy'n berthnasol i'n disgyblaethau.  Mae ein rhaglenni ysgolheigion gwadd yn rhoi gwerth ar ysgolheigion gwadd o ansawdd uchel, yn rhai wedi’u hen sefydlu ac yn rhai newydd, a all wneud cyfraniad cryf a sylweddol i'n Hysgol.  Dyma obeithio y bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn gweithredu’n llysgenhadon ar gyfer yr Ysgol yn ystod eu hymweliad, ac wedi hynny.

Rydym yn blaenoriaethu ceisiadau am ysgolheigion gwadd o hyd at dri mis, er y byddwn yn ystyried ceisiadau am gyfnodau hirach er mwyn eich galluogi i gyfnewid ymchwil gydag academyddion sy'n gweithio mewn meysydd cysylltiedig.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu defnyddio adnoddau ar-lein Prifysgol Caerdydd, ymuno â gweithgareddau ar-lein yr Ysgol a chyflwyno eu gwaith drwy ei rhwydweithiau cydweithredol rhithwir. Bydd disgwyl i chi ymgymryd â phrosiect ymchwil penodol tra byddwch yn yr Ysgol, a chyflwyno a chymryd rhan mewn seminarau ymchwil. Fel arfer, bydd disgwyl i chi wneud o leiaf un cyflwyniad i staff, yn aml ar ffurf seminar, ac fe'ch anogir i gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill yn yr Ysgol.

Beth rydym ni’n ei gynnig

Y cyfle i ymgymryd â phrosiect ymchwil penodol ac annibynnol, ac i ymgysylltu â'n gwaith ymchwil drwy ein:

  • Rhaglen PhD Gwadd - gall ymgeiswyr PhD sydd wedi'u cofrestru mewn sefydliadau eraill wneud cais am y rhaglen hon
  • Rhaglen Ysgolheigion Gwadd, sy'n agored i academyddion profiadol a gyflogir mewn sefydliadau eraill

Byddwch yn gallu trafod eich ymchwil gyda'ch sefydliad academaidd a fydd yn eich cynnal, ac:

  • ymgysylltu â'n cymuned ymchwil
  • cyflwyno’ch gwaith drwy ein rhwydweithiau cydweithredol
  • mynd i’n cyfres o seminarau ymchwil
  • mynediad at holl gyfleusterau Llyfrgell y Brifysgol, gan gynnwys hawliau benthyca
  • cael mynediad i rwydwaith TG y Brifysgol (ar gyfer ymweliadau dros 8 wythnos)
  • cyfleoedd i fynd i fodiwlau israddedig neu ôl-raddedig a addysgir (meistr) penodol a gynigir gan yr Ysgol, yn amodol ar drafod a chymeradwyo

Nid ydym yn talu am gostau teithio, llety, na chynhaliaeth, na goruchwyliaeth ffurfiol i fyfyrwyr PhD.

Y Rhaglen PhD Gwadd

Os ydych yn ymgeisydd PhD sydd wedi'i gofrestru mewn sefydliad arall, mae ein rhaglen PhD Gwadd yn eich galluogi i ddatblygu eich traethawd ymchwil yn annibynnol ochr yn ochr ag ymgeiswyr PhD Caerdydd, ac yn rhan o’n cymuned academaidd.  Efallai y byddwch hefyd yn gallu ymgymryd â hyfforddiant a chyflwyniadau a gynhelir gan yr Ysgol, a chyflwyno eich gwaith mewn symposiwm yr Ysgol.

Mae'r rhaglen PhD Gwadd yn derbyn ymwelwyr ddwywaith y flwyddyn, ym mis Hydref a mis Ionawr. Mae'n rhaid i chi gynllunio i ymweld am o leiaf dri mis ac am ddim mwy na chwe mis.

Sut i wneud cais i'n Rhaglen PhD Gwadd

Derbynnir ceisiadau mewn ymateb i alwadau ffurfiol yn unig.   Caiff galwadau eu hysbysebu ar y dudalen hon (fel arfer ym mis Mai a mis Gorffennaf bob blwyddyn). Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru yn fyfyrwyr gwadd Prifysgol Caerdydd - byddwn yn eich helpu gyda hyn os byddwn yn eich gwahodd i ymuno â'r rhaglen. I wneud cais, ebostiwch LAWPL-VS@caerdydd.ac.uk os gwelwch yn dda.

Y Rhaglen Ysgolheigion Gwadd

Os ydych chi'n cael eich cyflogi ar gontract academaidd mewn sefydliad arall, bydd cymryd rhan yn ein rhaglen ysgolheigion gwadd yn eich galluogi i gyfnewid ymchwil gydag academyddion sy'n gweithio mewn meysydd cysylltiedig wrth ddilyn prosiect ymchwil penodol.

Derbynnir ceisiadau drwy gydol y flwyddyn, ar gyfer ymweliadau rhwng mis Hydref a mis Mai.  Mae’n rhaid i’ch cais ddod i law o leiaf chwe mis cyn dyddiad dechrau eich ymweliad arfaethedig.  Mae'n well gennym gyfnodau ymweld rhwng wythnos a chwe mis, ond efallai y byddwn yn ystyried ceisiadau am gyfnodau hirach, a hynny ar sail eithriadau unigol.

Sut i wneud cais i'n Rhaglen Ysgolheigion Gwadd

Cyflwynwch ffurflen gais Ysgolhaig Gwadd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth i LAWPL-VS@caerdydd.ac.uk, gyda'r dogfennau canlynol:

  • Cynnig ymchwil (dim mwy na 1,000 o eiriau) sy’n esbonio nodau’r ymchwil i’w gwneud ym Mhrifysgol Caerdydd, y dulliau ymchwil ac unrhyw ganlyniadau arfaethedig mor glir â phosibl.
  • CV academaidd (dim mwy na phum tudalen A4)
  • llythyr (yn Saesneg) gan eich rhiant-sefydliad sy’n cymeradwyo’r absenoldeb (a’r cyllid, lle bo’n briodol) ar gyfer eich ymweliad

Lawrlwythwch y ffurflen gais Ysgolhaig Gwadd isod:

Visiting-Scholar-Application-Form-Cymraeg

Os hoffech wneud cais i'r Rhaglen Ysgolhaig Gwadd, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais isod.

Cysylltwch â ni

Dylid anfon y ffurflenni wedi'u llenwi at:

The Law and Politics Visiting Scholars Team