Meithrin rhagor o undod Cristnogol trwy gyfraith yr Eglwys
Mae’n hymchwil i Gyfraith Canon wedi dylanwadu ar arweinyddion eglwysig, newid agweddau hirsefydlog a gwella ffyrdd o gyflawni gwaith eciwmenaidd yn y deyrnas hon ac yn Ewrop.
Mae'r mudiad eciwmenaidd yn hybu undod ymhlith y ddwy filfiliwn o Gristnogion ledled y byd. O dan adain Cyngor Eglwysi'r Byd (WCC), mae eciwmeniaeth yn draddodiadol wedi canolbwyntio ar chwilio am dir cyffredin diwinyddol yn hytrach na chyfreithiol. A hynny o achos gwahaniaethau rhwng trefnau cyfreithiol eglwysig.
Yn 2013, gwyrdroes ymchwil yr Athro Norman Doe, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, y duedd honno. Astudiodd am y tro cyntaf erioed offerynnau rheoleiddio 100 o eglwysi a 10 traddodiad ledled y byd.
Gwelodd eu bod yn debyg iawn i’w gilydd. Yn sgîl hynny, cynigiodd yr Athro Doe 250 o egwyddorion sy’n gyffredin i’r gyfraith Gristnogol megis:
- 'Mae urddas pob un o'r ffyddloniaid yn gyfartal. Sail eu cydraddoldeb yw eu bod wedi’u creu yn ôl delwedd Duw.'
- 'Dylai eglwys wasanaethu mewn ffyrdd priodol bawb sy'n gofyn am ei hoffeiriadaeth, waeth beth fo'i haelodaeth.'
- 'Dylai fod gwahanu sefydliadol sylfaenol rhwng eglwys a'r wladwriaeth ond dylai eglwys gydweithredu â'r wladwriaeth ynghylch pryderon sy'n gyffredin.'
Dangosodd yr egwyddorion hyn sut mae deddfau'n cysylltu Cristnogion.
Ar ben hynny, dadleuodd yr Athro Doe eu bod yn cynnig llwybr ymarferol tuag at gyd-ddeall ac yn goresgyn rhaniadau diwinyddol.
Er gwaethaf y canfyddiadau, methodd adroddiad Comisiwn Ffydd a Threfn Cyngor Eglwysi’r Byd ag ystyried rôl y gyfraith Gristnogol mewn eciwmeniaeth y flwyddyn honno.
Ymddangosai fod yr Athro Doe ar ei ben ei hun wrth ddadlau y dylai’r Cyngor ddefnyddio’r gyfraith eglwysig i uno enwadau yn ei waith.