Ewch i’r prif gynnwys

Polisi Ymgorffori Mwyngloddio Gwely’r Môr Dwfn yn Economi Las Affrica

Helpodd ymchwil gan yr Athro Edwin Egede wladwriaethau Affricanaidd i ddatblygu dull Mwyngloddio Gwely'r Môr Dwfn a fydd yn galluogi’r cyfandir i gael gafael ar ffynhonnell o gyfoeth mwynol nas defnyddiwyd o'r blaen.

Mae Mwyngloddio Gwely'r Môr Dwfn (DSM) yn rhan o'r Economi Las – cysyniad sy'n datblygu mewn cysylltiadau rhyngwladol sy'n annog defnydd cynaliadwy o adnoddau cefnfor ar gyfer twf economaidd.

Mae gwely'r môr dwfn y tu hwnt i awdurdodaeth genedlaethol ac mae'r adnoddau mwynol sydd wedi'u lleoli yno yn dreftadaeth gyffredin dynolryw. Gan ddwyn yr enw yr ‘Ardal’, mae'n cwmpasu mwy na 54% o gefnforoedd y byd ac mae'n cynnig ffynhonnell o adnoddau mwynol ar gyfer y dyfodol i gefnogi poblogaeth fyd-eang gynyddol, yn mynd i'r afael â heriau o ran cael gafael ar ddyddodion ar y tir, ac yn darparu'r metelau prin sydd eu hangen i lywio economi adnewyddadwy'r dyfodol.

Rhwng 2020 a 2030, bydd 5-10% o fwynau'r byd yn dod o DSM, gyda throsiant blynyddol byd-eang yn tyfu o bron sero i amcangyfrif o €10B.

Diogelu cyfoeth mwynol Affrica yn y dyfodol

Canfu ymchwil a gynhaliwyd gan yr Athro Edwin Egede mai Affrica oedd yr unig ranbarth yn y byd nad oedd wedi datblygu dull o ymdrin â DSM. Roedd hyn yn golygu y gallai gwledydd eraill ddefnyddio safleoedd mwyngloddio oddi ar arfordir Affrica gan olygu y byddai gwladwriaethau Affricanaidd yn colli allan ar fanteision economaidd DSM ac yn gadael gweithgarwch DSM yn nŵr ac ar hyd arfordir Affrica allan o reolaeth y cyfandir.

Cynigiodd ymchwil yr Athro Egede ymgysylltu mwy rhagweithiol ag Affrica ar lefelau byd-eang, rhanbarthol a gwladwriaethol gyda datblygiad parhaus y fframweithiau rheoleiddio priodol ar gyfer DSM.

Roedd ei ddulliau cymharol gosteffeithiol o ymgysylltu ag Affrica yn cynnwys:

  • Cydweithredu o fewn Affrica, gan gynnwys cyfuno adnoddau
  • Cynghreiriau cydweithredol strategol â gwladwriaethau a oedd eisoes ynghlwm wrth weithgareddau DSM
  • Partneriaethau cyhoeddus-preifat rhwng Gwladwriaethau Affricanaidd â diddordeb a chorfforaethau trawswladol â’r dechnoleg angenrheidiol.

Argymhellodd ymchwil yr Athro Egede hefyd y dylid ailedrych ar Strategaeth Forol Integredig Affricanaidd (AIM) yr Undeb Affricanaidd (AU), gweledigaeth hirdymor i ddefnyddio economi las Affrica yn well, i ymgorffori dull o ymdrin â DSM. Byddai hyn yn sicrhau bod gwladwriaethau Affricanaidd mewn sefyllfa well i ymgysylltu'n strategol â'r ffynhonnell bwysig hon o gyfoeth mwynol ar gyfer y dyfodol ac i ddiogelu eu hamgylcheddau morol rhag effeithiau negyddol posibl.

Dod â phartïon at ei gilydd a rhannu gwybodaeth

Gweithiodd yr Athro Egede yn uniongyrchol gyda gwledydd unigol yn Affrica i ddatblygu eu dull o ymdrin â DSM. Cafodd ei benodi yn ymgynghorydd i Gomisiwn Economaidd Affrica'r Cenhedloedd Unedig (UNECA) rhwng 2016 a 2020 a chafodd y dasg o gynhyrchu 'Map Trywydd ar gyfer Datblygu DSM'.

Mae’r map trywydd, a lansiwyd yn 2020:

  • yn argymell sefydlu corff cydgysylltu traws-Affricanaidd i gysoni cyfranogiad mewn DSM, gan hyrwyddo trosglwyddo technoleg a meithrin gallu.
  • yn esbonio sut y gall gwledydd sicrhau bod effaith amgylcheddol DSM yn cael ei lliniaru neu ei lleihau.

Fel ymgynghorydd UNECA, cyd-ddatblygodd yr Athro Egede gyfres o weithdai cyntaf o'u math ar gyfer gwladwriaethau unigol a chyrff rhyngwladol. Daeth dros 60 o lunwyr polisi o 11 o wledydd Affricanaidd i weithdy yn 2017 yn ogystal â chyrff anllywodraethol a sefydliadau rhyngwladol.

Pam mae’r ymchwil yn bwysig?

Cododd yr ymchwil ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwleidyddol, strategol ac economaidd-gymdeithasol DSM i Affrica ac arweiniodd at ddatblygu dull cyffredin rhyngwladol o ymdrin â DSM ar gyfer y rhanbarth.

Newidiodd ddull polisi sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys UNECA a strategaeth forol yr AU a gwnaeth map trywydd UNECA hefyd ddatblygu gallu DSM gwledydd unigol, megis Ghana.

Tynnodd ymchwil yr Athro Egede sylw at bwysigrwydd ymgysylltu Affrica â'r sector DSM, gan ddadlau’r canlynol:

  • Mae'n strategol ddoeth i Affrica arallgyfeirio ei sylfaen cynhyrchu mwynau drwy ymgysylltu â DSM.
  • Gallai effeithiau amgylcheddol posibl DSM effeithio ar y cefnforoedd sy'n gyfagos i gyfandir Affrica. Felly, byddai cyfranogiad Affrica at ddatblygiad fframweithiau rheoleiddio yn sicrhau bod gweithgareddau mwyngloddio yn cael eu cynnal mewn ffordd gynaliadwy.
  • Byddai ymgysylltiad uniongyrchol â DSM gan wladwriaethau Affricanaidd yn helpu i annog gwaith meithrin gallu a throsglwyddo technoleg forol.

Cyn gwaith yr Athro Egede, Affrica oedd yr unig grŵp rhanbarthol yn y byd nad oedd wedi ymgysylltu â DSM fel ffynhonnell hanfodol o adnoddau mwynol ar gyfer y dyfodol. Drwy rôl yr Athro Egede fel ymgynghorydd UNECA, cododd ymchwil Caerdydd ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwleidyddol, strategol ac economaidd-gymdeithasol DSM i Affrica.

Meet the team

Key contacts