Cwnsela myfyrwyr
Cwnselydd Cyswllt Gwirfoddol Lleoliadau Profiad Gwaith i gwnselwyr dan hyfforddiant.
Bob blwyddyn rydym yn cynnig nifer o leoliadau profiad gwaith cwnsela o ansawdd uchel y mae galw mawr amdanynt ar gyfer cwnselwyr dan hyfforddiant, wedi'u cynllunio i roi cyfle i chi wneud gwaith di-dâl gyda'r Brifysgol.
Yr hyn a gynigiwn
Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cynnig lleoliad a all bara hyd at, ond dim mwy na, tair blynedd yn amodol ar adolygiad rheolaidd. Byddwch yn dilyn rhaglen strwythuredig sy'n eich cefnogi i ddatblygu ystod o sgiliau a phrofiad cwnsela a chyflogaeth. Fel arfer byddwch yn gweld tri chleient yr wythnos.
Mae ein lleoliadau yn pwysleisio profiad dysgu sy’n adlewyrchu ystod eang o weithgareddau a dyletswyddau a geir mewn amgylcheddau gwaith real, gan gynnwys:
- y cyfle i gyfrannu mewn amgylchedd cwnsela, iechyd a lles proffesiynol
- amgylchedd gwaith modern, arloesol
- profiad amrywiol i wella eich sgiliau cyflogaeth
- cymorth proffesiynol helaeth drwy gydol cyfnod y lleoliad
- goruchwyliaeth reolaidd yn unol â gofynion Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP)
- ymrwymiad i gefnogi eich datblygiad fel cwnselydd medrus gyda chyfleoedd DPP a hyfforddiant ym Model a Dulliau Lles Caerdydd.
Os ydych chi'n fyfyriwr neu'n aelod o staff Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, oherwydd problemau ffiniau posibl, ac yn unol â Fframwaith Moesegol BACP, nid ydych yn gymwys i wneud cais. Fodd bynnag, mae myfyrwyr sy'n cwblhau Tystysgrif Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd mewn Therapïau Ymddygiad Gwybyddol yn gymwys i wneud cais.
Y Rhaglen Lleoliad Profiad Gwaith
Mae’r gwasanaeth Cwnsela a Lles Myfyrwyr yn canolbwyntio ar ‘Model Caerdydd’, gan ddarparu therapi byr sy’n canolbwyntio ar atebion i fyfyrwyr sy’n cyflwyno amrywiaeth eang o faterion fel perthnasoedd, iselder, gorbryder, colled, cam-drin a hunan-niweidio.
Gyda'r cynnydd mewn rhyngwladoli, mae myfyrwyr sy'n ceisio cymorth yn dod o amrywiaeth gynyddol o gefndiroedd a tharddiad ethnig ac mae'r gwasanaeth yn weithgar yn ei ymateb i faterion yn ymwneud ag Amrywiaeth.
Blwyddyn gyntaf: Byddwch yn cael cymorth i ddatblygu eich sgiliau cwnsela craidd, yn unol â dull eich cwrs; gweithio gyda chleientiaid am hyd at ddeg sesiwn wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr, Plas y Parc.
Ail flwyddyn: Wrth i'r lleoliad profiad gwaith fynd rhagddo, byddwch yn cael eich hyfforddi ac yn cael y cyfle i weithio o fewn Model Caerdydd; gweithio gyda chleientiaid am hyd at bedair sesiwn, a chynnal apwyntiadau ymgynghori therapiwtig awr a hanner. Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu cael cymdeithion ail flwyddyn yn gweithio o bell, i ddarparu profiad gweithio ar-lein, a hefyd i ddarparu ar gyfer y nifer newydd o gymdeithion blwyddyn gyntaf.
Trydedd flwyddyn: Bydd eich cyflogadwyedd a’ch sgiliau gwaith yn cael eu gwella ymhellach gyda’r cyfle i ddysgu a defnyddio hyfedredd allweddol gan weithio o fewn model Lles o gymorth i gleientiaid.
Cymhwysedd
Bydd lleoliadau profiad gwaith cyswllt fel arfer yn y flwyddyn ddiploma, neu ail flwyddyn israddedig, hyfforddiant cwnsela.
Dim ond gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyrsiau a achredir gan:
- Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP)
- Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP)
Os ydych yn ansicr a yw eich cwrs wedi'i achredu gan y naill sefydliad neu'r llall, gwiriwch â'ch sefydliad hyfforddi neu holwch y BACP neu'r BABCP trwy ddewis y ddolen i'w gwefannau.
Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fod ar gael i fynychu'r ddau ddiwrnod o raglen gynefino ddeuddydd ar 12fed a 13eg Medi 2022 (i'w gadarnhau).
Cynigir lleoedd yn amodol, tra'n aros am wiriad DBS llwyddiannus a derbyn geirda.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at Eleanor Brown, Cydlynydd Lleoliadau: BrownE@caerdydd.ac.uk.