Ein partneriaeth â Phrifysgol Waikato – Te Whare Wãnanga o Waikato

Ar 9 Tachwedd 2021, daeth Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato yn Hamilton, Seland Newydd yn bartneriaid strategol rhyngwladol.
Mae'r bartneriaeth strategol yn adeiladu ar gytundeb cyfnewid myfyrwyr llwyddiannus â Phrifysgol Waikato. Bydd myfyrwyr ar y ddwy ochr yn elwa o’r bartneriaeth hon. Bydd y bartneriaeth hefyd yn ein galluogi i wneud mwy o ymchwil ar y cyd ac yn rhoi cyfleoedd i’n gwasanaethau proffesiynol gydweithio.
Rhestrir y meysydd ymchwil/addysgu y bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio arnynt gyntaf isod. Er hynny, croesewir cydweithio ymhob maes.
- Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau
- Deallusrwydd Artiffisial a Gwyddor Data (Roboteg)
- Busnes a Rheoli
- Dŵr, yr Amgylchedd a Newid yn yr Hinsawdd
Yn rhan o'r bartneriaeth, byddwn yn ymchwilio i gyfleoedd addysgu tymor byr a thymor hir gyda Phrifysgol Waikato, yn ogystal ag adeiladu sylfeini cydweithredol rhyngwladol ym meysydd addysgu ac ymchwil.
Oherwydd cysylltiadau diwylliannol a daearyddol cryf y ddwy brifysgol, rydym yn gobeithio y gall dod yn bartneriaid strategol rhyngwladol sicrhau manteision dinesig ehangach i Gymru a Seland Newydd fel ei gilydd.
Cefndir Prifysgol Waikato
Cafodd Prifysgol Waikato ei sefydlu ym 1964. Ers hynny, mae wedi dod yn brifysgol gynhwysfawr ac iddi hunaniaeth Maori gref a chymuned gref o fyfyrwyr. Mae’n cael ei harwain gan ymchwil ac yn canolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy. Mae'n brifysgol uchelgeisiol sydd â 13,000 o fyfyrwyr a 1,500 o staff. Mae gan Brifysgol Waikato ddau gampws ar Ynys Ogleddol Seland Newydd, sef Hamilton a Tauranga. Mae ganddi hefyd Sefydliad ar y Cyd yn Hangzhou, Tsieina.
Mae Prifysgol Waikato wedi'i rhannu'n bum grŵp o Ysgolion a Chyfadrannau:
- Is-adran y Celfyddydau, y Gyfraith, Seicoleg a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Is-adran Iechyd, Peirianneg, Cyfrifiadura a Gwyddoniaeth
- Is-adran Addysg
- Ysgol Reoli Waikato
- Te Pua Wānanga ki te Ao – Cyfadran Maori ac Astudiaethau Brodorol
Yn debyg i Brifysgol Caerdydd, mae Prifysgol Waikato wedi sefydlu nifer o Sefydliadau Ymchwil rhyngddisgyblaethol. Mae gan nifer o'r rhain synergeddau â Sefydliadau Ymchwil Prifysgol Caerdydd a'n meysydd ymchwil strategol cryf, gan gynnwys:
Cronfa sbarduno cydweithredu
Sefydlwyd y gronfa i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato. Bydd y gronfa’n helpu staff i wneud ymchwil ar y cyd. Bydd hefyd yn galluogi staff yn y gwasanaethau addysgu a/neu broffesiynol i ddatblygu prosiectau sy’n sicrhau canlyniadau clir a llwybr i ddatblygu a chynnal y cydweithredu sy’n digwydd.
Cysylltu â ni
Darganfyddwch ragor am y bartneriaeth strategol â Phrifysgol Waikato. Fel arall, cysylltwch ag Anne Morgan, Pennaeth Partneriaethau Rhyngwladol drwy ebostio MorganA11@caerdydd.ac.uk.