Ewch i’r prif gynnwys

Technolegau monitro iechyd corfforol mewn lleoliadau iechyd meddwl

Mae gan bobl â salwch meddwl difrifol iechyd corfforol sy’n waeth na'r boblogaeth yn gyffredinol, sef rhwng 13 a 30 mlynedd yn llai o ddisgwyliad oes. Mae hyn yn amlygu'r angen i fonitro iechyd corfforol defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl yn well.

Diben y prosiect oedd rhannu gwybodaeth ac arbenigedd rhwng Cymru ac Awstralia ym maes monitro iechyd corfforol pobl mewn lleoliadau iechyd meddwl.

Ein bwriad oedd a) dysgu oddi wrth ein gilydd; (b) meithrin dealltwriaeth ar y cyd ynghylch gofal iechyd meddwl mewn gwledydd perthnasol; c) meithrin perthnasoedd er mwyn cydweithio a hyrwyddo ymchwil, a 4) adnabod cyfleoedd i ychwanegu at y dystiolaeth sy’n gwella defnyddioldeb technoleg ym maes gofal iechyd meddwl.

Er mwyn cyflawni'r rhain, ymwelodd dwy nyrs iechyd meddwl o Awstralia â Chymru ynghyd ag arweinydd y prosiect (Uwch-ddarlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl). Roedd y prosiect yn cynnwys ymweld â byrddau iechyd ledled Cymru i edrych ar ofal iechyd meddwl cleifion mewnol, cymunedol a fforensig; ac i gwrdd ag academyddion, cyllidwyr ymchwil a llunwyr polisïau.

Oherwydd yr ymweliad cafwyd sawl trafodaeth a myfyrdod rhwng y timau yn Awstralia a Chymru, gan rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd. Cafwyd hyd i wahaniaethau sylweddol ar draws y ddau o ran hunaniaeth broffesiynol staff nyrsio iechyd meddwl a'u set sgiliau; cydnabod cymwysterau iechyd meddwl; modelau iechyd meddwl ym maes gofal a strwythur y gwasanaethau; seilwaith a strwythur y cyfleusterau a’r gwasanaethau iechyd meddwl; strwythur y gweithlu a diwylliant y gweithle; a rôl cyfleusterau iechyd meddwl dan arweiniad nyrsys (cwmpas yr ymarfer).

Yn sgil y prosiect roedd modd deall y pwysau dybryd a geir ym maes iechyd meddwl, ac oherwydd hyn rhannwyd gwybodaeth a dysgu ar y cyd yn ogystal â chyfleoedd sbarduno i groesbeillio o ran arferion nyrsio iechyd meddwl.

Cyllid

Ymddiriedolaeth Wellcome ariannodd yr astudiaeth hon.

Prif ymchwilydd

Themâu’r ymchwil