Ewch i’r prif gynnwys

Stori Jodie Gornall

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae Jodie Gornall yn fyfyriwr Nyrsio Iechyd Meddwl yn ei hail flwyddyn a aeth i Grenada am 3 wythnos i brofi sut beth oedd nyrsio ar draws Môr yr Iwerydd.

Dywedodd Jodie ‘Treuliais yr wythnos gyntaf mewn ward acíwt mewn ysbyty iechyd meddwl, yr ail mewn ward gronig mewn ysbyty iechyd meddwl, a’r drydedd wythnos mewn cartref i’r henoed.’

'Roedd yn brofiad gwallgof! Mae’n anodd egluro mewn geiriau pa mor werthfawr oedd y profiad. Rhoddodd hwb i fy hyder yn fy sgiliau nyrsio ac yn bersonol. Dysgais i ymdopi gydag adnoddau cyfyngedig a gofynion oedd yn newid yn gyson.’

‘Roedd y gwahaniaethau mewn syniadau am iechyd meddwl yn golygu bod gen i safbwyntiau newydd ar sut i drin y claf yn gyfannol, gan ystyried a pharchu’r diwylliant yno. Mae'r ysbryd cymunedol yn Grenada yn ddiamheuol ac yn effeithio ar bob agwedd, gan gynnwys gofal iechyd. Roedd perthynas dda rhwng y nyrsys a'r cleifion, ac roedd yn hyfryd gweld pa mor ddiolchgar oedd y bobl.’

A beach in Grenada

Yn ogystal â'r lleoliad nyrsio, cafodd Jodie flas ar ffordd o fyw y bobl leol yn Grenada. Wrth grwydro'r ynys, ymwelodd Jodie â rhaeadrau, ffatrïoedd siocled, y goedwig law a mwy.

Mae Jodie wedi dysgu sgiliau i ddatblygu gwytnwch, meithrin perthnasoedd therapiwtig, agweddau anfeirniadol a gofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar y claf.

Dywedodd Jodie 'Yn fy ngwaith clinigol, rwy'n fwy hyderus mewn therapïau siarad a rhoi meddyginiaethau depo. Dysgais i beidio â beirniadu’r gofal iechyd a ddarperir allan yna, ond deall y cyfyngiadau y maent yn ymdopi â nhw, a meddwl am sut i wneud y gorau o’r hyn sydd ar gael.’

‘Ar y cyfan, rydw i wedi dod yn fwy hyderus, ac wedi sylweddoli os byddwch yn manteisio ar bob cyfle byddwch yn sicr yn cael amser anhygoel!’

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd byd-eang ewch i'n gwefan.