Dyddiadau, amseroedd a lleoliadau
Diweddarwyd: 22/04/2024 12:15
Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am drefniadau Graddio 2024.
Yn ystod eich Graddio, byddwch chi’n cael cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ddathlu eich cyflawniadau anhygoel gyda’ch gwesteion, graddedigion eraill, staff y Brifysgol a Chymrodyr Anrhydeddus.
Mae Gwahoddiadau Graddio wedi'u hanfon at yr holl fyfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf a'r holl fyfyrwyr ôl-raddedig (a addysgir ac ymchwil) y mae'r Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd wedi cadarnhau dyfarniad ers mis Gorffennaf 2023.
Ynglŷn â'ch diwrnod
Gwybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl a phethau i’w hystyried, a hynny er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o’ch diwrnod.
I fod yn gymwys i fynychu eich seremoni Raddio, mae angen i chi dalu eich ffioedd ac unrhyw ddyledion sydd arnoch chi i’r Brifysgol wyth wythnos cyn dyddiad eich seremoni.
Gwybodaeth am seremonïau
Digwyddiadau dathlu yw seremonïau. Yn y rhain, rydyn ni’n cydnabod eich cyflawniadau’n ffurfiol yng nghwmni graddedigion eraill, eich gwesteion, y staff, cyn-fyfyrwyr a Chymrodyr Anrhydeddus.
Beth mae angen i chi ei wybod am seremonïau:
- byddan nhw’n cael eu cynnal yn Arena Utilita
- mae disgwyl iddyn nhw bara 1 awr a 30 munud
- mae’n rhaid i’r graddedigion a’r gwesteion gyrraedd 30 munud cyn yr amser dechrau (gweler y manylion isod)
- mae'n cymryd 20-30 munud i gerdded o’r Prif Adeilad i Arena Utilita
- mae tocynnau’n cynnwys mynediad i'r seremoni a’r derbyniad cysylltiedig
- mae’n rhaid dangos tocyn wrth fynd i mewn i Arena Utilita – dim ond y gwesteion hynny â thocyn dilys fydd yn cael mynd i mewn, a hynny ar yr amser a nodwyd ar eu tocyn
- mae croeso i ymwelwyr heb docyn wylio’r seremoni’n fyw ar YouTube, ar Weibo neu yn Undeb y Myfyrwyr – bydd dolenni ar gael yn y tabl isod pan yn barod
- bydd isdeitlau Saesneg awtomatig a gynhyrchir gan Google ar gael yn ystod y seremoni. Gall yr isdeitlau hyn gynnwys camgymeriadau a byddant yn cael eu cywiro ar ôl y seremoni.
Gwybodaeth am dderbyniadau’r Ysgolion
Mae derbyniadau’r Ysgolion yn rhoi cyfle i chi ddathlu a hel atgofion gyda graddedigion eraill, eich gwesteion a’r staff.
Ewch ati i godi gwydryn o prosecco neu ddiod feddal a chynnig llwncdestun i’ch cyflawniadau yn ein Gerddi Graddio, lle bydd bariau, awyrgylch arbennig ac amrywiaeth o gefndiroedd dathliadol i dynnu lluniau yn eu herbyn ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Beth mae angen i chi ei wybod am dderbyniadau’r Ysgolion:
- maen nhw’n cael eu cynnal yng Ngerddi Graddio’r Prif Adeilad (ochr Rhodfa’r Amgueddfa/pen Neuadd y Ddinas)
- mae tocynnau’n cynnwys mynediad i dderbyniad yr Ysgol
- mae’n rhaid dangos tocyn wrth fynd i mewn i’r Gerddi Graddio
- ni fyddwch chi’n gallu treulio mwy nag awr yn y derbyniad – a fyddech chi cystal â pharchu’r lwfans amser hwn er mwyn galluogi graddedigion eraill a’u gwesteion i ymuno â’r derbyniad
- mae croeso i ymwelwyr heb docyn dreulio amser yn y pentref bwyd a diod rhwng 08:30 a 16:00 – gellir gwneud hynny’n rhad ac am ddim a chyrraedd y pentref bwyd a diod ger ochr Plas y Parc i’r Prif Adeilad
Casglu a dychwelyd eich gwisg academaidd
Bydd ein partneriaid gwisg academaidd, Marston Events, yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr (ar y llawr cyntaf a’r ail lawr) ar gyfer casglu a dychwelyd eich gwisg academaidd.
Beth mae angen i chi ei wybod:
- mae’r amseroedd casglu ar gyfer pob seremoni i’w gweld yn y tabl isod
- mae’n rhaid dychwelyd eich gwisg academaidd i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr ar eich diwrnod graddio, a hynny ar yr adegau hyn:
- seremoni am 09:30, i’w ddychwelyd erbyn 16:00
- seremoni am 12:00, i’w ddychwelyd erbyn 17:30
- seremoni am 15:00, i’w ddychwelyd erbyn 19:00
- seremoni am 17:30, i’w ddychwelyd erbyn 20:30
- defnyddir sglodion Adnabod Amledd
Radio ym mhob eitem i fonitro cyflenwad a sicrhau bod eitemau’n cael eu dychwelyd - dylai graddedigion gasglu eu gwisg academaidd ar eu pen eu hunain er mwyn ein helpu i reoli nifer yr ymwelwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr – gall gwesteion aros yn ardal yr wŷl ym maes parcio’r Prif Adeilad
Ffilmio a tynnu lluniau yn ystod y digwyddiad graddio
At ddibenion hyrwyddo ac archifo, bydd lluniau’n cael eu tynnu drwy gydol y digwyddiad graddio. Bydd hefyd yn cael ei ffilmio.
Mae delweddau sain a gweledol o'r seremoni ar gael i'r cyhoedd. Mae graddedigion, gwesteion, a staff yn cydsynio i'r cyhoeddiad hwn drwy gymryd rhan yn y digwyddiad hwn.
Bydd y lluniau a’r ffilmiau’n debygol o ymddangos ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Os byddai'n well gennych beidio â bod mewn lluniau neu ffilmiau, rhowch wybod i’r ffotograffydd neu’r fideograffydd ar y pryd. Fel arall, cysylltwch ag aelod o’r tîm digwyddiadau.
Dysgwch fwy am rannu eich profiad graddio.
Dyddiadau ac amseroedd
Darllenwch y wybodaeth uchod i gael rhagor o wybodaeth am bob un o’r agweddau hyn ar eich diwrnod.
Gall eich derbyniad ysgol gael ei gynnal cyn neu ar ôl eich seremoni fel y nodir isod.
Dydd Llun, 15 Gorffennaf
Ysgol | Amser dechrau’r seremoni | Amser dechrau derbyniad yr Ysgol | Pryd y gallwch chi gasglu eich gwisg academaidd |
---|---|---|---|
Meddygaeth – Israddedigion ac Ôl-raddedigion | 12:00 | 14:30 | Dydd Sul, 14 Gorffennaf rhwng 16:00 a 19:00 neu Dydd Llun, 15 Gorffennaf rhwng 07:30 a 08:30 |
Y Biowyddorau Deintyddiaeth | 15:00 | 12:00 | Dydd Llun, 15 Gorffennaf rhwng 09:00 a 11:00 |
Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf
Ysgol | Amser dechrau’r seremoni | Amser dechrau derbyniad yr Ysgol | Pryd y gallwch chi gasglu eich gwisg academaidd |
---|---|---|---|
Busnes 1* | 09:30 | 11:45 | Dydd Llun, 15 Gorffennaf rhwng 16:00 a 19:00 neu Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf rhwng 07:30 a 08:30 |
Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Cymraeg | 12:00 | 09:30 | Dydd Llun, 15 Gorffennaf rhwng 16:00 a 19:00 neu Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf rhwng 08:30 a 09:30 |
Busnes 2* Y Gwyddorau Cymdeithasol | 15:00 | 13:00 | Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf rhwng 10:30 a 13:00 |
Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Ieithoedd Modern | 17:30 | 15:00 | Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf rhwng 13:00 a 15:00 |
Dydd Mercher, 17 Gorffennaf
Ysgol | Amser dechrau’r seremoni | Amser dechrau derbyniad yr Ysgol | Pryd y gallwch chi gasglu eich gwisg academaidd |
---|---|---|---|
Pensaernïaeth Cemeg Ffiseg a Seryddiaeth | 09:30 | 13:00 | Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf rhwng 16:00 a 19:00 neu Dydd Mercher, 17 Gorffennaf rhwng 07:30 a 08:30 |
Cyfrifiadureg a Gwybodeg Mathemateg | 12:00 | 09:30 | Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf rhwng 16:00 a 19:00 neu Dydd Mercher, 17 Gorffennaf rhwng 08:30 a 09:30 |
Peirianneg Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd | 15:00 | 11:00 | Dydd Mercher, 17 Gorffennaf rhwng 09:30 a 11:00 |
Dydd Iau, 18 Gorffennaf
Ysgol | Amser dechrau’r seremoni | Amser dechrau derbyniad yr Ysgol | Pryd y gallwch chi gasglu eich gwisg academaidd |
---|---|---|---|
Y Gwyddorau Gofal Iechyd 1* | 09:30 | 11:45 | Dydd Mercher, 17 Gorffennaf rhwng 16:00 a 19:00 neu Dydd Iau, 18 Gorffennaf rhwng 07:30 a 08:30 |
Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol Seicoleg | 12:00 | 14:30 | Dydd Iau, 18 Gorffennaf rhwng 08:30 a 11:00 |
Y Gwyddorau Gofal Iechyd 2* Optometreg a Gwyddorau’r Golwg | 15:00 | 11:00 | Dydd Iau, 18 Gorffennaf rhwng 08:30 a 11:00 |
Dydd Gwener, 19 Gorffennaf
Ysgol | Amser dechrau’r seremoni | Amser dechrau derbyniad yr Ysgol | Pryd y gallwch chi gasglu eich gwisg academaidd |
---|---|---|---|
Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth 1* | 09:30 | 11:45 | Dydd Iau, 17 Gorffennaf rhwng 16:00 a 19:00 neu Gwener, 18 Gorffennaf rhwng 07:30 a 08:30 |
Daearyddiaeth a Chynllunio Hanes, Archaeoleg a Chrefydd | 12:00 | 14:30 | Dydd Gwener, 19 Gorffennaf rhwng 08:30 a 11:00 |
Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth 2* Cerddoriaeth | 15:00 | 11:00 | Dydd Gwener, 19 Gorffennaf rhwng 08:30 a 11:00 |
*Mae dwy seremoni yn cael eu cynnal ar gyfer ein hysgolion mwy: Busnes, Y Gwyddorau Gofal Iechyd, Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Telerau ac Amodau
Os bydd gofyn i Brifysgol Caerdydd ('Y Brifysgol') ganslo, newid neu aildrefnu seremonïau graddio a digwyddiadu, bydd y Brifysgol yn ceisio cyfathrebu'r wybodaeth hon i fyfyrwyr, drwy ebost neu ar y wefan hon, gyda chymaint o rybudd â phosibl.
Os caiff y seremoni raddio a digwyddiadu eu chanslo neu ei gohirio, neu os caiff y seremoni ei haildrefnu (i gynnwys dyddiad, amser a/neu leoliad) oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i dân, ffrwydrad, gweithred derfysgol (neu fygythiad o weithred derfysgol), gweithred gan Dduw, pandemig, cyfnod o alaru cenedlaethol (unrhyw aelod o'r teulu brenhinol), trychinebau naturiol, argyfwng sifil neu aflonyddwch sifil, gweithredoedd diwydiannol neu anghydfod sy'n ymwneud â Phrifysgol Caerdydd, cofrestru myfyrwyr y tu hwnt i’r nifer o leoedd sydd ar gael, neu unrhyw ddigwyddiad arall sy'n golygu nad yw'r seremonïau graddio a digwyddiadau yn ddiogel i'w cynnal neu unrhyw weithred neu ddigwyddiad arall y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol. Ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw golledion uniongyrchol neu golledion eraill yr eir iddynt gan y graddedigion a'u gwesteion.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau, amseroedd a lleoliadau.
Myfyrwyr israddedig
Myfyrwyr ôl-raddedig
Gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer Graddio 2024 ac archebu tocynnau