Rhannwch eich profiad #CardiffGrad
Diweddarwyd: 19/03/2024 11:36
Rhannwch eich profiad prifysgol gyda ni cyn ac yn ystod Graddio er mwyn i ni allu cydnabod a dathlu eich cyflawniadau eithriadol.
Os ydych wedi rhagori yn eich astudiaethau neu wedi cwblhau ymchwil arloesol, efallai eich bod wedi curo'r holl odlau i gyflawni eich gradd, neu efallai bod eich amser yn y brifysgol yn eich arwain i gyfeiriad newydd a chyffrous.
Beth bynnag fo'ch heriau a'ch cyflawniadau, hoffem rannu eich straeon â chysylltiadau cyfryngau lleol a chenedlaethol ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Os oes gennych stori i'w rhannu, ebostiwch ni at communications@cardiff.ac.uk gyda'r wybodaeth ganlynol:
- enw
- rhif ffôn cyswllt (adref/ffôn)
- cyfeiriad ebost cyswllt
- gradd
- Ysgol
- dyddiad ac amser eich seremoni Raddio
- eich papur(au) newydd lleol
- gwybodaeth sy'n haeddu sylw yn y newyddion, a lluniau, os yn bosibl.
Rhannu eich profiad Graddio â ni
P'un a ydych chi'n raddedig, yn westai neu'n aelod o staff sy'n mynychu Graddio, rhannwch eich profiad gyda ni drwy ddefnyddio #CardiffGrad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Tagiwch eich pyst gan ddefnyddio #CardiffGrad. Gallwch ddod o hyd i ni ar y sianeli canlynol:
Cyhoeddi gwybodaeth a delweddau
Dylai graddedigion, gwesteion, a staff sy'n mynychu Graddio wybod y gallai pob agwedd ar y digwyddiadau hyn gael eu rhannu'n gyhoeddus.
Postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol
Bydd cynnwys a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr sy’n ymwneud â Graddio’n cael ei guradu gan dîm y cyfryngau cymdeithasol a’i arddangos ar sgriniau yn y Stadiwm ac mewn detholiad o leoliadau ar draws y campws.
Bydd y cynnwys yn dod o bostiadau sy’n tagio cyfrifon canolog y Brifysgol ar y cyfryngau cymdeithasol (@cardiffuni a @prifysgolcdydd) a/neu sy’n cynnwys yr hashnodau Graddio #CardiffGrad and #GraddCdydd.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth am rannu eich profiad prifysgol gyda ni.
Tîm Cyfathrebu
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr wisgo'n smart a gwisgo gwisg academaidd ar gyfer graddio.