Ewch i’r prif gynnwys

Cyflymu datblygiad trefol cynaliadwy mewn Ewrop ôl-sosialaidd

Nododd Dr Oleg Golubchikov fylchau polisi y mae dinasoedd ôl-sosialaidd yn eu hwynebu, gan osod heriau ar agendâu polisi rhyngwladol a chenedlaethol a grymuso newid.

Blocks of flats in Serbia

Hanes heriol

Mae'r heriau trefol y mae gwledydd Dwyrain Ewrop a gwledydd a oedd gynt yn rhan o’r Undeb Sofietaidd yn eu hwynebu yn niferus ac yn gymhleth.

Mae’r gwledydd hyn yn aml yn cynnwys economïau trefol bregus, anghydraddoldebau cymdeithasol a gofodol, diffygion sefydliadol mewn gweinyddiaeth a llywodraethu trefol, systemau hen ffasiwn ar gyfer rheoli a chynnal a chadw tai, a phroblemau o ran fforddiadwyedd tai ac aneffeithlonrwydd ynni.

Yn hanesyddol, fodd bynnag, nid oedd heriau trefol a thai dinasoedd Dwyrain Ewrop yn ddigon gweladwy yng nghytundebau rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig, tra mewn strategaethau ar lefel genedlaethol mae materion trefol hefyd yn aml yn cael eu hesgeuluso wrth i bolisïau sy’n canolbwyntio ar ddiwygiadau economaidd a sectorau eraill gael blaenoriaeth.

Bu Dr Oleg Golubchikov yn cydweithio â’r Cenhedloedd Unedig er mwyn llunio canllawiau polisi ar sail tystiolaeth ar gyfer datblygu trefol cynaliadwy yn y rhanbarth. Roedd yr ymchwil hon yn sail i fecanweithiau’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer llunio a gweithredu polisïau, a rhoddodd mwy o bwyslais ar heriau gwledydd ôl-sosialaidd mewn agendâu rhyngwladol a chenedlaethol.

Ymchwil a gomisiynwyd gan y Cenhedloedd Unedig

Cafodd Dr Golubchikov ei gomisiynu gan ddau o gyrff y Cenhedloedd Unedig i gynhyrchu ymchwil wedi’i harwain gan bolisïau.

  • UN-HABITAT (Rhaglen Anheddau Dynol y Cenhedloedd Unedig), corff y Cenhedloedd Unedig sy'n hyrwyddo polisïau ar gyfer cynaliadwyedd trefol a thai
  • UNECE (Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig), un o gomisiynau rhanbarthol y Cenhedloedd Unedig, sy’n gyfrifol am gydlynu cydweithredu a throsglwyddo polisïau ar draws ei 56 o aelod-wladwriaethau, gan ganolbwyntio ar ddarparu cymorth polisi a thechnegol i wledydd sydd ag economïau mewn cyfnod pontio

Helpodd ymchwil Prifysgol Caerdydd y Cenhedloedd Unedig i nodi pwyntiau allweddol sydd dan bwysau, meysydd lle mae cyfyng-gyngor, a blaenoriaethau ar gyfer trefoli cynaliadwy mewn cenhedloedd a oedd gynt yn rhai sosialaidd drwy:

  • roi sylfaen wybodaeth ar gyfer deall factorau allweddol sy’n arwain at newid a'r heriau y mae dinasoedd ôl-sosialaidd yn eu rhannu
  • dangos diffyg polisïau trefol a thai sy’n gyson ac yn integredig
  • ac eiriol dros fathau o ddatblygu a llywodraethu trefol sy’n fwy cynhwysol o safbwynt cymdeithasol a gofodol

Pwysleisiodd yr ymchwil hefyd pa mor bwysig yw mynd i’r afael â gwahaniaethau daearyddol a gwendidau sy’n seiliedig ar leoedd wrth ddatblygu polisïau ar gyfer trawsnewid mewn modd mwy cyfiawn.

Llywio fframweithiau polisi blaenllaw

Ar ôl nodi heriau allweddol sy'n wynebu dinasoedd mewn gwledydd a oedd gynt yn rhai sosialaidd, gweithiodd Prifysgol Caerdydd ar y cyd â'r Cenhedloedd Unedig i sicrhau camau gweithredu mewn perthynas â’r rhain yn unol â Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.

Arweiniodd y gwaith hwn at gydnabod heriau penodol a wynebir gan wledydd Dwyrain Ewrop yn nogfen New Urban Agenda y Cenhedloedd Unedig (2016), sef fframwaith byd-eang pwysig o bolisïau a safonau sydd eu hangen i gyflawni datblygiad trefol cynaliadwy.

Roedd yr ymchwil hefyd yn llywio cynlluniau gweithredu cenedlaethol ar gyfer tai cynaliadwy yn Serbia, Moldofa, Tajikistan ac Armenia.

Llywiodd Dr Golubchikov hefyd fframweithiau polisi rhyngwladol eraill a gafodd eu cyfryngu gan y Cenhedloedd Unedig ynghylch dinasoedd cynaliadwy cynhwysol sy’n braf i fyw ynddynt, gan gynnwys fframwaith polisi cyntaf y Cenhedloedd Unedig ar ddinasoedd cynaliadwy sy’n ddeallus o ran pobl.

Mae ymchwil Dr Golubchikov wedi cael ei defnyddio mewn nifer o adroddiadau eraill y Cenhedloedd Unedig fel eu sylfaen wybodaeth allweddol. Mae'r adroddiadau hyn yn sail ar gyfer datblygu canllawiau technegol newydd ar gyfer gwledydd sydd ag economïau mewn cyfnod pontio.

Mae ymchwil academaidd Dr Golubchikov ... wedi bod yn hynod werthfawr ar gyfer ein gwaith, gan roi dadansoddiad cadarn wedi’i lywio gan ymchwil sy’n rhoi yn ei gyd-destun ein dealltwriaeth o’r materion penodol, yr heriau, a’r camau gweithredu sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r trawsnewidiadau trefol presennol a wynebir yn y gwledydd hyn.
Pennaeth Swyddfa Cydlynu Prosiect UN-HABITAT ar gyfer Gwledydd Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol

Dyma’r tîm

Cysylltiadau pwysig