Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Is-strategaeth cenhadaeth ddinesig - drafft ar gyfer ymgynghori

  • Dyddiad dod i rym:
  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Is-strategaeth y Genhadaeth Ddinesig

Bydd Prifysgol Caerdydd yn parhau i ddehongli’r genhadaeth ddinesig mewn ffordd eang, gan ymgorffori'r ffyrdd yr ydyn ni’n helpu i hybu iechyd, cyfoeth a lles Caerdydd, Cymru a'r byd ehangach. Mae hyn yn cynnwys ymgymryd â'n rôl i hyrwyddo cynaliadwyedd ac amrywiaeth amgylcheddol.

Yng ngoleuni’r dyheadau ar gyfer cenhadaeth ddinesig yn sgîl Bil Drafft Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Llywodraeth Cymru*, mae'r ddogfen hon yn nodi sut y byddwn ni’n dehongli ffyrdd cyfredol o feddwl i lywio ein hamcanion penodol.

Ein huchelgais

Ein huchelgais yw cael ein cydnabod yn sgîl rhagoriaeth yn ein gweithgareddau o ran cenhadaeth ddinesig, ymrwymo fel partner cyfartal i weithio gyda rhanddeiliaid ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a ledled Cymru i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol, rhoi’r sgiliau cywir i gymunedau ac arwain adferiad gwyrdd wrth i Gymru adfer, adfywio ac ailgodi ar ôl COVID-19.

Byddwn ni’n adeiladu ar ein partneriaethau presennol gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd (ymhlith eraill) i sicrhau bod modd defnyddio ein harbenigedd academaidd er budd y cyhoedd a'n bod yn arwain drwy esiampl i 'ailgodi’n gryfach' wedi’r pandemig.

Adeiladu ar y strategaeth flaenorol

Roedd ein strategaeth flaenorol yn cyflwyno gweledigaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer sut y bydden ni’n cyflawni ein cenhadaeth ddinesig ehangach i bobl Caerdydd, Cymru a thu hwnt, gan adeiladu ar fwy na 130 mlynedd o ymgysylltu sifig. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedden ni wedi darparu lleoedd ysgol ar gyfer ffoaduriaid ifanc o Wlad Belg a oedd yn ffoi rhag gwrthdaro, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd derbynion ni fwy na 300 o fyfyrwyr a staff a oedd wedi cael eu symud o ganol Llundain. Yn ystod y 1960au roedd academyddion o Gaerdydd megis Tom Hopkinson yn herio Apartheid yn Ne Affrica yr oedd y wladwriaeth yn ei noddi, tra bod Archie Cochrane yng Nghymru yn gwneud gwaith maes helaeth ar niwmoconiosis yn y Rhondda Fach, gan fod hanes mwyngloddio glo yng Nghymru wedi arwain at gynnydd cyflym mewn afiechydon anadlol.

Yn yr un modd ag y bu inni ymateb i'r heriau cymdeithasol mawr hyn yn yr 20fed ganrif, mae argyfwng cymdeithasol ac iechyd presennol y coronafeirws wedi peri inni ailfeddwl o’r newydd, ac yn gyfan gwbl, ynghylch naws a graddfa uchelgais ein cenhadaeth ddinesig.

Ar ôl ymateb yn gyflym ac yn bendant i heriau COVID-19**, byddwn ni’n chwarae ein rhan wrth achub, adfywio ac adnewyddu gobeithion economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Cymru. Rydyn ni wedi ymgysylltu â’r rhanddeiliaid allweddol – gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru – i ddiweddaru blaenoriaethau ein cenhadaeth ddinesig er mwyn iddyn nhw gyd-fynd â rhai ein partneriaid a’u bod yn eu cefnogi. Yn ogystal, byddwn yn gweithio i gyfuno gwaith ar ein cenhadaeth ddinesig â’r ymgysylltu rydyn ni’n ei wneud â'r cyhoedd*** (yn ogystal â chyfuno’r meysydd hyn â'n his-strategaeth Arloesedd ar ei newydd wedd) er mwyn cynyddu cwmpas a graddfa’r ffordd rydyn ni’n ymgysylltu â'r byd yn ehangach.

Amcanion sylfaenol

Cawn ein hadnabod fel prifysgol:

  • sy'n cymryd o ddifrif ein cyfrifoldebau i fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd - nid yn unig drwy ein gweithredoedd ein hunain fel y nodir yn ein strategaeth ar gynaliadwyedd amgylcheddol, ond hefyd o ran y ffordd rydyn ni’n gweithio gyda phobl eraill ar faterion sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.
  • sydd wedi ymrwymo i wella sgiliau nid yn unig ar gyfer ein myfyrwyr ein hunain, ond drwy weithio gyda busnesau, y llywodraeth a rhanddeiliaid eraill, sicrhau bod ein campws a'n harbenigedd ar gael i ddiwallu anghenion y gymdeithas yn ehangach.
  • sydd wedi'i gwreiddio yn ei chymuned ac wedi ymrwymo i 'godi lefel' y rhannau o'n dinas a'n prifddinas-ranbarth sydd yn hanesyddol wedi bod dan anfantais a heb gynrychiolaeth ddigonol.
  • sy'n defnyddio ei harbenigedd academaidd i helpu anghenion cymdeithasol ehangach drwy gyfres barhaus ac eang o weithgareddau ym maes ymgysylltu â'r cyhoedd a’r genhadaeth ddinesig sy'n cyfrannu at ddealltwriaeth y cyhoedd a byd polisi o faterion cymhleth.
  • sydd â dull ‘lles y cyhoedd’ o ran ymgysylltu sydd wedi'i ymgorffori ar draws holl swyddogaethau a disgyblaethau bywyd y brifysgol, gan greu 'ymdeimlad cryf o le' ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chymru.
  • sy’n rhoi cyfle cyfartal i bawb sy'n gweithio neu'n astudio yma – gan gynnwys cydnabod y rôl enfawr y mae staff a myfyrwyr sy’n gwirfoddoli yn ei chwarae wrth gyflawni ein Cenhadaeth Ddinesig.
  • sy’n hyrwyddo ac yn dathlu'r Gymraeg, yn ogystal â bodloni ein gofynion statudol, drwy sicrhau bod cymuned Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu at faterion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru, gan gynnwys yr iaith Gymraeg.
  • sy’n ymroddedig i gynnal ein statws fel cyflogwr Cyflog Byw achrededig.
  • sy’n cael ei chydnabod fel arweinydd ar gyfer ein dull partneriaeth o ymgysylltu ag ysgolion cynradd ac uwchradd a cholegau addysg bellach yng Nghymru
  • sy'n rhoi rhagoriaeth ymchwil wrth wraidd ein tasg o gyflwyno arloesedd a’n cenhadaeth ddinesig, gan gydlynu a chreu mwy byth o gysylltiadau ar draws pob un o’r tri maes, ar y cyd â blaenoriaethau strategol a lles cenedlaethau'r dyfodol.

Peri i hyn ddigwydd: achub, adfywio ac adnewyddu

Yn dilyn ymgysylltu â’r rhanddeiliaid allweddol (gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru) yn dilyn argyfwng cychwynnol COVID-19, buon ni’n adolygu dyheadau cenhadaeth ddinesig Prifysgol Caerdydd o ran ystyried ai’r rhain oedd y blaenoriaethau cywir o hyd wrth i Gymru adfer ac ailgodi wedi’r pandemig. Daeth sawl thema gyffredin i'r amlwg yn sgîl trafodaethau gyda’r rhanddeiliaid, yn enwedig ynghylch yr angen am “adferiad ar sail gwerthoedd” gyda ffocws cryf ar fynd i'r afael â mathau o anghydraddoldeb cymdeithasol ac argyfwng yr hinsawdd, ond hefyd o ran yr angen i gefnogi pobl ifanc a chymunedau sydd wedi'u heithrio.

O ganlyniad i'r ystyriaethau hyn, mae Prifysgol Caerdydd wedi nodi tri maes ffocws ar gyfer cyfnod nesaf ein cenhadaeth ddinesig:

1. Sbarduno adferiad gwyrdd Cymru

Byddwn ni’n manteisio ar y cyfle yn sgîl pandemig COVID-19 i adnabod sut beth gallai dyfodol cynaliadwy fod trwy adeiladu ar y ffordd y mae pobl yn ailgysylltu â byd natur a’u pryder ynghylch dyfodol ein planed. Byddwn ni’n gwneud hynny fel a ganlyn:

  • gweithio gyda phartneriaid strategol i sicrhau bod cynlluniau Prifysgol Caerdydd o ran Carbon Sero-Net yn cyd-fynd â chynlluniau eraill, a bod y rhain hefyd yn cyd-fynd â pholisïau datblygu economaidd gwyrdd ehangach. Bydd hyn yn cynnwys gwella ein perfformiad ein hunain ar faterion hinsawdd drwy Banel ein Tîm Carbon Sero-Net.
  • datblygu ein prosiect Pharmabees, gan greu dinas sy’n gyfeillgar i wenyn, ysgogi meddwl pobl ifanc a helpu yn y frwydr yn erbyn uwch-fygiau. Wrth wneud hynny, byddwn ni’n gweithio gyda phobl ifanc a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol i ddatblygu sgyrsiau yn y gymuned ynghylch newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth a sut mae hyn yn uniongyrchol berthnasol i’w bywydau.
  • arwain trafodaethau ar sut i ymateb i argyfwng yr hinsawdd, gan weithio gyda Chyngor Caerdydd i gyd-reoli safleoedd sy'n sensitif o ran yr amgylchedd o amgylch ystâd y brifysgol, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i lywio rhaglen Anghenion Ymchwil Bioamrywiaeth a Thystiolaeth Ecosystemau (BEERN), gan ieuo grym ein hymchwil i ddangos y camau sydd eu hangen yng nghyd-destun Deddf yr Amgylchedd a Chenedlaethau'r Dyfodol.
  • Yn sail i'n huchelgais drwy ymgorffori Nodau Datblygu Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig ym mhopeth a wnawn, a thrwy gadw ein hymrwymiad i Fasnach Deg (rydym yn Brifysgol Masnach Deg ers 2007).

2. Meithrin sgiliau Cymru at y dyfodol

A ninnau’n brifysgol fwyaf Cymru, byddwn ni’n cofleidio ein rôl i gefnogi adferiad a arweinir gan sgiliau os bydd dirwasgiad ar ôl COVID-19. Byddwn ni’n gwneud hynny fel a ganlyn:

  • ychwanegu at ein gwaith ehangach ar Ehangu Cyfranogiad, Ymgysylltiad Addysgol a Dysgu Gydol Oes.
  • datblygu ein memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Yn y memorandwm, mae Sgiliau yn thema drawsbynciol sef elwa ar brosiect Sgiliau ar gyfer y Dyfodol, rhoi cyngor ymarferol ynghylch sut gall cyrff cyhoeddus bennu amcanion sy'n ymwneud â sgiliau a chymryd pob cam rhesymol i’w cyflawni mewn modd sy'n cyfrannu at nodau llesiant y Comisiynydd.
  • parhau, fel rhan o'n Strategaeth Cronfa Arloesedd Ymchwil Cymru, i weithio gyda phartneriaid AB a busnesau i gynyddu sgiliau, yn ogystal â chefnogi nodau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Phorth y Gorllewin o ran datblygu sgiliau.
  • parhau i gefnogi datblygiad corff o staff a myfyrwyr sy’n ddwyieithog.
  • helpu ein staff a'n myfyrwyr i ymgymryd â gweithgareddau menter a thyfu busnesau newydd sy'n cefnogi'r economi leol.

3. Cofleidio ymgysylltiad cymunedol

Bydd Cronfa Blaenoriaethau ein Cenhadaeth Ddinesig4**** yn cefnogi prosiectau allweddol sy'n cynnal gwead cymdeithasol ein cymunedau amrywiol. Byddwn ni’n gwneud hynny fel a ganlyn:

  • adeiladu ar lwyddiant ein Prosiect Porth Cymunedol drwy barhau i ymgysylltu â chymuned Grangetown drwy'r prosiect presennol, ond hefyd drwy ystyried sut y gellid ehangu'r cydweithio cymunedol llwyddiannus hwn i grwpiau difreintiedig eraill yng Nghaerdydd, yn enwedig pan mae (neu y bydd) COVID-19 yn creu anghydraddoldeb.
  • dysgu gan yr hyn y mae Prosiect Treftadaeth CAER wedi’i gyflawni hyd yma er mwyn ystyried ffyrdd eraill o gynnwys cymunedau yng ngwaith Prifysgol Caerdydd drwy raglen estynedig o Ymgysylltu â’r Cyhoedd.
  • datblygu ein gwaith cynyddol ynghylch rhagnodi cymdeithasol yn y Cymoedd, fel bod modd i weithwyr proffesiynol lleol ym maes gofal sylfaenol atgyfeirio pobl at ystod o wasanaethau anghlinigol sy’n gallu gwella iechyd meddwl a lles corfforol trwy roi sylw i anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymarferol.
  • ceisio blaenoriaethu prosiectau sy'n cefnogi cymunedau amrywiol Caerdydd i adlewyrchu effaith anghymesur COVID-19 ar boblogaethau BAME ac i adlewyrchu'r newidiadau cymdeithasol a gafodd eu hysgogi a’u hatgyfnerthu yn sgîl ymgyrch Black Lives Matter.

Wrth reswm, byddwn ni’n parhau â’n gwaith i wella Iechyd a Lles Cymru ac i arwain Adfywio Economaidd yn wyneb heriau COVID-19, a bydd y gwaith hwn yn cysylltu â’n cenhadaeth ddinesig ehangach - ond y tair thema a amlinellwyd uchod fydd y flaenoriaeth sy’n ein tywys, oherwydd mai nhw yw’r blaenoriaethau sy’n tywys ein partneriaid allweddol yn ogystal.

Ffactorau llwyddiant hollbwysig

Mae'r is-strategaeth hon, am resymau amlwg, yn cefnogi ffactor llwyddiant hollbwysig Prifysgol Caerdydd agosaf o ran “y genhadaeth ddinesig a'n cyfraniad at achub, adfywio ac adnewyddu”, a byddwn ni’n cyflawni hynny drwy’r dyheadau a'r gweithgareddau a nodir uchod. Byddwn ni’n defnyddio ein harbenigedd academaidd, addysgol, clinigol ac ymchwil i helpu llywodraethau a’r gymdeithas ehangach i roi Cymru a'r Deyrnas Unedig mewn sefyllfa i ymdopi â COVID-19 mewn ffordd fydd yn achosi cyn lleied â phosibl o niwed, ac i greu'r sylfaen economaidd, gymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol orau ar gyfer y byd sy’n dilyn COVID, yn unol â hanfodion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Yn ogystal, mae'r is-strategaeth hefyd yn cefnogi ein bwriad i roi blaenoriaeth i “foddhad a phrofiad myfyrwyr”, yn ogystal â'n huchelgais i gydweithio'n agos ag Undeb y Myfyrwyr i roi profiad mor gyfoethog â phosibl i'n myfyrwyr o dan amodau diogel COVID. Mae hyn yn ymestyn i'n gweithgareddau sy’n ymwneud â’r genhadaeth ddinesig pan fyddwn ni’n parhau i gynnwys Undeb y Myfyrwyr wrth lunio strategaeth a chyflawniad y prosiect, yn ogystal â chynnwys y myfyrwyr eu hunain yn ein gweithgareddau sy’n ymwneud â’r Genhadaeth Ddinesig ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd.

Yn olaf, bydd ein cenhadaeth ddinesig a'n gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd yn cyd-fynd yn agos ag agenda ymchwil ac arloesedd ehangach Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys yr angen i elfennau o’r genhadaeth ddinesig fod yn rhan o'n proses “grantiau a chontractau ymchwil”.

Cyfeiriadau

* Llywodraeth Cymru (2020 ) Bil Drafft Addysg ac Ymchwil Trydyddol (Cymru), Cymru: Llywodraeth Cymru - lle diffinnir cenhadaeth ddinesig fel un sy'n cwmpasu “gweithredu at ddibenion hyrwyddo neu wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru (gan gynnwys gweithredu a allai gyflawni unrhyw un o'r nodau llesiant yn adran 4 o Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015”.

** Mae nodyn briffio sy’n tynnu sylw at rai o'r camau y mae Prifysgol Caerdydd wedi'u cymryd i arloesi a gweithio gyda'r llywodraeth a gwasanaethau iechyd mewn ymateb i heriau COVID-19 ar gael ar-lein.

*** Er bod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Chenhadaeth Ddinesig, cânt eu trin fel meysydd gwahanol. Mae Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn canolbwyntio ar ymchwil ac addysg, tra bod ein Cenhadaeth Ddinesig yn ymwneud â sefydlu perthynas hirdymor â chymuned ddaearyddol, a mynd i'r afael ag ystod eang o heriau cymdeithasol.

**** Yn achos 2020/21, bydd hyn yn cefnogi ein prosiectau presennol gyda’r Porth Cymunedol a Llywodraethwyr Ysgol, a’n dyhead fydd bod y prosiectau hyn yn nodi ac yn denu ffynonellau cyllid newydd o 2021/22 ymlaen er mwyn i Gronfa Flaenoriaethau’r Genhadaeth Ddinesig fedru ehangu ei chwmpas.

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Is-strategaeth cenhadaeth ddinesig - drafft ar gyfer ymgynghori
Dyddiad dod i rym:14 Ebrill 2021