Ewch i’r prif gynnwys

Menter 'Dannedd Siarad'

Mae'r fenter 'Dannedd Siarad' yn brosiect dan arweiniad myfyrwyr, a gynlluniwyd i addysgu pobl ifanc, yn benodol mewn cymunedau economaidd-gymdeithasol isel, am bwysigrwydd iechyd y geg, a chyfleoedd gyrfa ym maes deintyddiaeth.

Yn aml, mae gan blant sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig iechyd y geg gwaeth, ac maent yn llai tebygol o fynd i'r brifysgol. Mae'r fenter Dannedd Siarad eisiau helpu i newid y naratif hwn.

Gweithdai addysgol

Mae ein tîm, sy'n cynnwys myfyrwyr deintyddol cyfredol a staff academaidd, yn ymweld ag ysgolion cynradd lleol i gyflwyno gweithdai iechyd y geg i ddisgyblion.

Rydym yn canolbwyntio ar ymweld ag ysgolion mewn cymunedau sydd wedi'u hamddifadu'n gymdeithasol, gan fod nifer y plant sy'n profi caris deintyddol yn yr ardaloedd hyn yn aml yn uwch.

Rydym hefyd yn cynnal gweithdai mewn digwyddiadau lleol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer ffoaduriaid, ceiswyr lloches, a'r rhai sy'n byw mewn cymunedau economaidd-gymdeithasol isel, er mwyn sicrhau bod cymaint o blant a theuluoedd â phosibl yn meddu ar y wybodaeth a'r adnoddau i atal clefyd deintyddol.

Talking Teeth community event
Child brushing their teeth

Iechyd y geg yng Nghymru

Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod:

  • mae dros 30% o blant pump oed yng Nghymru yn dioddef o garis deintyddol
  • mae plant sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig yn tueddu i fod ag iechyd y geg gwaeth
  • mae un o bob deg plentyn yn gadael yr ysgol gynradd yn methu â brwsio eu dannedd heb help

Mae 'Dannedd Siarad' yn dod yn fenter gynyddol boblogaidd. Mae adborth gan ysgolion lleol wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae'r ceisiadau am ymweliadau yn y gymuned wedi cynyddu'n sylweddol!
Shannu Bhatia Uwch-ddarlithydd Clinigol mewn Deintyddiaeth Bediatrig

Ehangu cyfranogiad mewn deintyddiaeth

Mae ymgeiswyr prifysgol o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel yn llawer llai tebygol o fynd i'r brifysgol, ac maent yn debygol o ennill llai na'u cymheiriaid mwy breintiedig.

Mae ein tîm eisiau helpu i newid hyn, felly yn ystod ein hymweliadau ag ysgolion lleol rydym yn cynnal 'gwersylloedd gyrfaoedd', lle mae ein myfyrwyr deintyddol:

  • cynnig awgrymiadau ynghylch gwneud cais i'r brifysgol
  • siarad am ddiwrnod ym mywyd myfyriwr deintyddol
  • ysbrydoli disgyblion i ystyried gyrfaoedd seiliedig ar wyddoniaeth

Gobeithiwn y bydd y gwersylloedd hyn yn annog cymaint o bobl ifanc â phosibl i ystyried gyrfa yn y proffesiynau deintyddol, ac i ystyried addysg uwch fel cyfle ymarferol a hygyrch.

Cwrdd â'r tîm