Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau'r gorffennol

Mae Canolfan i'r Economi Greadigol yn gweithio ar draws yr economi greadigol i rannu gwybodaeth, atgyfnerthu arfer da ac arddangos llwyddiant. Darganfod mwy am ein prosiectau yn y gorffennol.

Roedd Clwstwr yn rhaglen bum mlynedd uchelgeisiol i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd i’r sgrin. Gan adeiladu ar lwyddiant de Cymru wrth wneud cynnwys creadigol, rhoddodd Clwstwr ymchwil a datblygu wrth wraidd y sector cynhyrchu. Creodd ddiwylliant o arloesedd yn y clwstwr i symud y sector sgrin o safle o gryfder i un sy’n arwain yn rhyngwladol. Creodd Clwstwr lwyfan i gwmnïau annibynnol, BBaChau, microfusnesau a gweithwyr llawrydd allu cystadlu gyda chwmnïau cyfryngol byd-eang, hynod integredig. Arweiniwyd Clwstwr gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Creodd Clwstwr nifer o weithgareddau ac ymyriadau, gan fuddsoddi i 118 o brosiectau arloesedd yn niwydiannau creadigol Cymru a'u cefnogi. Daeth adroddiad yn mesur effaith y rhaglen i’r casgliad fod y prosiectau a ariannwyd gan Clwstwr wedi cyfrannu'n uniongyrchol at dros £20 miliwn o drosiant ychwanegol a chreu mwy na 400 o swyddi ychwanegol yn y diwydiannau creadigol. Rhwng 2019 a 2022, cyfrannodd Clwstwr £1 ym mhob £13 o dwf trosiant blynyddol yn niwydiannau creadigol Cymru.

Ers ei sefydlu, mae tîm Caerdydd Creadigol yn mapio twf rhwydweithiau creadigol yn y DU a’r tu hwynt iddi i ddysgu rhagor am eu tarddiad a’u potensial yn rhan o’r ecosystem greadigol. Mae rhwydweithiau o'r fath yn haeddu sylw gan eu bod yn cynnig cyfleoedd pwysig i ymgysylltu, rhyngweithio, meithrin gallu a chyfnewid, yn ogystal â chyflawni swyddogaeth lobïo hanfodol ar bob lefel, yn aml. Yn ystod y digwyddiad Cysylltu’r Dotiau ar 30 Medi 2020, daeth cynrychiolwyr rhwydweithiau ledled y DU at ei gilydd ar y we i rannu eu profiadau am gefnogi gweithgareddau creadigol yn eu hardaloedd, a rhai o’r heriau. Diben seminar undydd rhithwir Caerdydd Creadigol oedd cyfleu darlun o sefyllfa rhwydweithiau creadigol dinasoedd a threfi ar hyn o bryd, trafod achosion a sbarduno ffyrdd newydd o ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid.

Prif nod y seminar oedd lledaenu canfyddiadau prosiect ymchwil diweddar Dr Marlen Komorowski a Sara Pepper am swyddogaethau a chynaliadwyedd rhwydweithiau creadigol.

Roedd Ymlaen! yn rhaglen man desgiau creadigol a roddodd gyfle i fyfyriwr graddedig diweddar o Brifysgol Caerdydd ddatblygu ei arfer creadigol yng nghymuned eclectig, gyflenwol Rabble Studio o bobl gyfeillgar a chreadigol. Roedd y man desgiau a ariannwyd a’r rhaglen fentora yn agored i raddedigion a oedd am ddechrau busnes creadigol ac fe’i cefnogir gan dîm Menter a Dechrau Busnes Caerdydd Creadigol a Phrifysgol Caerdydd. Gyda'r rhaglen hon, gwnaethom ymdrechu i helpu graddedigion i gymryd y camau cyntaf yn eu gyrfaoedd yn hyderus, gan greu amgylchedd lle mae busnesau creadigol newydd yn cael eu datblygu a'u hannog yn y ffordd orau bosibl.

Ceisiodd y prosiect hwn, a arweiniwyd gan Dr Johann Gregory, ychwanegu gwerth at bartneriaethau presennol, a chreu rhai newydd, drwy rwydweithio canolfannau creadigol – mannau cydweithio i gwmnïau bach a gweithwyr llawrydd – o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Ym mis Mehefin 2016, bu Caerdydd Creadigol yn curadu man cydweithio creadigol, neu ‘ganolfan’, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bu busnesau creadigol, sefydliadau a gweithwyr llawrydd o wahanol ddiwydiannau creadigol a rhannau eraill o’r economi greadigol yn cydweithio ac yn dod at ei gilydd ag academyddion a myfyrwyr am wythnos i brofi cysyniad canolfan greadigol. Dros yr wythnos, darparodd y ganolfan: lle gwaith am ddim gydag amser penodol i weithio, y cyfle i gwrdd â phobl o bob rhan o’r economi greadigol, lle i rannu gwybodaeth, syniadau a sgiliau rhaglen amrywiol o sgyrsiau a gweithdai boreol. Yn ystod yr wythnos, ymgynghorwyd â chyfranogwyr ar eu syniadau, eu hanghenion a’u heriau i lywio’r gwaith o ddatblygu canolfan mwy parhaol. Cyflogodd Caerdydd Creadigol fyfyriwr israddedig trwy Raglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig (CUROP) y Brifysgol i gasglu barn y gymuned. Mae myfyriwr CUROP y prosiect hefyd wedi dewis canolbwyntio ei thraethawd hir israddedig ar ganolfannau creadigol.

Gweithiodd Caerdydd Creadigol gyda myfyrwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru i weddnewid Galeri Viriamu Jones ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd y prosiect Stiwdio Fertigol arloesol hwn yn gyfle i archwilio datblygiad canolfan greadigol pwrpasol yn y ddinas.  

Gwyliwch y fideo am Stiwdio Fertigol.

Mae gwaith arloesol tîm y Ganolfan i’r Economi Greadigol yn adeiladu ar brosiect cyfnewid gwybodaeth REACT (Ymchwil a Menter yn y Celfyddydau a Thechnoleg Greadigol). Wedi'i ariannu yn 2011 gan grant AHRC o £4m, nod REACT oedd cefnogi prosiectau cydweithredol rhwng ymchwilwyr y celfyddydau a'r dyniaethau a busnesau creadigol. Roedd y prosiect yn annog ac yn cefnogi gwaith y tu hwnt i baramedrau confensiynol y byd academaidd a dysgu gydag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol diwylliannol a chreadigol, a ganddynt, gan ddatblygu syniadau arloesol ym maes technoleg greadigol.

Ariannodd REACT fwy na 50 o brosiectau ar draws pum prifysgol – UWE Bryste (Prifysgol Gorllewin Lloegr), Prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg a Watershed ym Mryste. Mae enghreifftiau o'n prosiectau REACT yn cynnwys Jekyll 2.0 a With New Eyes I See

Gan adeiladu ar etifeddiaeth REACT, rydym yn parhau i ddatblygu’r gwaith o gyfnewid gwybodaeth rhwng Prifysgol Caerdydd ac economi greadigol Caerdydd.