Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau cyfredol

Mae'r Ganolfan i'r Economi Greadigol yn gweithio’n agos ar draws yr economi greadigol i rannu gwybodaeth, atgyfnerthu arfer da ac arddangos llwyddiant. Darganfod mwy am ein prosiectau cyfredol.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Casnewydd, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf ar brosiect newydd sef Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol. Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

Y gobaith yw y bydd y tair canolfan beilot yn ysgogi buddsoddiad ac yn ehangu manteision diwydiannau creadigol ffyniannus Caerdydd ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR). Er bod cynlluniau penodol yn cael eu cwblhau, mae’n bosibl y bydd y rhain yn cynnwys agor lleoedd ffisegol lle gall pobl greadigol gydweithio â’i gilydd, mentrau i ddatblygu sgiliau lleol yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio a buddsoddi mewn prosiectau ymchwil ac arloesi newydd.

Mae’r prosiect diweddaraf hwn yn ehangu ar waddol prosiect Clwstwr Prifysgol Caerdydd. Rhaglen ymchwil a datblygu i ymgorffori prosesau arloesi yn sector y cyfryngau yn ne Cymru oedd Clwstwr. Rhwng 2018 a 2023, ariannodd Clwstwr 118 o brosiectau ymchwil a datblygu a llwyddodd y diwydiant i greu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd yn y sectorau sgrin a newyddion.

Yn y lleoliad hwn, rydyn ni’n lansio Ymchwil a Datblygu Creadigol yn Tramshed Tech i gefnogi a llwyfannu ymchwil, datblygu ac arloesi (RD&I) yn y clwstwr creadigol, gan hyrwyddo prosiectau arloesi’r rhanbarth. 

Gall Ymchwil a Datblygu Creadigol yn Tramshed Tech fod ar gael i fusnesau ac unigolion sydd wedi derbyn cyllid ar gyfer prosiect Ymchwil a Datblygu Clwstwr neu Media Cymru (2019 – 2023).

Mae'r Ganolfan i’r Economi Greadigol yn bartner cyflawni ar y Rhaglen Cynnwys Cydgyfeiriol. Mae'r rhaglen yn cysylltu diwydiannau technoleg a chreadigol er mwyn archwilio ffyrdd newydd o greu cynnwys, cysylltu â chynulleidfaoedd newydd ac ehangu dosbarthiad cynnwys.

Trwy ystod o weithdai a digwyddiadau, mae'r rhaglen hon wedi ymrwymo i amrywiaeth a chynhwysiant, gan wneud y dechnoleg newydd yn hygyrch i fwy o bobl a meithrin cydweithrediad.

Bu Caerdydd Creadigol yn gweithio mewn partneriaeth ag Art School Plus i greu dwy Ysgol Gelf Caerdydd Creadigol a ariennir yn llawn. Cafodd dau artist lleol ar ddechrau eu gyrfa gyfle i gymryd rhan yng nghwrs hyfforddi Art School Plus 2023 eleni yn rhad ac am ddim, gan gynnwys costau teithio a llety. Cewch ragor o wybodaeth yr artistiaid a ddewiswyd.

Mae Art School Plus, a sefydlwyd yn 2021, yn torri tir newydd wrth rymuso artistiaid ar ddechrau eu gyrfa i ddefnyddio eu sgiliau a’u gweledigaeth i aildanio cymunedau drwy waith effeithiol a deallusol yn yr amgylchfyd cyhoeddus. Mae'n cyflawni hyn drwy gyflwyno cwrs hyfforddi dwys wythnos o hyd wyneb yn wyneb gyda charfan fach o artistiaid ac ymarferwyr a ddewiswyd yn ofalus. Y nod yw rhoi’r profiad a'r meddylfryd ymarferol i gyfranogwyr ymateb i gyfleoedd comisiynu cyhoeddus a chyflawni gwaith ystyriol, effeithiol.

Mewn partneriaeth â'r cynhyrchydd theatr Tom Bevan, mae Caerdydd Creadigol yn cynnal gofod i bobl greadigol niwroamrywiol, cynhyrchwyr ac artistiaid sy'n gweithio yn y sector diwylliannol yn ne Cymru ddod at ei gilydd i weithio a chysylltu. Mae'r digwyddiadau wedi'u strwythuro i gynnwys rhywfaint o rwydweithio, egwyl ginio sy'n cynnwys micro-gyflwyniad a sesiwn holi ac ateb gan gydweithwyr creadigol niwroamrywiol, ac amser ar gyfer cael eich mentora gan gymheiriaid a datblygu syniadau.