Ewch i’r prif gynnwys

Media Cymru

Ariennir Media Cymru yn sgîl £22m gan Gronfa Cryfder Mewn Lleoedd, sef un o raglenni blaenllaw Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), £3m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, £1m gan Lywodraeth Cymru drwy law Cymru Greadigol, a £23m o arian cyfatebol gan bartneriaid ym myd diwydiant a phrifysgolion.

Mae sefydliadau partner o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhan o Gonsortiwm media.cymru ac maen nhw’n gyfrifol am arwain prosiectau yn y pecynnau gwaith isod.

Arloesi cynaliadwy a chynhwysol yn sector y cyfryngau

Rhaglen ar y cyd yw Media Cymru i sbarduno twf yn sector cyfryngau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), gan ei droi’n rhanbarth byd-eang ym maes arloesi.

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yw un o glystyrau’r cyfryngau sy’n perfformio orau yn y DU – y trydydd mwyaf ar ôl Llundain a Manceinion – ac mae un o bob wyth o’r holl swyddi newydd yn y DU ym maes ffilm a theledu yn cael eu creu yn y CCR.

Gan ehangu ar y sylfeini llwyddiannus hyn, bydd Media Cymru yn creu datblygiad economaidd cynhwysol a chynaliadwy drwy fynd i’r afael ag anghenion sgiliau’r dyfodol, cynyddu cyfleoedd gwaith a chreu cwmnïau mwy arloesol.

Nodau Media Cymru

  • Gwneud y CCR yn rhanbarth byd-eang ym maes cynhyrchu ac arloesi yn y cyfryngau, gan feithrin cynulleidfaoedd rhyngwladol fydd yn cydnabod dylanwad y CCR.
  • Annog y diwydiant i gydweithio ar brosiectau ymchwil a datblygu (Y&D), cynyddu gallu busnesau i arloesi, a chreu cynhyrchion, gwasanaethau neu brofiadau newydd a fydd yn barod ar gyfer y farchnad.
  • Ysgogi twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy yn sector cyfryngau Cymru, gan ddarparu £236 miliwn ychwanegol o ran gwerth ychwanegol crynswth (GYC) erbyn 2026 a chreu cannoedd o swyddi a rhagor o gwmnïau arloesol.

Pecynnau gwaith Media Cymru

Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, mae gan Media Cymru dri phrif weithgarwch:

Cynhyrchu a seilwaith digidol yn y dyfodol

Creu seilwaith digidol, datblygu technolegau newydd a lleoedd i arloesi’n greadigol.

Galluoedd y dyfodol

Mynd i’r afael ag anghenion sgiliau’r dyfodol fel y bydd ymchwil a datblygu (Y&D) yn gallu creu cynnyrch, gwasanaethau neu brofiadau newydd ar gyfer y farchnad.

Prosiectau arloesi a sbardunir gan heriau

Cydweithio â phartneriaid i roi atebion i heriau a chyfleoedd ym maes cynaliadwyedd, cynhyrchu dwyieithog, amrywiaeth a chynhwysiant, twristiaeth a thechnoleg.

Cyfleoedd i'r sector

Bydd Media Cymru yn rhoi cyfleoedd ym maes ymchwil, datblygu ac arloesi (YD&I) i fusnesau sy’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a thu hwnt.

Partneriaid y consortiwm:

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth, ebostiwch: media.cymru@caerdydd.ac.uk