Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau

Rydym yn gweithio’n agos ar draws yr economi greadigol i rannu gwybodaeth, cydgrynhoi arfer da ac arddangos llwyddiant. Mae ein gwaith yn uno pobl greadigol o wahanol ddisgyblaethau ac yn galluogi syniadau newydd i ffynnu.

Rydyn ni’n magu ac yn ysgogi twf cynaliadwy a theg drwy feithrin cysylltiadau, creu cyfleoedd i ddangos creadigrwydd a buddsoddiad mewn busnesau o bob maint, a hybu datblygiad y genhedlaeth nesaf o bobl greadigol.

O fewn Canolfan yr Economi Greadigol, rydym yn canolbwyntio ar ddwy brif raglen waith ar hyn o bryd, Media Cymru (2022 - 2026) a Chaerdydd Creadigol (a sefydlwyd yn 2014). Dysgwch fwy am y rhaglenni hyn a phrosiectau eraill o'r gorffennol a'r presennol.

Media Cymru

Media Cymru

Mae Media Cymru'n cydweithio i gyflymu twf yn sector cyfryngau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Caerdydd Creadigol

Caerdydd Creadigol

Wedi’i sefydlu yn 2014, roedd ffocws cychwynnol y Ganolfan ar adeiladu rhwydwaith, gan lansio rhwydwaith Caerdydd Creadigol yn 2015 i ymgysylltu â diwydiant ac annog cydweithredu ac arloesi ar draws sectorau.

Prosiectau cyfredol

Prosiectau cyfredol

Mae'r Ganolfan i'r Economi Greadigol yn gweithio’n agos ar draws yr economi greadigol i rannu gwybodaeth, atgyfnerthu arfer da ac arddangos llwyddiant. Darganfod mwy am ein prosiectau cyfredol.

Prosiectau'r gorffennol

Prosiectau'r gorffennol

Darganfod mwy am brosiectau'r gorffennol.