Gwestai a chyfarwyddiadau
Gwybodaeth am sut i gyrraedd y gynhadledd a sut i gael gostyngiad ar westai.
Cyrraedd y gynhadledd
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion Prifysgol Caerdydd ar gampws Parc Cathays.
Ar y trên
Mae Parc Cathays yn daith gerdded 15 munud o ganol y ddinas, a phum munud yn unig o orsaf drên Cathays. Mae trenau o Gaerdydd Canolog a Chaerdydd Heol y Frenhines yn rhedeg i orsaf Cathays bob deg munud yn ystod yr awr frys. Mae lleoliad y gynhadledd yn daith gerdded 25 munud o orsaf drenau Caerdydd Canolog.
Gyda sat nav
Os ydych yn defnyddio Sat Nav i ddod o hyd i'r lleoliad, dyma'r cyfeiriad: Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU.
Cyfraddau gostyngedig ar gyfer gwestai
Rydym wedi trefnu cyfraddau gostyngedig gyda'r pedwar gwesty canlynol. Mae pob un o'r gwestai hyn 10–15 munud o daith gerdded o'r leoliad yn ogystal â Stadiwm Principality – y lleoliad ar gyfer cinio'r gynhadledd.
I gael y cyfraddau ffafriol, nodwch y codau gostyngol ar gyfer pob gwesty, a dilynwch y cyfarwyddiadau. Mae pob gwesty wedi dyrannu nifer penodol o ystafelloedd ar gyfer y gynhadledd ar 15 ac 16 Ebrill. Caiff rhain eu rhoi ar sail y cyntaf i'r felin.
Hotel Indigo
- Lleoliad: Arcêd Dominion's, oddi ar Heol y Frenhines, neu oddi ar Faes y Brodyr Llwydion, Caerdydd, CF10 2AR.
- Ffôn: (+44) (0)871 942 9104
- Cyfradd: £91 y noson ar gyfradd ostyngol Prifysgol Caerdydd. Gwely a Brecwast.
Cyrchu'r gyfradd ostyngol yn Hotel Indigo
Sylwer bod y gwesty wedi neilltuo 10 ystafell ar noson 15 Ebrill a 40 ystafell ar noson 16 Ebrill. Os nad yw'r ystafelloedd hynny wedi'u cadw erbyn 1 Mawrth 2020 cânt eu cynnig i'r cyhoedd eto ar y gyfradd safonol. Gweld gwefan Hotel Indigo.
Hilton Caerdydd
- Lleoliad: Ffordd y Brenin, Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd, CF10 3HH.
- Ffôn: (+44) (0)2920 646 300
- Cyfradd: £108 y noson ar gyfradd ostyngol Prifysgol Caerdydd. Gwely a Brecwast
I gael y gyfradd ffafriol yn Hilton Caerdydd, ffoniwch y gwesty a rhoi'r cyfeirnod AHSRPC. Sylwer bod y gwesty wedi neilltuo 10 ystafell ar noson 15 Ebrill a 30 ystafell ar noson 16 Ebrill. Os nad yw'r ystafelloedd hynny wedi'u cadw erbyn 1 Mawrth 2020 cânt eu cynnig i'r cyhoedd eto ar y gyfradd safonol. Gweld gwefan Hilton Caerdydd.
Park Plaza Caerdydd
- Lleoliad: Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd, CF10 3AL.
- Ffôn: (+44) (0)2920 111 111
- Cyfradd: £100 y noson ar gyfradd ostyngol Prifysgol Caerdydd. Gwely a Brecwast
I gael y gyfradd ffafriol yn Park Plaza, Caerdydd, ffoniwch y gwesty a rhoi'r ID Bloc: 2842452. Sylwer bod y gwesty wedi neilltuo 5 ystafell ar noson 15 Ebrill a 20 ystafell ar noson 16 Ebrill. Os nad yw'r ystafelloedd hynny wedi'u cadw erbyn 1 Mawrth 2020 cânt eu cynnig i'r cyhoedd eto ar y gyfradd arferol. Gweld gwefan Park Plaza.
Jurys Inn
- Lleoliad: 1 Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3UD.
- Ffôn: (+44) (0)161 774 2983 (gwesty'n unig – nid er mwyn cadw lle)
- Cyfradd: £81 y noson ar gyfradd ostyngol Prifysgol Caerdydd. Gwely a Brecwast
I gael y gyfradd ffafriol yn Jurys Inn, ffoniwch y llinell cadw lle ar (+44) (0)161 7740 710 a rhoi'r cyfeirnod CARDIF150420. Sylwer bod y gwesty wedi neilltuo 5 ystafell ar noson 15 Ebrill a 20 ystafell ar noson 16 Ebrill. Os nad yw'r ystafelloedd hynny wedi'u cadw erbyn 1 Mawrth 2020 cânt eu cynnig i'r cyhoedd eto ar y gyfradd arferol. Gweld gwefan Jurys Inn.
Mapiau'r gynhadledd

HSRPP 2020 maps and directions
Mapiau a gwybodaeth ddefnyddiol i'w defnyddio wrth fynd o le i le yn y ddinas, yn cynnwys arwyddbyst i leoliadau'r gynhadledd, gwestai a argymhellir a gorsafoedd trên.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.

Canllaw lleoliad
Prifysgol Caerdydd Canllaw Lleoliadau 2022
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Mae modd teithio i Gaerdydd yn rhwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn car neu hedfan yma.