Ewch i’r prif gynnwys

Crynodebau

Gwybodaeth berthnasol, enghraifft o grynodeb a dolen a fydd yn caniatáu ichi gyflwyno'ch crynodeb. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Mae'r dyddiad cau ar gyfer crynodebau wedi mynd heibio. Nid ydym yn derbyn ceisiadau bellach. Os ydych wedi cyflwyno crynodeb, byddwch yn clywed gennym cyn 15 Tachwedd.

Mae Pwyllgor Dyfarnu Crynodebau Arferion Ymchwil a Fferylliaeth y Gwasanaethau Iechyd yn annog ymchwilwyr ac ymarferwyr, beth bynnag yw lefel eu profiad, i gyflwyno crynodeb ar gyfer Cynhadledd 2020. Yn ogystal â derbyn cynigion ymchwilwyr profiadol, rydyn ni’n arbennig o awyddus i dderbyn cynigion gan:

  • ymarferwyr sydd newydd ddechrau ym maes ymchwil
  • ymarferwyr sydd wedi ymchwilio i ddatblygiadau arloesol neu brofi ffyrdd newydd o wneud pethau
  • y rhai sy’n gwerthuso gwasanaethau newydd
  • myfyrwyr PhD a staff ymchwil eraill.

Derbynnir crynodebau naill ai ynghylch Ymchwil i Arferion neu’n rhan o Arddangosfa Datblygu’r Gwasanaethau Iechyd.

Cyflwyno crynodeb

  • Rhaid llwytho’ch crynodeb i fyny erbyn 5 o’r gloch brynhawn Gwener 4 Hydref 2019.
  • Beirniadir crynodebau yn ôl y meini prawf isod. Darllenwch y rhain cyn llwytho’ch crynodeb i fyny.
  • Beirniadir eich crynodeb gan adolygwyr y pwyllgor heb i’ch enw fod yn hysbys iddynt. Dileer eich enw a’ch swydd cyn y beirniadu. Dylech chi ofalu na fydd yn nheitl na thestun eich crynodeb unrhyw fanylion a allai ddatgelu pwy ydych chi (e.e. ysgrifennwch ‘Un o ymddiriedolaethau mawr y GIG’ yn hytrach nag Ymddiriedolaeth Caerdydd a Bro Morgannwg y GIG).
  • Rhoddir gwybod i bob ymgeisydd am benderfyniad y pwyllgor beirniadu erbyn dydd Gwener 15fed Tachwedd 2019. Ynghylch crynodebau y bydd angen eu hadolygu eto cyn eu derbyn, rhaid cyflwyno’r fersiynau diwygiedig erbyn 25ain Tachwedd. Rhoddir gwybod i awduron mae’u crynodebau wedi’u derbyn yn amodol am ganlyniad terfynol y beirniadu yn ystod yr wythnos a ddechrau ar 6ed Ionawr 2020.
  • Wrth gyflwyno crynodeb, rhaid datgan a yw pwyllgor moeseg wedi rhoi sêl ei fendith ar eich ymchwil neu esbonio pam nad oedd angen sêl bendith o’r fath arni. Felly, fydd dim angen cynnwys gwybodaeth am sêl bendith pwyllgor moeseg yn eich crynodeb.
  • Rhaid i bob awdur mae’i grynodeb wedi’i dderbyn gofrestru ar gyfer y gynhadledd.
  • Anfonwch unrhyw ymholiadau at: hsrpp@cardiff.ac.uk
  • Llwytho crynodebau i fyny yma

Diwyg crynodebau

  • Rhaid eu teipio mewn ffont pwynt 11.   Yn ddelfrydol, dylai crynodeb fod ar dudalen A4 heb i’r prif destun fod dros 500 o eiriau. Cewch chi gynnwys un tabl. Bydd y tabl a dau gyfeiriad heb eu cynnwys yn nifer y geiriau. Rhaid nodi cyfeiriadau yn ôl arddull Vancouver gan roi’r nifer mewn cromfachau yn y testun a linc â’r llyfryddiaeth o dan y crynodeb.
  • Dylai fod ym mhrif destun y crynodeb y penawdau canlynol:
    • Cyflwyniad
    • Nod
    • Dulliau
    • Canlyniadau
    • Casgliad

Mae enghraifft o grynodeb isod.

Ar lafar neu ar ffurf poster

  • Derbynnir crynodebau naill ai ar lafar neu ar ffurf posteri. Rhoddir rhagor o fanylion am ddiwyg cyflwyniadau ar ôl derbyn y crynodebau, gan gynnwys sesiynau tynnu lluniau o bosteri (Pecha Kucha) lle bo’n briodol.
  • Nodwch ar ffurflen cyflwyno’r crynodeb a fyddech chi’n derbyn cyfathrebu ar lafar, poster neu’r naill neu’r llall.
  • Bydd gwobrau yng nghategorïau’r posteri a’r cyflwyniadau ar lafar fel ei gilydd.

Pynciau

Croesawir papurau ar thema’r gynhadledd, sef Trawsffurfio Gofal Iechyd: Cadw’r Claf yn y Canol, er ein bod yn gwahodd testunau ar unrhyw agwedd ar arferion fferylliaeth neu ymchwil i wasanaethau iechyd lle maen nhw’n berthnasol i foddion neu fferylliaeth.

Proses adolygu crynodebau

Croesawir crynodebau o brosiectau ymchwil ansoddol a meintiol, adolygiadau o gyfundrefnau, treialon, dadansoddiadau eilaidd o setiau data ac astudiaethau o ddulliau cymysg.

Meini prawf beirniadu

PenawdauAstudiaethau meintiol ac ansoddolAdolygiadau o gyfundrefnau*
1. TeitlYdy’r teitl yn cynrychioli’r astudiaeth yn llawn?Dylai’r teitl gynrychioli’r astudiaeth yn llawn. Dylai nodi’r ymchwil yn un sy’n ymwneud â chyfundrefn, dadansoddi neu’r ddau.
2. CyflwyniadYdy’r ffenomen a’i harwyddocâd wedi’u disgrifio’n eglur?Ydy’r adolygiad yn rhoi ei rif cofrestru yn ôl trefn PROSPERO?
3. AmcanionYdy’r amcanion yn rhai eglur ac ymarferol?Ydy’r amcanion yn adlewyrchu’r hyn roedd bwriad i’w werthuso neu ei gymharu o ran deilliannau (budd/niwed) yn y cyd-destun neu’r boblogaeth o dan sylw?
4. Cynllun a dulliau’r ymchwil

a) Ydy’r ymchwil wedi’i llunio’n briodol?

b) Ydy proses casglu’r data (megis recriwtio, samplau a gweithdrefnau casglu data) yn briodol?

c) Ydy gweithdrefnau dadansoddi’r data yn briodol?

a) Ydy’r adolygiad yn nodi’r meini prawf sydd i’w cynnwys?

b) Ydy’r adolygiad yn nodi’r prif gronfeydd data sydd wedi’u chwilio a dyddiad diwethaf y chwilio?

c) Ydy’r adolygiad yn disgrifio’r ffyrdd o asesu gogwydd?

5. Canlyniadaua) Ydy’r prif ganfyddiadau wedi’u disgrifio’n eglur?

b) Oes tystiolaeth i ategu’r canfyddiadau?
a) Ydy’r adolygiad yn nodi faint o astudiaethau sydd wedi’u cynnwys a pha fath (rhaid cynnwys diagram PRISMA)?

b) Ydy’r adolygiad yn cynnwys y canlyniadau ar gyfer y prif ddeilliannau?
6. Casgliad / trafodaeth

a) Ydy goblygiadau ehangach yr astudiaeth o ran arferion, ymchwil a/neu bolisïau wedi’u trafod?

b) Ydy cryfderau a chyfyngiadau’r astudiaeth wedi’u trafod?

a) Dylai’r drafodaeth sôn am y goblygiadau i arferion, ymchwil a/neu bolisïau.

b) Dylai grynhoi cryfderau a chyfyngiadau’r dystiolaeth.

7. Derbynioldeb cyffredinolOes yn yr ymchwil unrhyw wendidau difrifol sy’n golygu na ddylid ei derbyn? 

Mae rhagor o wybodaeth am asesu ansawdd crynodebau o ymchwil ar wefan Equator.

* Ffynhonnell y meini prawf ar gyfer adolygu cyfundrefnau.

  • Beller EM, Glasziou PP, Altman DG, et al. PRISMA for Abstracts Group.
  • PLoS Med 2013;10(4):e1001419. doi: 10.1371/journal.pmed.1001419. Epub 2013 Apr 9.
  • PRISMA for Abstracts: reporting systematic reviews in journal and conference abstracts.