Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth i rieni

Hwyrach y bydd camfanteisio troseddol ar blant yn codi ofn ar bobl ifanc, eu rhieni a’u gofalwyr.

Mae'n bwysig cofio mai'r unig bobl sydd ar fai yw'r ecsbloetwyr.

Tawelwch eu meddwl

Efallai y bydd eich plentyn yn ofnus neu'n teimlo cywilydd am yr hyn sydd wedi digwydd. Efallai bod yr ecsbloetwyr wedi dweud wrtho nad ydych chi’n ei garu, neu y bydd yn cael ei arestio neu ei ddwyn i ofal awdurdod lleol. Dylech chi dawelu ei feddwl gan ddweud wrtho eich bod yn ei garu a’ch bod eisiau ei helpu a'i gefnogi.

Gwrandewch heb farnu

Efallai y bydd eich plentyn yn dweud pethau wrthych chi sy'n peri pryder neu sy'n codi ofn arnoch chi. Mae’n bwysig eich bod yn gwrando, gan greu lle diogel lle gallwch chi siarad am bethau’n rhwydd.

Efallai y bydd yn anodd os yw eich plentyn yn ymddwyn yn ymosodol, yn mynd ar goll neu’n eich beio. Mae'r ecsbloetwyr eisiau ei droi yn eich erbyn: maen nhw eisiau i'ch plentyn gael ei ynysu. Efallai y bydd eich plentyn hefyd yn ceisio eich amddiffyn rhag yr hyn y mae wedi'i brofi.

Gofyn am help

Siaradwch â pherthynas, ffrind neu arweinydd ffydd rydych chi’n ymddiried ynddo. Cysylltwch â sefydliad sydd â gwybodaeth arbenigol am gamfanteisio troseddol ar blant.

Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun, ac y bydd pethau'n gwella. Bydd rhieni eraill yn eich ardal chi sydd mewn sefyllfa debyg.

Cofnodi digwyddiadau

Bydd dod o hyd i’r ffaith bod camfanteisio troseddol ar blant yn digwydd yn beth heriol weithiau. Cadwch gofnod o fathau o ymddygiad a digwyddiadau sy’n peri pryder ichi: enwau ffrindiau neu bobl y mae eich plentyn yn siarad amdanyn nhw, tocynnau bws neu drên ar gyfer teithiau anarferol neu annisgwyl, rhifau cofrestru ceir. Mae hyn yn helpu i greu darlun o'r hyn sy'n digwydd ac yn dystiolaeth y gall yr heddlu ymchwilio iddi.

Gellir rhannu'r cofnod â gweithwyr proffesiynol i ddangos pa mor hir rydych chi wedi bod yn poeni a'r arwyddion o rybudd rydych chi wedi sylwi arnyn nhw.

Rhowch wybod eu bod ar goll

Os bydd eich plentyn yn mynd ar goll, rhowch wybod i'r heddlu.

Os ydych chi’n pryderu ei bod yn bosibl y bydd yn mynd ar goll, llenwch ffurflen Protocol Philomena am eich plentyn, ei ffrindiau, a'i arferion arferol. Cadwch gopi i'w roi i'r heddlu os bydd eich plentyn yn mynd ar goll.