Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Datblygwyd Diogelu Cymhleth Cymru gan ymchwilwyr yn CASCADE: y Ganolfan Ymchwil a Datblygiad Plant.

Ymchwiliodd y prosiect ymchwil i’r ffordd yr oedd plant yn destun camfanteisio’n droseddol yng Nghymru, gan gyfeirio’n benodol at ddelio cyffuriau a’r model o gyflenwi cyffuriau ar draws ffiniau’r heddluoedd.

Gofynnon ni:

  1. Sut mae camfanteisio’n droseddol ar blant yn amlygu ei hun yng Nghymru?
  2. Pa ddulliau ac ymyraethau sydd fwyaf effeithiol er mwyn adnabod ac atal camfanteisio’n droseddol ar blant?

Cafodd ein hymchwil gyngor gan grŵp o bobl ifanc, rhieni, ac ymarferwyr o sefydliadau statudol, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaethau plant, tai, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, y gwasanaethau ieuenctid a sefydliadau’r trydydd sector. Nhw a luniodd y canllawiau a'r adnoddau ar y wefan hon.

Roedd ein gwaith yn dilyn egwyddorion cyd-greu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) (2014), sy’n nodi y dylai gweithwyr proffesiynol weithio gyda’r rheini y mae angen gofal a chymorth arnynt i ddod o hyd i atebion.