Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau cymorth

Gwasanaethau cymorth i rieni

Gweithredu dros Blant
Cymorth i blant a phobl ifanc agored i niwed a'u teuluoedd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a sefydliadau yn y trydydd sector.
Barnardo’s CymruCymorth i blant agored i niwed a'u teuluoedd, gan gynnwys cefnogaeth arbenigol i blant a phobl ifanc sydd wedi'u masnachu, gan eu Gwasanaeth Gwarcheidiaeth Annibynnol yn erbyn Masnachu Plant.
Canolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein y DU (CEOP)Mae’r Ganolfan yn rhoi gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sy'n poeni am gam-drin neu gyfathrebu ar-lein. Bydd un o Gynghorwyr Amddiffyn Plant y Ganolfan yn cysylltu â rhieni sy'n gwneud adroddiad ar-lein.
CrimestoppersElusen annibynnol sy’n ei gwneud yn rhwydd i rieni, gofalwyr a phobl ifanc roi gwybod am drosedd yn ddienw.
Dewis CymruCyfeiriadur ar-lein o sefydliadau lleol a chenedlaethol.
FearlessUn o wasanaethau ieuenctid Crimestoppers sydd wedi’i anelu at bobl ifanc rhwng 11 a 17 oed ac sy’n rhoi gwybodaeth iddynt, yn eu galluogi i roi gwybod am drosedd yn ddienw yn ogystal â dolenni i gael cymorth a chefnogaeth.
HwbLlwyfan digidol i fyd addysgu a dysgu yng Nghymru sy’n cynnig ystod o adnoddau am sut i gadw’n ddiogel ar-lein ac i’r rheini sy’n poeni am bobl sy’n meithrin perthynas amhriodol ar-lein.
Gwasanaeth Gwarcheidiaeth Annibynnol yn erbyn Masnachu PlantMae gan y gwasanaeth hwn gan Barnardo's Cymru ystod o gymorth arbenigol yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc wedi’u masnachu.
LlamauElusen sy’n rhoi cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc, menywod a phlant sy’n agored i niwed i atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd.
Missing PeopleCymorth cyfrinachol i chi a'ch plentyn drwy eu gwasanaeth SafeCall. Dyma le diogel i siarad am eich pryderon a derbyn arweiniad ar ymarfer, yn ogystal ag ystod o ganllawiau defnyddiol gan gynnwys beth i'w wneud pan fydd rhywun newydd fynd ar goll a sut i roi gwybod bod rhywun ar goll.
Llinell Gymorth Caethwasiaeth FodernGwasanaeth cyfrinachol yn rhad ac am ddim sydd ar gael mewn 20 iaith, 24 awr y dydd i rieni, darpar ddioddefwyr a gwasanaethau.
Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC)Elusen sy'n rhoi ystod o gymorth a chefnogaeth i blant a theuluoedd.
PACE UK (Rhieni yn Erbyn Camfanteisio ar Blant)Elusen genedlaethol sy’n cefnogi rhieni i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel, gan roi gwybodaeth i rieni a gweithwyr proffesiynol am gamfanteisio troseddol ar blant.
Ymddiriedolaeth St Giles CymruElusen sy'n cynnig cymorth, cyngor a hyfforddiant yn y gymuned i bobl ifanc sy'n destun camfanteisio troseddol.
Cymdeithas y PlantElusen genedlaethol i blant sy’n cynnig cymorth a chefnogaeth i blant, pobl ifanc, a’u teuluoedd, a cheir gwybodaeth gynhwysfawr am gamfanteisio troseddol ar blant a llinellau cyffuriau.

Gwasanaethau cymorth i bobl ifanc

Canolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein y DU (CEOP)Mae’r Ganolfan yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar fod yn ddiogel ar-lein.
ChildlineGwasanaeth preifat a chyfrinachol am ddim sydd ar gael i blant a phobl ifanc dan 19 oed.
FearlessAr gael i bobl ifanc 11-17 oed 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, yn rhan o Crimestoppers ac yn rhoi gwybodaeth, yn eu galluogi i roi gwybod am drosedd yn ddienw yn ogystal â dolenni i gael cymorth a chefnogaeth.
FRANKGwefan sy’n rhoi gwybodaeth am alcohol a chyffuriau, sut i ddelio â phwysau cyfoedion, yr hyn i’w wneud mewn argyfwng a’r hyn i’w wneud os ydych chi’n pryderu am ffrind.
LlamauElusen sy’n rhoi cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc, menywod a phlant sy’n agored i niwed i atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd.
Meic CymruLlinell gymorth gyfrinachol a dienw am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru yw Meic Cymru.
Missing People
Dyma le diogel i siarad am eich pryderon a chael arweiniad ar y rhain
yr hyn i'w wneud pan fydd rhywun newydd fynd ar goll a sut i roi gwybod bod rhywun ar goll.
Ymddiriedolaeth St GilesElusen sy'n cynnig cymorth, cyngor a hyfforddiant yn y gymuned i bobl ifanc sy'n destun camfanteisio troseddol.