Cymorth tai ar gyfer eich plentyn
Mae gan bawb hawl i gael eu diogelu rhag bygythiadau, trais ac ymddygiad bygythiol, waeth beth fo'u hoedran.
Efallai y gwelwch nad ydych chi a'ch teulu yn teimlo'n ddiogel yn eich cartref eich hun. Gall hyn fod oherwydd bod eich plentyn yn cael ei dargedu gan gamfanteiswyr sy’n byw yn eich ardal neu oherwydd eich bod chi a'ch plentyn yn wynebu bygythiadau a/neu drais go iawn.
Dylai fod gan sefydliadau tai Arweinydd Diogelu Dynodedig (DSL) a all godi ymwybyddiaeth a chynnig cymorth a chefnogaeth i ymarferwyr tai. Dylai'r DSL ddatblygu a chynnal cysylltiadau â gwasanaethau a sefydliadau lleol a chenedlaethol arbenigol i gael rhagor o gymorth a chefnogaeth.
Siarad â gweithwyr tai proffesiynol
Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gymwys i gael cymorth tai brys.
Os ydych chi'n cael cymorth gan weithwyr proffesiynol eraill, gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu llythyr o gefnogaeth ar eich cyfer. Gallai hyn gynnwys llythyr gan eich meddyg teulu, athro/athrawes eich plentyn, Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol, neu weithiwr proffesiynol arall.
Cadwch gofnod o ddigwyddiadau y gallwch eu rhannu gyda'ch awdurdod lleol.
Os nad yw'ch plentyn yn byw gyda chi, gallwch eirioli ar eu rhan gyda darparwyr gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys rhoi gwybod i wasanaethau am anghenion eich plentyn a gweithio gyda nhw i fynd i'r afael â'r anghenion hyn.