Ewch i’r prif gynnwys

Camfanteisio’n droseddol ar blant

Math o gam-drin plant yw camfanteisio’n droseddol ar blant.

Bydd yn digwydd pan fydd oedolion neu bobl ifanc hŷn yn twyllo, yn cymell neu’n gorfodi pobl ifanc i gyflawni troseddau. Mae hyn fel arfer yn gysylltiedig â throseddau sy’n ymwneud â chyffuriau, ond bydd weithiau’n cynnwys mathau eraill o droseddau hefyd megis bwrgleriaeth, lladrad, twyll neu droseddau treisgar.

Mae’n bosibl i unrhyw berson ifanc fod yn destun camfanteisio troseddol. Efallai na fydd pobl ifanc yn sylweddoli eu bod yn cael eu defnyddio. Mae ecsbloetwyr yn newid y ffyrdd y byddan nhw’n gweithredu er mwyn osgoi cael eu canfod.

Bu cynnydd o ran targedu merched, myfyrwyr prifysgol, 'crwyn glân', sef pobl ifanc nad yw’r gwasanaethau’n gwybod amdanyn nhw.

Tri model o gamfanteisio

Mae tri model o gamfanteisio’n droseddol ar blant: camfanteisio llinellau cyffuriau, llinellau aneglur, a modelau cyflenwi traddodiadol.

Camfanteisio llinellau cyffuriau

Yn aml, bydd grwpiau llinellau cyffuriau yn defnyddio trais, bygwth neu orfodaeth i gymryd mantais ar bobl ifanc. Bydd pobl ifanc yn cael eu masnachu i Gymru o ddinasoedd Lloegr a’u defnyddio neu eu gorfodi i gludo cyffuriau, arfau neu arian.

Llinellau aneglur

Mewn rhai rhannau o Gymru, mae grwpiau lleol wedi cadw rheolaeth dros ardal, gan allforio cyffuriau i ardaloedd eraill.

Hwyrach y bydd grwpiau lleol o’r naill ran o Gymru yn masnachu pobl ifanc i’r llall, neu’n eu masnachu yn yr un ardal leol. Mae'n bosibl y byddan nhw'n gwerthu cyffuriau'n lleol, gan ddefnyddio gwasanaethau bws i ddychwelyd adref yr un diwrnod.

Mae'n anos dod o hyd i bobl ifanc mewn llinellau aneglur. Maen nhw’n llai tebygol o gael eu diogelu.

Modelau cyflenwi traddodiadol

Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae cyflenwi cyffuriau wedi parhau’r un fath: dan reolaeth unigolion lleol neu 'deuluoedd trosedd'. Hwyrach y bydd troseddoldeb yn cael ei normaleiddio yn y cymunedau hyn.

Efallai y bydd disgwyl i bobl ifanc fynd i mewn i'r 'busnes teuluol', neu gael eu gorfodi neu eu twyllo i droseddu gan aelodau o'r teulu. Efallai y byddan nhw’n wynebu bygythiadau o drais os byddan nhw’n gwrthod.

Mae'r bobl ifanc hyn yn llai tebygol o gael eu diogelu neu eu hystyried yn ddioddefwyr: maen nhw’n fwy tebygol o gael eu hystyried yn bobl sy’n 'dewis y ffordd hon o fyw'.

Plant sy’n destun camfanteisio

Caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl

Defnyddir y termau hyn pan fydd plant neu oedolion yn destun camfanteisio neu’n cael eu gorfodi i fywyd sy’n llawn cam-drin a llafur gorfodol. Hwyrach y byddan nhw’n cael eu masnachu o’r naill wlad i'r llall, neu o’r naill ran o dref yng Nghymru i'r llall.

Camfanteisio’n rhywiol ar blant

Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn fath o gam-drin plant sy’n cynnwys unrhyw fath o weithgarwch rhywiol.

Hwyrach y bydd hyn yn cynnwys oedolion neu bobl ifanc hŷn sy’n datblygu perthynas â pherson ifanc er mwyn ei reoli neu gymryd mantais arno. Nid oes rhaid i hyn gynnwys cysylltiad corfforol, a hwyrach y bydd yn digwydd drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Efallai y bydd rhai pobl ifanc yn destun camfanteisio’n droseddol ac yn rhywiol, neu gellir defnyddio un math o gamfanteisio i’w gorfodi i gymryd rhan yn y llall.

Camfanteisio ar blant yn ariannol

Mae camfanteisio ar blant yn ariannol yn digwydd pan fydd oedolion neu bobl ifanc hŷn yn twyllo pobl ifanc i agor neu drosglwyddo cyfrif banc fel y gellir ei ddefnyddio i wyngalchu arian.

Bu cynnydd hefyd mewn 'fflipio arian' pan fydd oedolion neu bobl ifanc hŷn yn cynnig gwneud buddsoddiadau tymor byr am elw mawr. Efallai y bydd pobl ifanc yn anfon eu cynilion drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ond cânt eu rhwystro wedyn ac nid oes modd iddyn nhw adennill eu harian.