Deall camfanteisio troseddol ar blant
Mae’n bosibl i unrhyw berson ifanc o unrhyw gefndir fod yn destun camfanteisio troseddol.
Mae ecsbloetwyr yn chwilio am bobl ifanc sy’n llai tebygol o gael eu hamau gan eu rhieni, eu hathrawon, yr heddlu ac oedolion eraill. Mae ecsbloetwyr yn defnyddio merched a phobl ifanc o aelwydydd cariadus i gyflawni troseddau. Maen nhw hefyd yn defnyddio pobl ifanc o bob ethnigrwydd gwahanol.
Nid y rhieni na’r gofalwyr sydd ar fai. Mae ecsbloetwyr yn defnyddio ffyrdd soffistigedig o beri i bobl ifanc ymddiried ynddyn nhw.
Efallai na fydd pobl ifanc yn sylweddoli hyn
Efallai y bydd pobl ifanc yn meddwl bod y rheini sy'n camfanteisio yn ffrindiau iddynt.
Efallai eu bod yn meddwl bod ecsbloetwyr yn poeni amdanyn nhw oherwydd eu bod yn mynd â nhw allan am bryd o fwyd, yn prynu pethau iddyn nhw neu’n eu diogelu.
Hwyrach y bydd ecsbloetwyr yn annog pobl ifanc i feddwl eu bod yn poeni mwy amdanyn nhw na’u teuluoedd. Efallai y byddan nhw’n ceisio ynysu pobl ifanc oddi wrth eu rhieni a’u gofalwyr a/neu’n eu bygwth â thrais.
Cyfeillion a bwyd
Pan gynigir cyfeillgarwch, diwrnodau allan a’r cyfle i fod yn rhan o grŵp i bobl ifanc, efallai na fyddan nhw’n gwybod eu bod yn cael eu defnyddio. Efallai y byddan nhw'n meddwl bod yr ecsbloetwyr yn poeni amdanyn nhw ac y byddan nhw'n eu helpu.
Yn hytrach na'u hwynebu, efallai y bydd rhieni a gofalwyr eisiau ceisio annog eu plentyn i feddwl am yr hyn y mae'n rhaid iddo ei wneud yn gyfnewid am y 'cyfeillgarwch' hwn.
Mae ecsbloetwyr yn addo 'arian rhwydd'
Efallai y bydd pobl ifanc yn meddwl bod yr ecsbloetwyr yn eu helpu i ennill symiau mawr o arian fel y gallan nhw gefnogi eu teuluoedd neu brynu’r pethau y maen nhw’n eu gweld ar y cyfryngau cymdeithasol, fel esgidiau hyfforddi drud, dillad brand a cheir moethus.
Cyllid ac ofn
Efallai y bydd pobl ifanc yn credu mai dyma'r unig ffordd sydd ganddyn nhw o ennill arian i gynnal eu hunain. Yn aml, dim ond pan fydd hi'n rhy hwyr y maen nhw'n sylweddoli eu bod yn cael eu defnyddio. Maen nhw’n cael eu bygwth neu'n destun trais. Hwyrach y byddan nhw’n teimlo ofn, cywilydd neu’n gyfrifol am y sefyllfa.
Nid yw pobl ifanc byth yn gyfrifol am gael eu camfanteisio'n droseddol. Dioddefwyr ydyn nhw oherwydd unigolion neu grwpiau mwy pwerus sy'n fedrus wrth dwyllo pobl ifanc i'w gorfodi i droseddu. Mae ecsbloetwyr yn cuddio y tu ôl i bobl ifanc.