Ewch i’r prif gynnwys

Noson Agored i Ôl-raddedigion - Prifysgol Caerdydd, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Dydd Gwener, 8 Mawrth 2019
Calendar 17:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Glamorgan Building / Adeilad Morgannwg

Bydd Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn cynnal Noson Agored i Ôl-raddedigion rhwng 5.00pm a 7.00pm nos Wener 8 Mawrth 2019 yn yr Ystafelloedd Pwyllgor, Adeilad Morgannwg, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd.

Bydd y digwyddiad hwn ar ffurf Ffair Wybodaeth fydd yn helpu ymwelwyr i ddysgu mwy am gyfleoedd ôl-raddedig yr Ysgol, gan gynnwys:

  • Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig (PhD a Doethuriaeth Broffesiynol)
  • Rhaglenni Proffesiynol (TAR, Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol)
  • Rhaglenni Meistr Ôl-raddedig a Addysgir gan gynnwys MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol

Cewch gyfle i siarad â staff allweddol o’r gwasanaethau academaidd a phroffesiynol sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn yn ogystal â chwrdd â myfyrwyr presennol. Bydd gwybodaeth hefyd ar gael am wasanaethau cefnogi myfyrwyr, cyfleoedd i gael cyllid, a sut i gyflwyno cais.

Darperir lluniaeth ysgafn.

Mae croeso i bawb ond cofiwch gofrestru.

Cewch ragor o wybodaeth am ein rhaglenni ôl-raddedig yma:

http://www.cardiff.ac.uk/cy/social-sciences/courses

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch â socialscienceadmissions@caerdydd.ac.uk

Gwarchod data

Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn rhoi caniatâd i ni brosesu eich data. Mae gennych yr hawl i newid eich meddwl a gwrthod rhoi eich caniatâd i ni brosesu eich data ar unrhyw adeg (cysylltwch â socialscienceadmissions@caerdydd.ac.uk).

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cadw’r wybodaeth a gyflwynir gennych yn unol â Pholisi Diogelu Data y Brifysgol.

Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw am un flwyddyn ar ôl dyddiad y digwyddiad.

Rydym yn defnyddio Eventbrite i brosesu gwybodaeth am unigolion sy"n cofrestru ar gyfer ein digwyddiadau. Gallwch ddarllen polisi preifatrwydd Eventbrite i gael gwybod sut maent yn rheoli data defnyddwyr:
https://www.eventbrite.com/support/articles/en_US/Troubleshooting/eventbrite-eu-data-protection

Maen ddrwg gennym bod rhywfaint o"r testun a"r cwestiynau yn Eventbrite ar gael yn Saesneg yn unig.

Gweld Noson Agored i Ôl-raddedigion - Prifysgol Caerdydd, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ar Google Maps
Committee Rooms / Ystafelloedd Pwyllgor
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn