Deall Tsieina’n Well: Gong'an (Koan) a Chan (Zen)
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Deall Chan trwy gyflwyno straeon Gong'an (Koan)
Dydd Llun 20 Mai 2024
Ystafell 1.77/Siambr y Cyngor, Prif Adeilad
12:00 i 13:30
Croeso i bawb
Chan Bwdhaidd yw'r ysgol Tsieineaidd fwyaf dylanwadol. Mae'n tarddu o India, fe'i ffurfiwyd yn Tsieina, ac yna ymledodd i Japan. Fe'i cyfieithwyd i Zen yn Japan ac fe'i cyflwynwyd i'r byd Gorllewinol ar ddiwedd y 19eg ganrif.
Mae Chan yn gadael i rywun weld i mewn i wir natur person a dod yn Fwdha trwy bwyntio'n uniongyrchol at y meddwl dynol. Sut ydych chi'n pwyntio'n uniongyrchol at y meddwl dynol ac yn rhoi goleuedigaeth sydyn i bobl? Un o'r ffyrdd pwysig yw'r Gong'an (Koan).
Bydd y cyflwyniad hwn yn rhoi dealltwriaeth gyffredinol i'r gynulleidfa o Chan trwy gyflwyno straeon Gong'an (Koan).
Mae cyflwyniadau Deall Tsieina’n Well, a arweinir gan diwtoriaid o Sefydliad Confucius Caerdydd, yn cynnig cyfle gwych i ymchwilio'n ddyfnach i ddiwylliant ac iaith Tsieina. O ddysgu am de Tsieineaidd traddodiadol i Opera Beijing a'r grefft o dorri papur ac origami, mae rhywbeth at ddant pawb.
Trefn y digwyddiad
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn person.
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 8 Mai i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd.
Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.
Asesiad risg
Cynhaliwyd asesiad risg ar gyfer y digwyddiad hwn. Os hoffech weld copi o'r asesiad risg, e-bostiwch mlang-events@caerdydd.ac.uk
Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT