Ewch i’r prif gynnwys

Glywsoch chi'r un am ddyn yn diflannu i mewn i lyfr hanes? Ystyried unigolion yn rhan o'r cof torfol

Dydd Mercher, 20 Mawrth 2024
Calendar 16:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of electric pylons in the snow with a dark, cloudy sky
Darlith gyhoeddus gyda Michal Iwanowski, artist o Gaerdydd ac yn ddarlithydd mewn ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd
Croeso i bawb

Cynhelir y digwyddiad hwn yn rhan o'r thema ymchwil Hanes a Threftadaeth.

Crynodeb

Atgofion pwy sy’n cyrraedd y llyfrau hanes? O olrhain dihangfa ffoadur o wersyll carcharorion rhyfel Sofietaidd ym 1945, i gerdded ar draws Ewrop ar ôl Brexit o'i gartref yng Nghymru i'w gartref yng Ngwlad Pwyl, bydd Michał Iwanowski yn bwrw golwg ar brofiadau personol, sy'n aml yn cael eu hanwybyddu, a’r cofnod o ddigwyddiadau hanesyddol. Gan ddefnyddio ei waith celf fel canolbwynt, bydd yn trafod rôl archifol tirwedd; cerdded pellteroedd hir; a gallu neu anallu ffotograffiaeth i drwsio cysylltiadau rhwng hanes a'r cof.

Bywgraffiad

Mae Michal Iwanowski (ganed yn 1977) yn artist o Gaerdydd ac yn ddarlithydd mewn ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ei waith yn seiliedig ar y traddodiad dogfennol ac mae'n dod â ffotograffiaeth, testun, deunyddiau archifol ac elfennau o berfformio at ei gilydd - yn enwedig cerdded pellteroedd hir. Cyhoeddwyd monograff cyntaf Iwanowski, 'Clear of People' yn 2017, ac mae disgwyl i'w ail lyfr, 'Go home Polish' gael ei gyhoeddi yn 2024. Mae ei waith yng nghasgliad parhaol nifer o sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys Amgueddfa Celf Gyfoes Zagreb ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Trefn y digwyddiad a recordio

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn person.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Llun 18 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Cofrestrwch am y digwyddiad.

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Asesiad risg

Cynhaliwyd asesiad risg ar gyfer y digwyddiad hwn. Os hoffech weld copi o'r asesiad risg, e-bostiwch mlang-events@caerdydd.ac.uk

Hysbysiad Diogelu Data

Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.